Sut mae’r Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Fel arfer, byddwch chi’n cael un taliad Credyd Cynhwysol bob mis. Bydd hwn yn cael ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
Os nad oes gennych chi gyfrif banc
Os nad oes gennych chi gyfrif banc, bydd angen i chi agor un. Gallwch chi ddarllen rhagor o wybodaeth am gael cyfrif banc.
Os ydych chi wedi ceisio agor cyfrif a bod eich cais wedi cael ei wrthod, bydd angen i chi ddefnyddio'r Payment Exception Service. Bydd angen i chi esbonio pam na allwch chi agor cyfrif banc. Os oes angen rhagor o gyngor arnoch chi ynglŷn ag agor cyfrif banc, gallwch chi siarad â chynghorwr.
Sut mae taliadau’n gweithio i gyplau
Os ydych chi'n byw gyda'ch partner, fel arfer byddwch chi'n gwneud cais ar y cyd fel pâr. Bydd hyn yn golygu y cewch un taliad rhyngoch chi'ch dau.
Dylech chi ddweud wrth y Ganolfan Waith os ydych chi eisiau i'r taliadau fynd i un ohonoch chi neu gael eu rhannu rhyngoch chi. Does dim rhaid i’r Ganolfan Waith gytuno i wneud hyn.
Os bydd y taliadau’n cael eu rhannu, bydd y swm y bydd y ddau ohonoch chi’n ei gael yn dibynnu ar eich sefyllfa. Gallwch chi ofyn i daliadau gael eu rhannu:
os yw er eich budd chi, er enghraifft oherwydd bod un ohonoch chi’n cael trafferth rheoli arian a'i fod yn achosi problemau ariannol
os yw er budd plentyn rydych chi’n gyfrifol amdano
os ydych chi'n cael swm yn eich Credyd Cynhwysol oherwydd eich bod yn gofalu am berson ag anabledd difrifol ac mae'n ddefnyddiol iddo gael ei dalu fel hyn
Os ydych chi'n hunangyflogedig
Bydd y canlynol yn effeithio ar eich taliad misol:
faint rydych chi’n ei ennill bob mis
isafswm yr incwm - gweld a yw hyn yn berthnasol i chi
Pryd fyddwch chi’n cael eich talu
Ar ôl i chi wneud cais, bydd fel arfer yn cymryd 5 wythnos i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Gallwch chi ofyn am daliad Credyd Cynhwysol ymlaen llaw os nad ydych chi’n meddwl y bydd gennych chi ddigon o arian i fwy arno tra eich bod chi’n aros am eich taliad cyntaf.
Ar ôl i chi gael eich taliad cyntaf, byddwch chi’n cael eich talu'n fisol ar yr un dyddiad â'r taliad cyntaf.
Os ydych chi'n hunangyflogedig, bydd yn rhaid i chi roi gwybod am eich enillion bob mis cyn y gallwch chi gael eich taliad. Sut mae rhoi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau am eich enillion.
Efallai y bydd angen i chi gyllidebu fel bod eich arian yn para o fis i fis.
Defnyddiwch declyn cyllidebu i'ch helpu.
Talu eich rhent neu eich morgais
Bydd rhywfaint o'ch Credyd Cynhwysol ar gyfer eich costau tai - fel arfer bydd disgwyl i chi dalu hwn yn uniongyrchol i'ch landlord eich hun. Mae’r rhan hon o'ch taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei galw’n 'elfen dai'.
Os oes gennych chi forgais, fyddwch chi ddim yn cael elfen dai ar gyfer ad-daliadau morgais. Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud cais am fenthyciad Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI). Mae hwn yn gallu helpu i dalu'r llog ar eich morgais neu eich benthyciad cartref - gweld a allwch chi wneud cais am Gymorth ar gyfer Llog Morgais.
Os ydych chi’n cael y Budd-dal Tai pan fyddwch chi’n gwneud cais am y Credyd Cynhwysol, byddwch chi’n dal i gael y Budd-dal Tai am bythefnos ar ôl i chi gyflwyno'ch cais. Fydd dim angen i chi dalu hwn yn ôl.
Os ydych chi'n meddwl y bydd eich rhent neu'ch morgais yn hwyr oherwydd eich bod chi’n aros am eich taliad Credyd Cynhwysol, dylech chi siarad â'ch landlord neu fenthyciwr morgais. Efallai y byddan nhw’n cytuno i aros am daliad os byddwch chi’n egluro’r sefyllfa iddyn nhw.
Ôl-ddyddio eich Credyd Cynhwysol
Efallai y byddwch chi’n gallu hawlio’r Credyd Cynhwysol am hyd at fis cyn i chi ddechrau eich hawliad - mae hyn yn cael ei alw’n 'ôl-ddyddio'.
Os gwnaethoch chi symud i’r Credyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill oherwydd eich bod chi wedi cael 'hysbysiad mudo' gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, efallai y byddan nhw’n ôl-ddyddio eich taliadau'n awtomatig. Fel arfer, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ôl-ddyddio eich taliadau os daeth eich hen fudd-daliadau i ben cyn i'ch Credyd Cynhwysol ddechrau.
Llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yw hysbysiad mudo sy'n dweud bod angen i chi symud i’r Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol. Y dyddiad yw 3 mis ar ôl iddyn nhw anfon y llythyr.
Bydd angen i chi ofyn am ôl-ddyddio:
os nad ydych chi wedi cael hysbysiad mudo gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
os ydych chi wedi cael hysbysiad mudo, ond wedi hawlio mwy na mis ar ôl y dyddiad cau
Gweld a allwch chi wneud cais am ôl-ddyddio
Gallwch chi wneud cais am ôl-ddyddio ar ôl i chi ddechrau cael y Credyd Cynhwysol.
Bydd angen rheswm da arnoch chi dros beidio â hawlio’r Credyd Cynhwysol yn gynharach - os ydych chi’n gwpl, bydd angen rheswm da ar y ddau ohonoch chi. Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:
salwch - bydd yn rhaid i chi ddangos tystiolaeth feddygol i’r Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer hyn
anabledd
na chawsoch chi wybod bod eich Lwfans Ceisio Gwaith neu eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn mynd i ddod i ben
nad oedd y system hawlio ar-lein yn gweithio, a gwnaethoch chi hawlio cyn gynted â roedd yn gweithio eto
eich bod chi wedi gwneud cais newydd fel person sengl ar ôl gwahanu gyda'ch partner - check what to do if you're in this situation
eich bod chi wedi gwneud hawliad ar y cyd a ddaeth i ben am nad oedd eich partner yn derbyn ymrwymiad yr hawlydd – dylech chi nawr fod yn hawlio fel person sengl
Efallai na wnaethoch chi hawlio mewn pryd oherwydd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud y peth anghywir wrthoch chi. Os bydd hyn yn digwydd gallwch chi gwyno a gofyn am iawndal.
Ffoniwch linell gymorth y Credyd Cynhwysol os ydych eisiau ôl-ddyddio eich cais.
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Rhif Ffôn: 0800 328 5644
Rhif Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Gwasanaeth dehongli fideo - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch gael gwybod sut mae defnyddio gwasanaeth Video Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2018