Cael tystiolaeth i gefnogi’ch hawliad PIP

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol cynnwys tystiolaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol o sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi. Mae’n gallu rhoi darlun cliriach i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi, gan ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddwch chi’n cael eich asesu’n iawn.

Gallai tystiolaeth fod ar ffurf llythyr, adroddiad neu gynllun gofal, a gallwch chi ei hanfon unrhyw bryd cyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau wneud penderfyniad ar eich hawliad.

Cadw dyddiadur PIP

Os yw’ch cyflwr yn gwella a gwaethygu am yn ail (os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael), mae’n gallu bod yn ddefnyddiol i chi gadw dyddiadur. Mae dyddiadur yn gallu bod yn ffordd ddefnyddiol o gofnodi’ch diwrnodau gwael a sut y gwnaethon nhw effeithio arnoch chi. Gallech chi ddefnyddio dyddiadur fel tystiolaeth ac i’ch helpu chi i lenwi’ch ffurflen hawlio PIP. I’ch helpu chi, gallwch chi ddefnyddio ein dyddiadur templed. Gallwch chi ofyn hefyd i rywun eich helpu chi i’w ysgrifennu.

Lawrlwytho: dyddiadur templed i’ch helpu chi i gadw cofnod o sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi 78.3 KB .

Pwysig

Peidiwch â gohirio dychwelyd eich ffurflen hawlio PIP neu gael asesiad gan eich bod chi’n disgwyl tystiolaeth ategol. Gallwch chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau y byddwch chi’n anfon y dystiolaeth yn ddiweddarach.

Os oes angen, gallwch anfon unrhyw dystiolaeth ategol ar ôl i chi anfon eich ffurflen hawlio PIP.

Beth i ofyn amdano gan weithwyr iechyd proffesiynol

Pan fyddwch chi’n cysylltu â’r gweithiwr iechyd proffesiynol, dywedwch wrtho eich bod chi’n gwneud hawliad am PIP a gofynnwch iddo ddarparu llythyr yn esbonio sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi. Mae’n bwysig gwneud hyn gan fod PIP yn seiliedig ar sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi, yn hytrach na’r cyflwr ei hun neu’r feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar sut mae’ch cyflwr yn cyfyngu ar eich gallu i wneud 12 tasg. Os hoffech chi, gallwch ofyn i’r gweithiwr iechyd proffesiynol ganolbwyntio ei sylwadau ar y tasgau rydych chi angen help gyda nhw oherwydd eich cyflwr a’r rhai rydych chi’n meddwl sydd bwysicaf i’ch hawliad.

Dyma’r 12 tasg rydych chi’n cael eich asesu arnyn nhw:

  • paratoi a choginio pryd o fwyd

  • bwyta ac yfed

  • rheoli’ch triniaethau

  • ymolchi a mynd i’r bath/y gawod

  • rheoli anghenion toiled neu anymataliaeth

  • gwisgo a dadwisgo

  • cyfathrebu â phobl eraill

  • darllen a deall gwybodaeth ysgrifenedig

  • cymysgu gydag eraill

  • gwneud penderfyniadau ariannol

  • cynllunio taith neu ddilyn llwybr

  • symud o gwmpas

I bwy i ofyn am dystiolaeth

Gallech chi ofyn am dystiolaeth gan y gweithwyr iechyd proffesiynol canlynol:

  • eich ffisiotherapydd

  • eich gweithiwr cymdeithasol

  • eich cynghorwr

  • eich gweithiwr cymorth

  • eich meddyg ymgynghorol

  • eich nyrs

  • eich meddyg neu feddyg teulu 

Ni fydd rhai gweithwyr iechyd proffesiynol yn helpu gyda cheisiadau am fudd-daliadau, ac efallai y bydd eraill yn codi ffi am wneud hynny.

Werth gwybod

Mae’n gallu bod yn syniad da edrych ar beth mae’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn gallu ei wneud i chi ac a oes ffi cyn i chi ysgrifennu atyn nhw.

Gofynnwch iddyn nhw anfon eu tystiolaeth atoch chi, yn hytrach nag i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Fel hyn, gallwch chi wneud yn siŵr eich bod chi’n hapus â’r dystiolaeth a phenderfynu a ydych chi eisiau ei chynnwys yn eich hawliad ai peidio. Cofiwch y dylai ddangos i’r Adran Gwaith a Phensiynau sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi, yn hytrach na chadarnhau eich cyflwr neu’r feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd.

Gallwch ofyn i’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol yng Nghymru a Lloegr neu yn yr Alban edrych ar dystiolaeth y gweithiwr iechyd proffesiynol i wneud yn siŵr y bydd hi’n helpu’ch hawliad. Gallwch gael help gan eich asiantaeth anabledd neu gymorth iechyd meddwl leol hefyd. Gallwch ddod o hyd yma i asiantaethau cymorth anabledd yng Nghymru a Lloegr, asiantaethau cymorth anabledd yn yr Alban ac elusennau iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr neu elusennau iechyd meddwl yn yr Alban.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.