C13: mynd allan

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Beth mae’r cwestiwn yn ei olygu

Mae’r cwestiwn hwn yn gofyn sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi:

  • gynllunio a dilyn llwybr i rywle rydych chi’n ei adnabod (does dim ots sut rydych chi’n cyrraedd yno)

  • cynllunio a dilyn siwrne bws neu drên i rywle dieithr

  • ymdopi mewn llefydd dieithr

  • os yw’n berthnasol, gadael y tŷ oherwydd straen neu orbryder

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau eisiau gwybod sut rydych chi’n ymdopi â theithiau hir a byr – meddyliwch am fynd i lefydd lleol (fel siop leol, tŷ ffrind neu le dydych chi ddim yn ei adnabod). Dydyn nhw ddim eisiau gwybod am eich gallu i gerdded – gallwch ddisgrifio’ch anawsterau cerdded yng nghwestiwn 14.

Mae’r cwestiwn hwn yn arbennig o bwysig os oes gennych chi anawsterau gyda’ch golwg neu’ch clyw, anableddau dysgu, awtistiaeth, straen, gorbryder neu unrhyw gyflwr iechyd meddwl.

Cwestiwn 13a

"Ydych chi angen help rhywun arall i gynllunio taith i rywle rydych chi’n ei adnabod yn dda? Neu ydych chi angen rhywun arall, ci tywys neu gymorth arbenigol i’ch helpu i gyrraedd yno?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Seiliwch eich ateb ar yr hyn gallwch chi ei wneud y rhan fwyaf o’r amser. Dylech ateb “ydw” siŵr o fod:

  • os ydych chi angen help ond dydych chi ddim yn ei gael

  • os yw’ch straen, gorbryder neu gyflwr iechyd meddwl arall yn ei gwneud hi’n anodd i chi fynd allan

  • os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi gyda thorfeydd mawr neu sŵn uchel

  • os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi â newidiadau annisgwyl i daith – er enghraifft, gwaith ffordd neu wyriadau

  • os ydych chi ond yn ceisio teithio ar adegau tawel o’r dydd – er enghraifft, pan nad yw’r siopau’n brysur neu mae llai o draffig ar y ffordd 

Cwestiwn 13b

"Ydych chi angen help rhywun arall, ci tywys neu gymorth arbenigol i gyrraedd lleoliad dieithr?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Dylech ateb “ydw” siŵr o fod:

  • os ydych chi angen help ond dydych chi ddim yn ei gael

  • os oes rhywun yn eich helpu neu’n eich annog i fynd allan

  • os oes rhywun yn mynd allan gyda chi

  • os yw’ch cyflwr iechyd meddwl yn gwneud defnyddio bws neu drên yn anodd

  • os na allwch chi gynllunio taith i le dieithr eich hun

  • os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi gyda newidiadau annisgwyl i daith – er enghraifft, gwyriadau bws, trên wedi’i ganslo

Cwestiwn 13c

"Ydych chi'n methu mynd allan oherwydd gorbryder difrifol neu drallod?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Peidiwch â gadael i’r gair ‘difrifol’ eich drysu – mae gorbryder a thrallod yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.

Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu

Pwysig

Mae’n bwysig dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.

Dyma’ch cyfle i roi darlun llawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i gynllunio neu ddilyn taith, neu fynd allan. Byddant yn defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.

Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn i egluro pa help rydych chi ei angen ond ddim yn ei gael hefyd.

Teclynnau cyfeirio a chŵn tywys

Rhestrwch unrhyw declynnau cyfeirio sy’n eich helpu i ddilyn taith – er enghraifft, cwmpawd, ffon dywys neu fap ar gyfer pobl â nam ar y golwg. Gallwch restru ci tywys fel “cymorth” hefyd.

Peidiwch â hepgor unrhyw declynnau oddi ar eich rhestr am eich bod chi’n meddwl eu bod nhw’n amlwg, a chofiwch ym mhob achos:

  • egluro sut maen nhw’n eich helpu

  • egluro beth fyddai’n digwydd pe na fyddech chi’n eu defnyddio

  • datgan yn glir os oes gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cynghori i’w defnyddio

  • cynnwys unrhyw gymorth/teclyn a fyddai’n eich helpu pe baen nhw gennych chi

  • cynnwys unrhyw gymorth/teclynnau mae’ch cyflwr yn eich atal rhag eu defnyddio – er enghraifft, mae’ch arthritis yn golygu na allwch chi ddal ffon 

Werth gwybod

Eglurwch os ydych chi’n defnyddio cymorth/teclyn i leihau symptomau meddyliol neu gorfforol fel straen, dryswch, ofn neu orbryder pan fyddwch chi allan. Pwysleisiwch os mai dim ond lleihau’r teimlad hwnnw mae’n ei wneud a’ch bod yn profi rhywbeth o hyd.

Mae rhywun yn eich helpu, annog neu sicrhau

Dywedwch yn glir os ydych chi angen help ond ddim yn ei gael.

Os ydych chi’n cael help, dywedwch pwy sy’n eich helpu (er enghraifft, perthynas neu gyfaill) ac eglurwch:

  • pam mae’n eich helpu

  • sut mae’n helpu

  • pa mor aml mae’n eich helpu

Nodwch yn glir os ydych chi angen iddo:

  • gynllunio teithiau

  • egluro pethau i chi

  • eich annog i adael y tŷ

  • eich sicrhau fel eich bod yn teimlo’n ddiogel neu’n dawel eich meddwl

  • ymwneud â phobl eraill ar eich rhan oherwydd bod hynny’n anodd i chi

Cofiwch egluro os oes (neu os byddai) risg i’ch diogelwch pe na fyddech yn cael yr help hwnnw.

Yr amser mae’n cymryd

Meddyliwch a yw’n cymryd o leiaf ddwywaith mor hir i chi gynllunio neu ddilyn taith â rhywun heb eich cyflwr.

Ceisiwch egluro pa mor hir mae’n cymryd. Mae’n iawn rhoi amcan ond dywedwch os mai amcan yw e. Os yw’n rhy anodd rhoi amcan, eglurwch pam – er enghraifft, mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio.

Cofiwch:

  • gynnwys amser ar gyfer seibiannau os oes eu hangen arnoch

  • egluro os yw’n cymryd hyd yn oed mwy o amser i chi ar ddiwrnod drwg

  • dweud os yw’n cymryd mwy o amser po fwyaf aml y mae’n rhaid i chi gynllunio neu ddilyn taith mewn diwrnod

Diwrnodau da a diwrnodau gwael

Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.

Nodwch yn glir:

  • os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael

  • pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael

  • os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio

  • os ydych chi’n fwy tebygol o fod yn ddryslyd neu’n anghofus ar ddiwrnod drwg

  • sut mae’ch anawsterau a’ch symptomau’n amrywio ar ddiwrnodau da a gwael – er enghraifft, mae’n cymryd mwy o amser i chi gynllunio taith neu mae’n anoddach i chi newid bysiau neu ofyn am help

Mae’n iawn i chi amcangyfrif eich diwrnodau gwael, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam – er enghraifft, am fod eich cyflwr yn anwadal.

Symptomau fel trallod, gorbryder, ofn neu nerfusrwydd

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os yw straen neu orbryder yn ei gwneud hi’n anodd i chi gynllunio taith, dilyn taith neu adael y tŷ.

Ceisiwch ddweud pa mor aml mae hyn yn digwydd i chi ac am faint mae’n para. Mae’n iawn rhoi amcan neu ddweud os yw’n rhy anodd ei ragweld.

Dywedwch yn glir os yw’r teimladau hyn yn golygu na allwch chi gynllunio taith, dilyn taith neu adael y tŷ – hyd yn oed gyda rhywun i’ch helpu. Ceisiwch egluro sut mae straen neu orbryder:

  • yn ei gwneud hi’n anodd i chi siarad neu ymwneud â phobl

  • yn gallu cynyddu’r risg yr ewch chi ar goll

  • yn gwneud i chi deimlo – er enghraifft, mae’n codi cyfog neu lewyg arnoch neu’n eich gwneud chi’n ddryslyd

  • yn effeithio ar eich gallu i wneud unrhyw un o’r tasgau eraill sydd wedi’u rhestru ar ffurflen hawlio PIP

Enghraifft

Enghraifft

Mae gorbryder Theresa yn ei gwneud hi'n anodd iawn iddi fod allan – naill ai ar ei phen ei hun neu gyda theulu neu ffrindiau. Mae’n anoddach fyth os yw’n rhywle dieithr. Mae ei gorbryder yn ei gwneud hi’n anodd iddi anadlu ac mae’n chwysu ac yn cael pendro, sy’n ei gwneud hi’n anoddach fyth iddi ymdopi. Pan ddigwyddodd hyn yn ei siop leol ym mis Chwefror bu’n rhaid i’w ffrind ffonio am ambiwlans i ofalu amdani.

Diogelwch: damweiniau, risg o anaf neu fynd ar goll

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi wedi cael (neu’n debygol o gael) damwain wrth gynllunio neu ddilyn taith neu os ydych chi erioed wedi mynd ar goll. Hefyd, dylech sôn os yw gadael eich tŷ yn achosi gofid mawr i chi.

Mae o gymorth rhoi enghraifft ac egluro pam a sut ddigwyddodd rhywbeth, yn cynnwys a oedd wedi ei gwneud hi’n anodd i chi:

  • weld rhwystrau

  • cofio cyfarwyddiadau

  • adnabod pethau fel adeiladau a safleoedd bws

  • gwneud synnwyr o beth ddywedodd pobl wrthych neu arwyddion a phethau tebyg roedd rhaid i chi eu darllen

  • barnu sefyllfaoedd drosoch eich hun – ac felly’ch bod yn fwy tebygol o gael ei hun mewn sefyllfaoedd peryglus

  • meddwl yn rhesymegol – er enghraifft, gweld a yw hi’n ddiogel croesi’r ffordd

Dylech sôn am risg hyd yn oed os nad yw’n digwydd yn rheolaidd.

Os ydych chi erioed wedi bod ar goll, eglurwch pa mor anodd oedd hi i chi ganfod eich ffordd adref neu gyrraedd yn ôl i fan diogel.

Os ydych chi’n gallu gyrru

Os ydych chi’n gallu gyrru mae angen i chi fod yn glir am y canlynol:

  • os oes rhywun arall yn cynllunio’ch taith

  • os gallwch chi fynd allan ar eich pen eich hun yn eich car

  • os ydych chi ond yn gallu gyrru i lefydd cyfarwydd

  • os yw’ch meddyg wedi’ch cynghori i beidio â gyrru

  • os yw’ch meddyginiaeth yn effeithio ar eich gallu i yrru

Help gyda chwestiwn 14: symud o gwmpas

Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.