C4: bwyta ac yfed

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Beth mae’r cwestiwn hwn yn ei olygu

Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi fwyta ac yfed.

Mae hyn yn golygu gallu torri bwyd yn ddarnau, ei roi yn eich ceg, ei gnoi a’i lyncu.

Dylech ddweud os ydych chi angen cael eich cymell neu eich annog i fwyta ac os oes gennych chi unrhyw anawsterau corfforol.

Cwestiwn 4a

"Ydych chi’n defnyddio cymorth neu declynnau i fwyta neu yfed?"

  • ydw

  • nac ydw

  • weithiau

Cwestiwn 4b

"Ydych chi’n defnyddio tiwb bwydo neu ddyfais debyg i fwyta neu yfed?"

  • ydw

  • nac ydw

  • weithiau

Cwestiwn 4c

"Ydych chi angen help gan berson arall i fwyta neu yfed?"

  • ydw

  • nac ydw

  • weithiau

Dylech chi dicio "ydw" siŵr o fod:

  • os oes rhywun yn eich atgoffa, eich annog neu’n eich goruchwylio chi

  • os oes rhywun yn eich helpu chi yn gorfforol

  • os oes rhywun yn aros gerllaw i wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel neu nad ydych chi’n wynebu risg

  • os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael – er enghraifft, os ydych chi’n anghofio bwyta neu os oes gennych chi anhwylder bwyta

Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu

Pwysig

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy esbonio’ch sefyllfa yn y bocs.

Dyma’ch cyfle chi i gyflwyno darlun go iawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i fwyta ac yfed. Byddan nhw’n defnyddio hyn i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.

Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn i esbonio pa help rydych chi ei angen ond nad ydych chi’n ei gael.

Rydych chi’n defnyddio system bwydo trwy diwb

Os ydych chi’n defnyddio tiwb bwydo i mewn i’ch stumog, neu linell fwydo i mewn i’ch gwythiennau, ystyriwch a ydych chi angen unrhyw help gyda hyn.

Rydych chi’n fwy tebygol o gael PIP os oes rhywun yn eich helpu chi, felly mae’n bwysig i chi ddweud:

  • pwy sy’n eich helpu chi

  • sut maen nhw’n eich helpu chi

  • beth fyddai’n digwydd os na fyddech chi’n cael yr help;

Cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio

Meddyliwch pa gymhorthion rydych chi eu hangen i fwyta ac yfed, gan gynnwys pethau fel cwpanau pwysol a chytleri wedi’u haddasu. Efallai y byddai’n helpu i ddychmygu bwyta yn nhŷ ffrind yn hytrach nag yn eich cartref eich hun.

Rhestrwch yr holl gymhorthion rydych chi’n eu defnyddio a pham rydych chi eu hangen nhw – er enghraifft, os oes rhaid i chi ddefnyddio powlen yn lle plât i osgoi cwympo’ch bwyd.

Peidiwch byth â hepgor cymorth o’ch rhestr gan eich bod chi’n meddwl ei fod yn amlwg, a chofiwch:

  • esbonio sut maen nhw’n eich helpu chi

  • esbonio beth fyddai’n digwydd os na fyddech chi’n eu defnyddio nhw

  • nodi’n glir os yw gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cynghori chi i’w defnyddio nhw

  • cynnwys unrhyw gymhorthion a fyddai’n eich helpu chi pe bai gennych chi nhw

  • cynnwys unrhyw gymhorthion y mae’ch cyflwr yn eich atal chi rhag eu defnyddio nhw

Rhywun yn eich helpu chi yn gorfforol

Os oes rhywun yn eich helpu chi i fwyta neu yfed, esboniwch beth maen nhw’n ei wneud a pham.

Os ydych chi angen rhywun i’ch helpu chi i dorri’ch bwyd, esboniwch pam mae angen iddyn nhw wneud hynny a beth fyddai’n digwydd os na fydden nhw’n gwneud hynny.

Esboniwch hefyd os ydych chi’n osgoi bwyta unrhyw fathau penodol o fwyd gan fod angen eu torri nhw neu gan eu bod nhw’n rhy lletchwith. Er enghraifft, os nad ydych chi’n bwyta pysgod oherwydd yr esgyrn ond y gallech chi eu bwyta pe bai rhywun yn eu torri nhw a thynnu’r esgyrn ar eich rhan.

Os na allwch chi gael bwyd neu ddiod i’ch ceg o gwbl a bod rhaid i rywun wneud hyn ar eich rhan, esboniwch pwy sy’n gwneud hyn i chi, pam mae angen iddyn nhw wneud hynny a beth fyddai’n digwydd os na fydden nhw’n gwneud hynny.

Os na allwch chi fwydo’ch hun, dylech gael PIP heb os.

Rhywun yn eich goruchwylio chi er eich diogelwch

Mae hyn yn golygu bod rhywun gyda chi pan rydych chi’n bwyta neu yfed. Does dim rhaid iddyn nhw fod yn eich gwylio chi drwy’r amser – ond mae’n rhaid iddyn nhw fod o gwmpas. Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd eich bod chi’n wynebu risg o dagu.

Os ydych chi wedi cael problemau gyda bwyta ac yfed yn y gorffennol, dywedwch beth ddigwyddodd a pham – er enghraifft, os cawsoch chi ffit epileptig wrth fwyta.

Dylech chi sôn am y canlynol hefyd:

  • pa mor aml mae risg yn codi, hyd yn oed os nad yw’n codi’n rheolaidd

  • pa mor wael y gallech chi gael eich niweidio

  • a oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i atal hynny rhag digwydd

Rhywun yn eich cymell, eich atgoffa neu’n eich annog chi

Meddyliwch a ydych chi byth yn hepgor prydau bwyd. Gallai hyn fod am lawer o resymau, er enghraifft:

  • os yw ceisio bwyta’n achosi poen i chi neu’n eich blino chi

  • os na allwch chi wynebu bwyd

  • os yw meddwl am fwyta yn eich gwneud chi’n bryderus

Os nad ydych chi’n bwyta prydau rheolaidd, ceisiwch esbonio pam a pha mor aml mae hyn yn digwydd. Ceisiwch fod yn benodol ynghylch a ydych chi’n cael eich cymell, eich atgoffa neu eich annog, a phwy sy’n gwneud hyn.

Dyma rai enghreifftiau:

Enghraifft

‘Rwy’n gwella o anhwylder bwyta ac, er fy mod i’n meddwl fy mod i’n gwella, rwy’n ei chael hi’n anodd bwyta fwy nag unwaith y dydd ac yn anaml iawn y bydda i’n bwyta brecwast neu ginio.

Mae fy mhartner yn gorfod fy annog i fwyta pryd o fwyd, ac mae’n gorfod coginio’r pryd fel arfer hefyd gan na fyddwn i’n paratoi unrhyw beth i fi fy hun. Mae hi’n gwneud yn siŵr fy mod i’n bwyta’r rhan fwyaf o brydau nos ond, os nad yw hi yno, dydw i ddim yn trafferthu.'

Enghraifft

'Mae fy meddyginiaeth yn gwneud i mi deimlo’n sâl, ac weithiau rwy’n chwydu ar ôl bwyta. Rwy’n ceisio osgoi bwyta rhag ofn y bydd yn fy ngwneud i’n sâl. Mae mam yn dod heibio y rhan fwyaf o ddiwrnodau i wneud yn siŵr fy mod i’n iawn ac i weld fy mod i wedi bwyta. Mi fydda i’n bwyta gan ei bod hi yno yn dweud wrtha i am fwyta, ond mi fydda i’n osio bwyta os alla i.'

Yr amser mae’n ei gymryd

Meddyliwch a yw’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser i chi fwyta ac yfed o gymharu â rhywun heb eich cyflwr.

Ceisiwch esbonio faint o amser y mae’n ei gymryd. Mae’n iawn i chi amcangyfrif, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam – er enghraifft, gan ei fod yn dibynnu beth rydych chi’n ceisio ei fwyta neu gan fod eich cyflwr yn anwadal.

Cofiwch:

  • gynnwys cyfnodau seibiant os nad ydych chi’n gallu bwyta pryd o fwyd ar unwaith

  • esbonio os yw’n cymryd mwy fyth o amser i chi ar ddiwrnod gwael

  • esbonio os yw’n cymryd mwy o amser i chi fwyta yn hwyrach yn y dydd neu pan rydych chi wedi blino

Diwrnodau da a diwrnodau gwael

Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.

Nodwch yn glir:

  • os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael

  • pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael

  • os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio

  • sut mae eich anawsterau a’ch symptomau yn amrywio ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael

  • pa anawsterau a symptomau ychwanegol rydych chi’n eu dioddef ar ddiwrnod gwael – er enghraifft, rydych chi’n ei chael hi’n anodd iawn i lyncu ac yn methu â gorffen pryd o fwyd

Mae’n iawn i chi amcangyfrif eich diwrnodau gwael, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif - esboniwch pam. Er enghraifft, am fod eich cyflwr yn anwadal.

Symptomau fel poen, diffyg anadl, pryder a blinder

Esboniwch a yw’r anawsterau rydych chi’n eu cael wrth fwyta neu yfed yn achosi unrhyw symptomau corfforol neu feddyliol i chi (fel poen, anghysur, blinder neu iselder).

Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol esbonio’r symptomau a rhoi enghraifft, gan gynnwys:

  • pa mor aml rydych chi’n eu cael nhw

  • am faint maen nhw’n para

  • os ydyn nhw’n debygol o gynyddu’r risg o ddamwain

  • os ydyn nhw’n effeithio ar eich gallu i gyflawni unrhyw un o’r gweithgareddau eraill ar eich ffurflen hawlio PIP

Help gyda chwestiwn 5: rheoli triniaethau

Yn ôl i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.