Sut i hawlio Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) os oes gennych chi salwch angheuol (terfynol)

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os oes gennych chi salwch angheuol, dylech gael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn awtomatig. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi eich cais ar lwybr carlam - mae hyn yn golygu:

  • ni fydd angen i chi lenwi cymaint o ffurflenni

  • ni fydd yn rhaid i chi gael asesiad wyneb yn wyneb

  • dylech gael eich taliad cyntaf yn gynt

Rheolau cymhwyster os oes gennych chi salwch angheuol

I gael PIP:

  • mae angen i chi fod yn 16 mlwydd oed o leiaf pan fyddwch yn gwneud cais

  • fel arfer mae angen i chi fod yn byw yng Nghymru neu Loegr pan fyddwch yn gwneud cais

  • rhaid i'ch meddygon ddweud y gallech farw o fewn 12 mis

Mae yna reolau ychwanegol y mae’n rhaid i chi eu bodloni os nad ydych yn ddinesydd y DU.

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Mae yna reolau ychwanegol os ydych chi’n gwneud cais newydd am PIP ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch wirio oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Gwiriwch a allwch gael PIP ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Sut i hawlio

I hawlio, ffoniwch linell hawlio PIP a threfnwch i’ch meddyg neu ymgynghorydd anfon ffurflen feddygol o’r enw SR1i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Llinell hawlio Taliad Annibyniaeth Bersonol

Rhif ffôn: 0800 917 2222

Ffôn testun: 0800 917 7777

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 917 2222

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch gael gwybod sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Galw o dramor: +44 191 218 7766

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Ni fydd angen i chi gael asesiad iechyd neu gwblhau ffurflen hawlio PIP yn disgrifio ‘Sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi’.

Bydd gennych chi hawl i’r gyfradd uwch o elfen byw dyddiol PIP ar unwaith. Does dim rhaid i chi aros 3 mis i’r cyfnod cymhwyso PIP ddod i ben.

Fyddwch chi ddim yn cael elfen symudedd PIP yn awtomatig. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n cael trafferth wrth symud o gwmpas neu fynd allan. Er enghraifft, dywedwch wrthynt pa mor bell a pha mor gyflym rydych chi’n gallu cerdded cyn i’r problemau hyn ddechrau.

Dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os:

  • na allwch chi gerdded heb boen, heb fynd allan o wynt neu heb help

  • ydych chi angen cadair olwyn, ffon neu gymorth arall

  • yw straen a gorbryder yn ei gwneud hi’n anodd i chi fynd allan

Gallwch weld beth mae’r Adran Gwaith a Phensiynau eisiau ei wybod am broblemau gyda:

Werth gwybod

Gall rhywun arall hawlio ar ran person â salwch angheuol. Er enghraifft, oherwydd nad yw’r person yn gwybod bod ganddo salwch angheuol. Os ydych chi’n gwneud hyn, dywedwch wrth y person fod cais am PIP yn cael ei wneud, hyd yn oed os nad yw’n gwybod mai’r rheswm am hynny yw bod ganddo salwch angheuol.

Gwybodaeth fyddwch chi ei hangen cyn ffonio

Dylai gymryd llai na 20 munud i gwblhau’r alwad. Bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol:

  • eich enw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn

  • eich rhif yswiriant gwladol

  • manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu

  • eich cenedligrwydd neu statws mewnfudo

  • manylion cyswllt eich meddyg teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n eich gweld

  • os ydych chi wedi aros mewn ysbyty neu fath arall o ofal preswyl, y dyddiadau a’r manylion

  • os ydych chi wedi bod dramor am 4 wythnos neu fwy yn y 3 blynedd diwethaf (y dyddiadau a’r rheswm)

  • os ydych chi wedi cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) – efallai na fydd angen iddynt weld y SR1 os ydych chi wedi ei anfon i hawlio ESA

Pan fyddwch yn ffonio, bydd y cynghorydd yn gofyn cwestiynau i chi ynghylch pa mor anodd yw hi i chi symud o gwmpas - er enghraifft, eich gallu i ddilyn llwybr, ac a oes angen help arnoch i gyrraedd pen eich taith. Diben hyn yw gweld a allwch chi gael rhagor o PIP i’ch helpu gyda’ch anghenion symudedd.

Cael eich adroddiad meddygol SR1

Bydd angen i chi anfon adroddiad meddygol o’r enw SR1 i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Dim ond eich meddyg all gwblhau’r adroddiad hwn. Does dim rhaid i chi dalu amdano. 

Os ydych chi yn Lloegr, gofynnwch iddo e-bostio’r SR1 i’r Adran Gwaith a Phensiynau i arbed amser.

Os oes angen i chi bostio’r SR1 i’r DWP, ffoniwch y llinell hawlio PIP i weld pa gyfeiriad i’w ddefnyddio.

Llinell hawlio Taliad Annibyniaeth Bersonol

Rhif ffôn: 0800 917 2222

Ffôn testun: 0800 917 7777

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 917 2222

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch gael gwybod sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Galw o dramor: +44 191 218 7766

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Werth gwybod

Peidiwch ag oedi’ch cais drwy aros am yr adroddiad SR1. Gwnewch eich hawliad cyn gynted â phosib ac anfonwch yr adroddiad SR1 maes o law. Os ydych chi wedi defnyddio SR1 ar gyfer hawliad ESA yna dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau oherwydd mae’n bosib na fydd angen iddynt weld SR1 arall.

Camau nesaf

Unwaith i’r Adran Gwaith a Phensiynau gael eich adroddiad SR1, bydd yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’ch cais. Byddwch yn cael eich taliad cyntaf o fewn pythefnos o ymgeisio fel arfer.

Os cewch eich gwrthod am PIP o dan y rheolau salwch angheuol, gallwch wneud cais yn y ffordd arferol - darllenwch sut i hawlio PIP

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.