C7: rheoli anghenion toiled

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Beth mae’r cwestiwn hwn yn ei olygu

Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi:

  • gael eich hun ar sedd toiled heb ei addasu a chodi oddi yno

  • glanhau eich hun ar ôl hynny

  • rheoli eich anymataliaeth, os yn briodol

Does gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ddim diddordeb yn yr anawsterau rydych chi’n eu cael o ran cyrraedd yr ystafell ymolchi neu reoli eich dillad – er enghraifft, tynnu sip eich trowsus neu ddatod gwregys. Os ydych chi’n cael anawsterau gyda’r rhain, gallwch chi eu hesbonio nhw yng nghwestiwn 8.

Ceisiwch beidio â theimlo embaras, hepgor gwybodaeth na bod yn ddewr am y peth. Os byddwch chi’n gwneud hynny, ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael darlun go iawn o sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi, a gall hyn ei gwneud hi’n anoddach i gael PIP.

Cwestiwn 7a

"Ydych chi’n defnyddio cymorth neu declyn i fynd i’r toiled neu i reoli anymataliaeth?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Dylech dicio “ydw” siŵr o fod:

  • os ydych chi’n anymataliol ac yn gorfod defnyddio cymhorthion fel padiau anymataliaeth neu reiliau

  • os ydych chi’n defnyddio sedd toiled neu doiled wedi’i addasu – er enghraifft, bod ganddo reiliau

  • os nad ydych chi’n defnyddio toiled – er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio comôd neu gathetr

  • os ydych chi’n defnyddio cymorth naill ai drwy’r amser neu weithiau

Cwestiwn 7b

"Ydych chi angen help gan berson arall i fynd i’r toiled neu i reoli anymataliaeth?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Dylech dicio “ydw” siŵr o fod:

  • os oes rhywun yn eich helpu chi (hyd yn oed os yw ond yn helpu gyda’ch cymorth – er enghraifft, ymdrin â bidet cludadwy sydd wedi’i ddefnyddio)

  • os oes rhywun o gwmpas rhag ofn y byddwch chi angen help

  • os oes rhywun yn eich atgoffa chi i fynd i’r toiled

  • os oes rhywun yn esbonio sut i lanhau eich hun yn iawn

  • os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael 

Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu

Pwysig

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy esbonio eich sefyllfa yn y bocs.

Dyma’ch cyfle chi i roi darlun go iawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o’r anawsterau rydych chi’n eu hwynebu oherwydd eich cyflwr. Byddan nhw’n defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.

Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn hefyd i esbonio pa help rydych chi ei angen ond nad ydych chi’n ei gael.

Cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio

Rhestrwch yr holl gymhorthion rydych chi’n eu defnyddio:

  • i’ch helpu chi i gael eich hun ar sedd toiled a chodi oddi yno

  • i lanhau eich hun

  • i reoli eich anymataliaeth – nodwch yn glir os yw hyn yn cynnwys padiau anymataliaeth, cathetr dros dro neu barhaol, bag colostomi neu rywbeth tebyg 

Peidiwch byth â hepgor unrhyw gymhorthion o’ch rhestr am eich bod chi’n meddwl eu bod yn amlwg, a chofiwch:

  • esbonio sut maen nhw’n eich helpu chi

  • esbonio os ydych chi’n gorfod eu defnyddio nhw gan nad ydych chi’n gallu defnyddio toiled

  • nodi’n glir os yw gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cynghori chi i’w defnyddio nhw

  • cynnwys unrhyw gymhorthion a fyddai’n eich helpu chi pe bai gennych chi nhw 

Rhywun yn eich helpu, eich cynorthwyo neu’n eich atgoffa chi

Nodwch yn glir os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael.

Os ydych chi’n cael help, dywedwch pwy sy’n eich helpu chi (er enghraifft, gofalwr neu ffrind) ac esboniwch:

  • pam maen nhw’n helpu

  • sut maen nhw’n helpu

  • pa mor aml maen nhw’n helpu

Dywedwch yn glir os ydych chi angen iddyn nhw:

  • eich helpu chi i gael eich hun ar y sedd toiled a chodi oddi yno

  • eich helpu chi i lanhau eich hun

  • eich helpu gyda rhai o’ch anghenion toiled

  • bod wrth law – er enghraifft, i helpu os oes angen neu i wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel

  • eich atgoffa chi i fynd i’r toiled, i wagio eich bag colostomi neu i olchi’ch dwylo

  • esbonio sut i fynd i’r toiled neu lanhau eich hun 

Cofiwch esbonio beth sy’n digwydd (neu beth a fyddai’n digwydd) os nad ydych chi’n cael help. Er enghraifft:

  • rydych chi’n fwy tebygol o faeddu’ch hun

  • rydych chi’n fwy tebygol o gael damwain – er enghraifft, os ydych chi’n epileptig ac yn wynebu risg o gael ffit pan fyddwch chi ar y toiled

  • rydych chi’n llai tebygol o fynd allan oherwydd efallai y byddwch chi angen mynd i’r toiled

Mae’n iawn i chi amcangyfrif, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam – er enghraifft, gan fod eich cyflwr yn anwadal.

Diogelwch: damweiniau a risg o gael anaf neu haint

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi, neu os ydych chi’n meddwl y gallech chi:

  • lithro neu ddisgyn wrth gael eich hun ar y toiled neu godi oddi yno

  • mynd yn sâl neu gael haint gan eich bod chi’n ei chael hi’n anodd glanhau eich hun 

Nodwch yn glir:

  • pam mae’n gallu digwydd

  • pa mor aml mae’n gallu digwydd

  • pa mor wael y gallai effeithio arnoch chi

  • sut rydych chi’n ceisio ei atal – er enghraifft, rydych chi’n dibynnu ar reilen neu rywun i’ch helpu chi

  • os yw oherwydd na wnaeth rhywun eich helpu chi

  • os yw oherwydd eich bod chi’n drysu neu’n cael trafferth cofio

Yr amser y mae’n ei gymryd

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os yw’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser â rhywun heb eich cyflwr i wneud unrhyw un o’r canlynol:

  • eich cael eich hun ar sedd toiled heb ei addasu a chodi oddi yno

  • glanhau eich hun

  • golchi’ch dwylo ar ôl hynny 

Ceisiwch esbonio faint o amser y mae’n ei gymryd. Mae’n iawn i chi amcangyfrif, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam.

Cofiwch:

  • gynnwys cyfnodau seibiant os ydych chi eu hangen

  • esbonio os yw’n cymryd mwy fyth o amser i chi ar ddiwrnod gwael 

Diwrnodau da a diwrnodau gwael

Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi â’ch anghenion toiled ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.

Nodwch yn glir:

  • os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael

  • pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael

  • os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio

  • sut mae eich anawsterau a’ch symptomau yn amrywio ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael

Mae’n iawn i chi amcangyfrif eich diwrnodau gwael, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif - esboniwch pam. Er enghraifft, gan fod eich cyflwr yn anwadal.

Symptomau fel poen a rhwystredigaeth

Esboniwch os yw’r anawsterau rydych chi’n eu cael wrth gael eich hun ar y toiled a chodi oddi yno, glanhau eich hun neu reoli eich anymataliaeth yn achosi unrhyw symptomau corfforol neu feddyliol i chi, er enghraifft, poen, blinder neu straen.

Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol esbonio’r symptomau a rhoi enghraifft, gan gynnwys:

  • pa mor aml rydych chi’n eu cael nhw

  • am faint maen nhw’n para

  • os ydyn nhw’n debygol o gynyddu’r risg o ddamwain neu faeddu’ch hun

  • os ydyn nhw’n effeithio ar eich gallu i gyflawni unrhyw un o’r gweithgareddau eraill ar eich ffurflen hawlio PIP – er enghraifft, rydych chi mor bryderus ynglŷn â rheoli eich anymataliaeth fel ei fod yn eich atal chi rhag mynd allan 

Enghraifft

Enghraifft

Mae Sarah yn ei chael hi’n anodd rheoli ei hanghenion toiled, felly dydy hi ddim yn bwyta nac yfed yn iawn nac yn mynd allan gyda’i ffrindiau gymaint ag yr oedd hi’n arfer gwneud gan ei bod hi’n poeni am orfod mynd i’r toiled.

Help gyda chwestiwn 8: gwisgo a dadwisgo

Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.