C9: cyfathrebu ar lafar

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Beth mae’r cwestiwn hwn yn ei olygu

Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi:

  • siarad ag eraill fel eu bod nhw’n eich deall chi

  • clywed a deall beth mae pobl eraill yn ei ddweud wrthych chi

Does dim gwahaniaeth ai Cymraeg yw eich iaith gyntaf – byddwch chi’n cael eich asesu ar sail a ydych chi’n cael anawsterau wrth geisio cyfathrebu yn eich iaith gyntaf.

Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, dyma’r cwestiwn pwysicaf ar y ffurflen.

Cwestiwn 9a

"Ydych chi’n defnyddio cymorth neu declyn i gyfathrebu ag eraill?"

  • ydw

  • nac ydw

  • weithiau

Dylech dicio “ydw” siŵr o fod os ydych chi’n defnyddio:

  • cymorth clyw neu electrolaryncs

  • rhywbeth arall i’ch helpu chi yn y cartref, er enghraifft, cloch drws sy’n goleuo neu ffôn testun

  • chwyddseinydd sy’n eich helpu chi i glywed sgyrsiau

  • cymorth naill ai drwy’r amser neu weithiau

Cwestiwn 9b

"Ydych chi angen help gan berson arall i gyfathrebu ag eraill?"

  • ydw

  • nac ydw

  • weithiau

Dylech dicio “ydw” siŵr o fod:

  • os ydych chi angen cyfieithydd neu ddehonglydd iaith arwyddion

  • os oes ffrind neu aelod o’r teulu yn llenwi’r bylchau mewn sgyrsiauos ydych chi’n darllen gwefusau ond eich bod chi angen help gyda sgyrsiau mwy cymhleth

  • os oes gennych chi syndrom Asperger neu awtistiaeth a’ch bod chi’n ei chael hi’n anodd cyfathrebu â phobl

  • os oes gennych chi syndrom Tourette

  • os yw eich meddyginiaeth yn ei gwneud hi’n anodd i chi ganolbwyntio ar sgwrs

  • os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael

Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu

Pwysig

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy esbonio eich sefyllfa yn y bocs.

Dyma’ch cyfle i roi darlun go iawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i gyfathrebu. Byddan nhw’n defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.

Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn hefyd i esbonio pa help rydych chi ei angen ond nad ydych chi’n ei gael.

Werth gwybod

Os yw’ch cyflwr yn eich gwneud chi’n bryderus, neu os ydych chi angen rhywun i dawelu’ch meddwl neu wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel pan rydych chi’n cyfathrebu â phobl, dylech esbonio hyn yng nghwestiwn 11 – cymysgu â phobl eraill.

Cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio

Rhestrwch yr holl gymhorthion rydych chi’n eu defnyddio i’ch helpu chi i gyfathrebu fel cymorth clyw, chwyddseinyddion neu larwm sy’n dirgrynu.

Peidiwch byth â hepgor cymorth o’ch rhestr am eich bod chi’n meddwl ei fod yn amlwg, a chofiwch:

  • esbonio sut maen nhw’n eich helpu chi

  • nodi’n glir os yw gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cynghori chi i’w defnyddio nhw

  • cynnwys unrhyw gymhorthion a fyddai’n eich helpu chi pe bai gennych chi nhw, a pham nad ydyn nhw gennych chi

  • cynnwys unrhyw gymhorthion y mae’ch cyflwr yn eich atal chi rhag eu defnyddio nhw

Rhywun yn eich annog, eich goruchwylio neu’n eich helpu chi

Nodwch yn glir os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael.

Os ydych chi’n cael help, dywedwch pwy sy’n eich helpu chi (er enghraifft, gofalwr neu ffrind) ac esboniwch:

  • pam maen nhw’n eich helpu chi

  • sut maen nhw’n eich helpu chi

  • pa mor aml maen nhw’n helpu 

Dywedwch yn glir os ydych chi angen iddyn nhw:

  • esbonio beth mae pobl yn ei ddweud, neu beth rydych chi’n ei ddweud wrthyn nhw

  • dehongli gan ddefnyddio iaith arwyddion

  • bod wrth lawr – er enghraifft, i wneud yn siŵr eich bod chi’n teimlo’n ddiogel

Cofiwch esbonio beth sy’n digwydd (neu beth a fyddai’n digwydd) os nad ydych chi’n cael help. Er enghraifft:

  • fyddech chi ddim yn gallu dilyn sgwrs

  • byddech chi’n osgoi siarad â phobl

  • byddech chi’n camddeall cyfarwyddyd pwysig

  • byddech chi’n anghofio beth mae pobl wedi ei ddweud wrthych chi, neu beth rydych chi wedi’i ddweud

  • byddech chi’n teimlo’n unig

Yr amser y mae’n ei gymryd

Meddyliwch a yw’n cymryd o leiaf ddwywaith cymaint o amser i chi gyfathrebu o gymharu â rhywun heb eich cyflwr. Efallai y bydd hi’n anodd i chi amcangyfrif hyn, ond ystyriwch a oes angen ailadrodd pethau neu a oes angen arafu sgyrsiau fel y gallwch chi ddeall.

Cofiwch:

  • gynnwys cyfnodau seibiant os ydych chi eu hangen

  • esbonio os yw’n cymryd mwy fyth o amser ar ddiwrnod gwael

  • dweud os yw’n cymryd mwy o amser os oes rhaid i chi gyfathrebu llawer mewn un diwrnod

Diwrnodau da a diwrnodau gwael

Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos).

Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.

Nodwch yn glir:

  • os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael

  • pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael

  • os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio

  • sut mae eich anawsterau a’ch symptomau yn amrywio ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael – er enghraifft, rydych chi’n teimlo mor isel fel nad ydych chi’n gwrando ar beth mae pobl yn ei ddweud

Symptomau fel poen, diffyg anadl neu flinder

Esboniwch a yw’r anawsterau rydych chi’n eu cael wrth geisio cyfathrebu yn achosi unrhyw symptomau corfforol neu feddyliol i chi (fel poen, anghysur, blinder neu iselder).

Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol esbonio’r symptomau a rhoi enghraifft, gan gynnwys:

  • pa mor aml rydych chi’n eu cael nhw

  • am faint maen nhw’n para

  • os ydyn nhw’n effeithio ar eich gallu i gyflawni unrhyw un o’r gweithgareddau eraill ar eich ffurflen hawlio PIP 

Enghraifft

"Rwy’n fyddar, ac weithiau rwy’n ei chael hi’n anodd cael pobl i fy neall i pan rydw i wedi blino. Os nad yw rhywun yn fy neall i, mae’n gwneud i mi deimlo’n isel a dydw i ddim am drio rhagor. Rwy’n aros gartref a ddim yn gwisgo am rai diwrnodau a dydw i ddim yn bwyta’n iawn."

Risgiau diogelwch

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi wedi bod mewn perygl neu os gallech chi fod mewn perygl am eich bod chi’n cael trafferth cyfathrebu.

Er enghraifft, dylech chi ddweud os ydych chi erioed wedi cael trafferth:

  • dweud wrth rywun eich bod chi angen help meddygol

  • dweud wrth rywun bod gennych chi alergedd i rywbeth

Nodwch yn glir:

  • pam mae’n gallu digwydd

  • pa mor aml mae’n gallu digwydd

  • pa mor wael y gallai effeithio arnoch chi

  • sut rydych chi’n ceisio ei atal – er enghraifft, rydych chi’n dibynnu ar rywun i esbonio pethau i chi

  • os yw oherwydd na wnaeth rhywun eich helpu chi

  • os yw oherwydd eich bod chi’n drysu neu’n cael trafferth cofio

Help gyda chwestiwn 10: darllen

Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.