Gwiriwch faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae'n anodd cyfrifo'ch union swm Credyd Cynhwysol, ond gallwch gael syniad cyffredinol drwy ddilyn y camau ar y dudalen hon.
Os ydych eisiau cael yr union swm, gallwch:
Newidiadau i Gredyd Cynhwysol o 2026 ymlaen
Ar 18 Mawrth 2025, cyhoeddodd y llywodraeth newidiadau i sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu.
Ni fydd y newidiadau’n digwydd tan fis Ebrill 2026.
Os nad ydych chi’n cael unrhyw fudd-dal a’ch bod chi’n ystyried gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, dylech wneud hynny. Rydych chi’n fwy tebygol o gael mwy o arian os byddwch chi’n gwneud cais cyn i’r rheolau newid.
Os ydych chi’n ystyried symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill, efallai y byddai’n well aros nes i’r Adran Gwaith a Phensiynau ddweud wrthych chi am wneud cais. Gwiriwch i weld a ddylech chi symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.
Cyn cyfrifo faint y gallwch ei gael, dylech wirio i weld a ydych chi'n gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Mae 5 cam i gyfrifo faint o arian y gallwch ei gael:
cyfrifo pa symiau eraill y gallwch eu cae, fel tŷ neu ofal plant - gelwir y rhain yn 'elfennau'
Bydd pawb sy’n cael Credyd Cynhwysol yn cael ‘swm safonol’ - bydd yr union swm a gewch chi’n dibynnu ar eich oed ac os oes gennych bartner.
Weithiau bydd arian yn cael ei ychwanegu at eich swm safonol - bydd hyn yn dibynnu ar eich sefyllfa. Er enghraifft, fe gewch chi fwy os oes gennych chi blant neu gostau tai. Gelwir y symiau ychwanegol hyn yn elfennau.
Bydd y swm a gewch yn newid os oes gennych unrhyw incwm neu gynilion. Bydd eich taliad yn newid bob mis os byddwch yn ennill swm gwahanol, neu os bydd eich sefyllfa’n newid.
1. Dewch i ganfod eich swm safonol
Mae eich swm safonol yn dibynnu ar eich oedran ac a ydych yn byw gyda phartner. Os ydych chi'n byw gyda phartner, bydd gennych hawliad ar y cyd a byddwch yn rhannu un taliad.
Eich amgylchiadau | Swm safonol |
---|---|
Eich amgylchiadau
Sengl ac o dan 25 |
Swm safonol
£316.98 y mis |
Eich amgylchiadau
Sengl a 25 neu hŷn |
Swm safonol
£400.14 y mis |
Eich amgylchiadau
Byw gyda phartner a’r ddau dan 25 oed |
Swm safonol
£497.55 y mis |
Eich amgylchiadau
Byw gyda phartner ac un neu’r ddau dros 25 oed |
Swm safonol
£628.10 y mis |
Dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os byddwch yn symud i mewn gyda'ch partner neu'n gwahanu gyda'ch partner - bydd eich taliad nesaf yn wahanol. Rhagor o wybodaeth am roi gwybod am newidiadau sy'n effeithio ar eich Credyd Cynhwysol.
I gyfrifo faint allwch chi ei gael, dechreuwch gyda’ch swm safonol ac ychwanegwch unrhyw symiau ychwanegol - fel tŷ neu ofal plant.
2. Cyfrifwch pa symiau eraill y gallwch eu cael
Gallwch ychwanegu symiau ychwanegol at eich swm safonol ar gyfer:
tŷ
plant
gofal plant
Gallwch hefyd eu cael os:
yw'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud wrthych am symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill - a elwir yn 'ymfudo a reolir'
ni allwch weithio oherwydd salwch neu anabledd
roeddech yn arfer cael premiwm anabledd difrifol
ydych chi'n gofalu am rywun
Gelwir y symiau ychwanegol hyn yn elfennau a gallwch gael mwy nag 1 ohonynt. Maen nhw'n cael eu hychwanegu at eich swm safonol.
Os ydych chi'n talu rhent, morgais neu dâl gwasanaeth
Gallai’r elfen costau tai dalu rhywfaint neu’r cyfan o’ch rhent neu’ch tâl gwasanaeth.
I gael yr elfen tai, bydd angen i chi dalu'r costau tai ar gyfer lle'r ydych yn byw.
Os oes gennych chi forgais neu fenthyciad cartref, efallai y gallwch gael benthyciad i'ch helpu i dalu'ch llog - mae hwn ar wahân i'r Credyd Cynhwysol .
Os ydych yn talu rhent i gyngor neu gymdeithas dai
I gyfrifo eich elfen tai, mae angen i chi wneud y canlynol:
gwirio beth yw eich lwfans ystafell
tynnu symiau ar gyfer pobl sy'n byw gyda chi
Gallwch wirio eich lwfans ystafell ar GOV.UK oni bai :
bod gennych chi neu rywun rydych chi’n byw gydag ef anabledd neu’n ofalwr maeth
eich bod chi'n byw gyda 5 neu fwy o bobl
Siaradwch â chynghorydd i wirio eich lwfans ystafell. .
Os ydych chi’n byw mewn eiddo o’r un maint neu sy’n llai na nifer yr ystafelloedd gwely rydych chi’n gymwys i’w cael, bydd eich elfen tai yn talu eich rhent i gyd. Er enghraifft - os yw eich lwfans ystafell yn 2 ystafell wely a’ch bod yn byw mewn adeilad 2 ystafell wely, bydd eich elfen tai yn talu am eich rhent i gyd.
Os oes gennych chi 1 ystafell wely yn fwy na'r hyn sydd gennych hawl iddi, bydd eich elfen tai yn cael ei lleihau 14%. Os oes gennych 2 neu ragor o ystafelloedd gwely yn fwy na'r hyn sydd gennych hawl iddi, bydd eich elfen tai yn cael ei lleihau 25%.
Efallai y bydd eich elfen tai hefyd yn lleihau £93.02 y mis ar gyfer pob unigolyn nad yw’n ddibynnydd sy’n byw gyda chi. Mae unigolyn nad yw’n ddibynnydd yn rhywun y mae disgwyl iddo dalu ei gyfran ei hun o rent. Mae'r rhain yn aml yn rhieni, yn blant wedi tyfu, yn ffrindiau ac yn berthnasau – ond nid eich partner.
Mae Campbell yn rhentu gan y cyngor ac yn hawlio Credyd Cynhwysol. Maen nhw’n byw gyda’u mab 30 oed ac yn talu £433.33 y mis o rent.
Mae ganddynt hawl i 2 ystafell wely ac maent yn byw mewn fflat 3 ystafell wely. Mae 1 ystafell wely sbâr felly mae eu helfen costau tai yn gostwng 14% - £60.67.
Mae mab Campbell yn byw gyda nhw felly mae didyniad pellach o £93.02. Bydd eu helfen tai nawr yn £279.64 y mis.
Os ydych yn talu rhent i landlord preifat
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar faint o bobl yr ydych yn byw gyda nhw a chyfradd Lwfans Tai Lleol eich ardal. Ni fyddwch yn cael mwy na'ch cyfradd Lwfans Tai Lleol, hyd yn oed os yw eich rhent yn fwy.
I gyfrifo eich elfen tai, mae angen i chi:
wirio beth yw eich lwfans ystafell
gwirio beth yw eich cyfradd Lwfans Tai Lleol
tynnu symiau ar gyfer pobl sy'n byw gyda chi
Gallwch wirio eich lwfans ystafell ar GOV.UK. Os oes gennych chi neu rywun sy'n byw gyda chi anabledd neu'n ofalwr maeth, efallai y cewch gynnydd yn eich lwfans ystafell. Siaradwch â chynghorydd i wirio eich lwfans ystafell.
Pan fyddwch yn gwybod beth yw eich lwfans ystafell, edrychwch i weld beth yw eich cyfradd Lwfans Tai Lleol ar GOV.UK. Bydd y gyfrifiannell yn gofyn pryd bydd eich hawliad am Fudd-dal Tai yn dechrau - atebwch gyda’r dyddiad y bydd eich hawliad am Gredyd Cynhwysol yn dechrau. .
Os yw eich rhent yn llai na’ch cyfradd Lwfans Tai Lleol, bydd eich elfen tai yn talu am eich rhent i gyd. Os yw'n fwy na hynny, bydd eich cyfradd Lwfans Tai Lleol yn cael ei thalu i chi. Er enghraifft - os yw eich cyfradd Lwfans Tai Lleol yn £950 a bod eich rhent yn £1050, byddwch yn cael eich talu £950.
Efallai y bydd eich elfen tai hefyd yn lleihau £93.02 y mis ar gyfer pob unigolyn nad yw’n ddibynnydd sy’n byw gyda chi. Mae unigolyn nad yw’n ddibynnydd yn rhywun sy’n byw gyda chi ac y mae disgwyl iddo dalu ei gyfran ei hun o rent. Mae'r rhain yn aml yn rhieni, yn blant wedi tyfu, yn ffrindiau ac yn berthnasau – ond nid eich partner.
Mae Lisa’n talu £1,200 y mis o rent. Maen nhw’n byw mewn fflat 2 ystafell wely gyda’u partner a’u merch 25 oed. Maen nhw’n defnyddio cyfrifiannell ystafelloedd gwely GOV.UK ac yn cyfrifo mai 2 ystafell wely yw eu lwfans ystafelloedd.
Maen nhw wedyn yn defnyddio cyfrifiannell Lwfans Tai Lleol GOV.UK i ganfod cyfradd y Lwfans yn eu hardal – ar gyfer rhywun sydd â lwfans ystafell 2 ystafell wely, mae’n £1,058.64 y mis.
Maent yn byw gyda’u merch sy’n oedolyn ac felly mae angen iddynt wneud didyniad unigolyn nad yw’n ddibynnydd o £93.02.
Bydd eu helfen tai felly yn £965.62 y mis.
Am beth na fydd yr elfen tai yn talu amdano
Chewch chi ddim elfen tai ar gyfer:
dyledion os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch rhent ar eich cartref presennol neu flaenorol
cartref gofal
ground rent - a fee you pay to the leaseholder of your property
Os ydych chi mewn llety dros dro neu argyfwng
Bydd angen i chi hawlio Budd-dal Tai os ydych chi'n gorfod byw i ffwrdd o'ch cartref arferol. Er enghraifft, efallai eich bod yn talu am loches ar ôl dioddef cam-drin domestig. .
Byddwch yn dal i gael Credyd Cynhwysol, ond byddwch yn cael taliad Budd-dal Tai ar wahân yn hytrach na'r elfen tai o Gredyd Cynhwysol.
Os ydych chi'n rhan o gynllun rhanberchenogaeth
Fel arfer, byddwch yn talu morgais a rhent. Gall Credyd Cynhwysol helpu gyda'ch rhent, ond nid gyda'ch morgais. Bydd angen i chi weld a allwch chi gael benthyciad i helpu gyda llog eich morgais.
Os ydych chi eisoes yn cael elfen ar gyfer ymfudo a reolir neu Bremiwm Anabledd Difrifol
Efallai na fydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn codi yn ôl swm cyfan yr elfen tai. Y rheswm am hyn yw y bydd eich elfen ymfudo neu Bremiwm Anabledd Difrifol yn mynd i lawr ar yr un pryd. Siaradwch â chynghorydd i gael gwybod sut bydd eich taliadau'n newid.
Cael mwy o help gyda chostau tai
Gallwch gael help gyda chostau rhentu.
Efallai y gallwch gael arian ychwanegol gan y cyngor os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch taliadau neu os nad yw'r elfen tai yn ddigon i dalu'ch rhent i gyd.
Os oes gennych blant
Byddwch yn cael elfen plentyn wedi’i ychwanegu at eich swm safonol os ydych chi'n gyfrifol am blentyn sydd fel arfer yn byw gyda chi. Byddwch yn cael symiau ychwanegol ar gyfer ail blentyn. Os oes gennych chi fwy na 2 blentyn, dim ond os cawsant eu geni cyn 6 Ebrill 2017 y cewch chi arian ychwanegol.
If any of your children are disabled and getting Disability Living Allowance (DLA), Personal Independence Payment (PIP), Child Disability Payment or Adult Disability Payment, you’ll also get extra money for them.
Mae rhywun yn blentyn hyd at ei ben-blwydd yn 16 oed. Ar ôl hyn, mae’n ‘berson ifanc cymwys’ tan 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed.
Mae’n aros yn berson ifanc cymwys tan 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 19 oed os ydyw mewn addysg amser llawn nad yw'n addysg uwch - er enghraifft, ysgol neu goleg.
Byddwch yn dal i gael elfen plentyn ar gyfer person ifanc cymwys..
Os ydych chi’n ofalwr maeth, allwch chi ddim cael elfen plentyn y Credyd Cynhwysol ar gyfer unrhyw un rydych chi’n ei faethu. Gallwch barhau i gael elfen plentyn y Credyd Cynhwysol ar gyfer plant eraill sy'n byw gyda chi.
Your circumstances | Child element |
---|---|
Your circumstances
Your oldest or only child, if born before 6 April 2017 |
Child element
£339.00 a month |
Your circumstances
Your oldest or only child, if born on or after 6 April 2017 |
Child element
£292.81 a month |
Your circumstances
Your second child - and each eligible child after that |
Child element
£292.81 a month |
Cael taliad ar gyfer 3 neu fwy o blant
Fel arfer, dim ond os cawsant eu geni cyn 6 Ebrill 2017 y byddwch yn cael taliad ychwanegol ar gyfer 3 neu fwy o blant.
Mae rhai eithriadau - efallai y byddwch yn dal i gael taliad ar gyfer 3 neu fwy o blant yn yr amgylchiadau canlynol:
yos ydych wedi cael genedigaeth luosog, fel gefeilliaid - os oes gennych 2 neu fwy o blant eraill, ni fyddwch yn cael taliad am y plentyn cyntaf mewn genedigaeth luosog
os ydych wedi mabwysiadu plentyn o'r DU (oni bai mai chi oedd llys-riant y plentyn yn syth cyn ei fabwysiadu)
rydych yn gofalu am blentyn rhywun arall mewn trefniant gofal ffurfiol
rydych yn gofalu am blentyn rhywun arall mewn trefniant gofal anffurfiol lle byddai’r plentyn mewn gofal fel arall
os oes gennych blentyn o feichiogrwydd a ddigwyddodd o ganlyniad i drais rhywiol neu berthynas â rhywun a oedd yn eich rheoli - dysgwch sut i roi gwybod am hyn a chael help os bydd ei angen arnoch
rydych yn gyfrifol am blentyn dan 16 oed sydd â'i blentyn ei hun a bod y ddau'n byw gyda chi
Gallwch wirio’r eithriadau a sut i wneud cais amdanynt ar GOV.UK .
Os ydych chi eisoes yn cael elfen ar gyfer ymfudo a reolir neu Bremiwm Anabledd Difrifol
Efallai na fydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn codi yn ôl swm cyfan yr elfen plentyn. Y rheswm am hyn yw y bydd eich elfen ymfudo neu Bremiwm Anabledd Difrifol yn mynd i lawr ar yr un pryd. Siaradwch â chynghorydd i gael gwybod sut bydd eich taliadau'n newid.
Os oes unrhyw un o’ch plant yn anabl
Byddwch yn cael taliad anabledd os oes unrhyw un o'ch plant yn anabl. Ni fydd y swm uchaf y gallwch ei gael o fudd-daliadau yn effeithio arnoch - sy’n cael ei alw’n 'gap budd-daliadau'.
Mae 2 gyfradd wahanol i'r ychwanegiad ar gyfer plentyn anabl - cyfradd uwch a chyfradd is.
The higher rate of the disabled child addition is £495.87 a month. You'll get the higher rate for any child who is:
registered blind
entitled to the highest rate of the care component of Disability Living Allowance
entitled to the enhanced rate of the daily living component of Personal Independence Payment
entitled to the highest rate of the care component of Child Disability Payment
entitled to the enhanced rate of the daily living component of Adult Disability Payment
If you can't get the higher rate, you might be able to get the lower rate of the disabled child addition. This is £158.76 a month. You'll get the lower rate for any children entitled to:
Disability Living Allowance without the highest rate of the care component
Personal Independence Payment without the enhanced rate of the daily living component
Child Disability Payment without the highest rate of the care component
Adult Disability Payment without the enhanced rate of the daily living component
You can get 1 addition for each child who is disabled - it doesn't matter how many children you have.
Os ydych chi eisoes yn cael elfen ar gyfer ymfudo a reolir neu Bremiwm Anabledd Difrifol, efallai na fydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn codi yn ôl swm cyfan yr ychwanegiad ar gyfer plentyn anabl. Y rheswm am hyn yw y bydd eich elfen ymfudo neu Bremiwm Anabledd Difrifol yn mynd i lawr ar yr un pryd. Siaradwch â chynghorydd i gael gwybod sut bydd eich taliadau'n newid.
Os ydych chi’n talu am ofal plant
Dim ond 85% o’ch costau gofal plant fydd yn cael eu talu i chi. Y mwyaf y gallwch ei gael am ofal plant yw £1,031.88 y mis am 1 plentyn neu £1,768.94 y mis am 2 neu fwy. Allwch chi ddim cael hwn os nad yw'ch darparwr gofal plant wedi'i gofrestru neu os yw'ch cyflogwr yn talu am eich gofal plant.
Katie is starting work in the next month. They have 2 children and pay £800 a month for childcare. They’ll have 85% of their childcare costs covered - £680. This will be added to their Universal Credit amount.
Gallwch hawlio costau gofal plant os ydych:
mewn gwaith am dâl
yn dechrau gwaith am dâl yn y mis nesaf
wedi gadael swydd lai na mis yn ôl
yn cael tâl salwch statudol
ar dâl mamolaeth statudol, Lwfans Mamolaeth neu unrhyw fath arall o dâl rhiant statudol
Rydych yn gymwys i gael yr elfen gofal plant ar gyfer plentyn hyd at 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed..
If you're living with your partner you'll both need to be working to get childcare costs - unless your partner can't provide childcare because they:
are caring for a severely disabled person - they'll need to be getting or eligible for Carer's Allowance or Carer Support Payment
are temporarily away from home
Os oes angen help arnoch gyda chostau gofal plant ymlaen llaw
Os oes angen i chi wneud eich taliad gofal plant cyntaf cyn i chi gael y swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol, gallwch ofyn i’ch hyfforddwr gwaith am y Gronfa Cymorth Hyblyg. Os byddwch yn cael arian gan y Gronfa Cymorth Hyblyg, byddwch yn dal i gael eich swm gofal plant Credyd Cynhwysol llawn - ar yr amod bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cytuno y bydd yn eich helpu i aros yn y gwaith.
Os dywedwyd wrthych am symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill
Os byddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd eich bod wedi cael llythyr o’r enw ‘hysbysiad ymfudo’, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn talu mwy i chi er mwyn eich atal rhag bod ar eich colled. Gelwir hyn yn 'amddiffyn wrth bontio.
Dim ond os ydych chi wedi cael hysbysiad ymfudo swyddogol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a'ch bod yn hawlio erbyn y dyddiad cau, y gallwch gael hyn. Os nad ydych chi’n siŵr pa lythyr sydd gennych chi, edrychwch i weld a yw eich llythyr yn hysbysiad ymfudo.
Mae amddiffyn wrth bontio yn golygu:
pe byddech chi'n cael llai o Gredyd Cynhwysol na'ch hen fudd-daliadau, byddwch yn cael swm ychwanegol i wneud iawn am y gwahaniaeth - a elwir yn 'elfen drosiannol'
os ydych chi'n fyfyriwr llawn amser na fyddai fel arfer yn cael Credyd Cynhwysol, fel arfer gallwch ei gael tan ddiwedd eich cwrs
os cawsoch gredydau treth a bod gennych dros £16,000 o gynilion, gallwch gael Credyd Cynhwysol am hyd at flwyddyn
os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi cael hysbysiad ymfudo, gallwch hawlio Credyd Cynhwysol er na fyddech chi fel arfer yn gallu gwneud hynny
Bydd yr elfen drosiannol yn lleihau dros amser. Pan fydd rhai rhannau eraill o’ch taliad Credyd Cynhwysol yn cynyddu, bydd eich elfen drosiannol yn gostwng yr un faint. Mae hyn yn golygu efallai na fydd eich taliad Credyd Cynhwysol cyffredinol y mis hwnnw yn cynyddu.
Bydd eich elfen drosiannol yn dod i ben, naill ai:
os ydyw wedi’i ostwng i £0
os byddwch chi'n symud i mewn gyda'ch partner, neu'n gwahanu gyda'ch partner
Efallai y bydd eich elfen drosiannol hefyd yn dod i ben os bydd eich incwm yn is na swm penodol am 3 mis yn olynol. Mae’r swm hwn yn dibynnu ar y canlynol::
pryd wnaethoch chi hawlio Credyd Cynhwysol am y tro cyntaf
os ydych chi'n sengl neu'n byw gyda phartner - os ydych chi'n byw gyda phartner, bydd y swm yn seiliedig ar eich incwm ar y cyd
Os ydych chi'n sengl
Your minimum monthly income | |
---|---|
From 1 April 2025 |
Your minimum monthly income
£952 |
From 13 May 2024 to 31 March 2025 |
Your minimum monthly income
£892 |
From 1 April to 12 May 2024 |
Your minimum monthly income
£743 |
From 1 April 2023 to 31 March 2024 |
Your minimum monthly income
£677 |
Os ydych yn byw gyda phartner
Your minimum monthly joint income | |
---|---|
From 1 April 2025 |
Your minimum monthly joint income
£1,534 |
From 13 May 2024 to 31 March 2025 |
Your minimum monthly joint income
£1,437 |
From 1 April to 12 May 2024 |
Your minimum monthly joint income
£1,189 |
From 1 April 2023 to 31 March 2024 |
Your minimum monthly joint income
£1,083 |
Os cawsoch eich symud o'r Credyd Treth Gwaith i'r Credyd Cynhwysol ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth
Bydd eich trothwy ennill cyflog yn wahanol. Os ydych chi’n oed Pensiwn y Wladwriaeth ac yn ennill incwm, mae’n bosib na fydd gostyngiad islaw eich isafswm cyflog yn dod â’ch elfen drosiannol i ben. Mae hyn yn berthnasol os symudoch i Gredyd Cynhwysol o Gredyd Treth Gwaith ar ôl cael hysbysiad ymfudo ac os ydych naill ai:
yn sengl ac yn oedran pensiwn
rydych mewn cwpl ac mae'r ddau ohonoch yn oedran pensiwn
Os ydych chi'n sâl neu'n anabl
Efallai y cewch chi daliad ychwanegol os oes gennych chi gyflwr iechyd sy'n golygu na allwch chi weithio. Bydd angen i chi ddangos bod gennych chi ‘allu cyfyngedig i weithio’ neu ‘allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch cysylltiedig â gwaith’.
Os ydych chi a'ch partner yn sâl neu'n anabl, dim ond 1 taliad ychwanegol y byddwch yn ei gael.
Oni bai bod gennych chi hawliad ar y cyd, allwch chi ddim cael yr elfen salwch neu anabledd a'r elfen gofalwr – fe gewch chi pa un bynnag sydd uchaf.
Os oes gennych chi hawliad ar y cyd, gallwch gael yr elfen ar gyfer salwch neu anabledd a'r elfen gofalwr - ond dim ond os ydych chi'n gymwys ar gyfer un a bod eich partner yn gymwys ar gyfer y llall. Er enghraifft, byddwch yn cael y ddwy elfen os ydych chi’n gymwys ar gyfer yr elfen salwch neu anabledd a bod eich partner yn gymwys ar gyfer yr elfen gofalwr.
Faint fyddwch chi’n ei gael
Os oes gennych chi ‘allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch cysylltiedig â gwaith’, byddwch yn cael £423.27 y mis yn ychwanegol, ac ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gosod uchafswm ar gyfer yr hyn y gallwch ei gael mewn budd-daliadau - sef y 'Cap Budd-daliadau'.
Os ydych chi eisoes yn cael elfen ar gyfer ymfudo a reolir neu Bremiwm Anabledd Difrifol, efallai na fydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn codi yn ôl swm cyfan yr elfen ‘gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch cysylltiedig â gwaith’. Y rheswm am hyn yw y bydd eich elfen ymfudo neu Bremiwm Anabledd Difrifol yn mynd i lawr ar yr un pryd. Siaradwch â chynghorydd i gael gwybod sut bydd eich taliadau'n newid.
Os dyfernir ‘gallu cyfyngedig i weithio’ i chi, fel arfer ni fyddwch yn cael taliad ychwanegol. Yr eithriad yw y byddwch yn cael £158.76 ychwanegol bob mis os ydych chi wedi bod yn sâl ers cyn 3 Ebrill 2017 a bod yr Adran Gwaith a Phensiynau eisoes wedi dweud bod gennych chi ‘allu cyfyngedig i weithio’. Gallai hyn fod wedi bod ar gyfer Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Pryd gewch chi'r swm ychwanegol
Fel arfer, byddwch yn dechrau cael y taliad ychwanegol yn eich pedwerydd neu bumed taliad ar ôl i chi roi tystiolaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau bod gennych chi ‘allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch cysylltiedig â gwaith’. Os bydd yn cymryd mwy o amser i'r Adran Gwaith a Phensiynau benderfynu, bydd eich taliad yn cael ei ôl-ddyddio fel na fyddwch ar eich colled.
Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y cewch y swm ychwanegol yn eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf. Mae hynny’n cynnwys os ydych chi’n:
derfynol wael a bod eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn dweud wrthych efallai na fyddwch yn byw am fwy na blwyddyn
wedi bod â Chredyd Cynhwysol o'r blaen gydag elfen ‘gallu cyfyngedig i weithio’ neu ‘allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch cysylltiedig â gwaith’ a daeth y dyfarniad i ben o fewn y 6 mis diwethaf oherwydd bod gennych ormod o incwm
cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gyda’r elfen cymorth neu weithgarwch cysylltiedig â gwaith, neu wedi’i gael ar yr adeg y gwnaethoch hawlio Credyd Cynhwysol
Efallai y byddwch hefyd yn cael y swm ychwanegol yn eich taliad nesaf os cawsoch eich asesu fel rhywun sydd â ‘gallu cyfyngedig i weithio’ neu ‘allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch cysylltiedig â gwaith’, fel rhan o hawliad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a’ch bod ar ‘hawliad credyd yn unig’ pan wnaethoch hawlio Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu mai dim ond credydau Yswiriant Gwladol yr oeddech yn eu derbyn.
Os cawsoch bremiwm anabledd difrifol yn y mis cyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol
Efallai y cewch swm ychwanegol yn eich Credyd Cynhwysol - mae'n dibynnu a ydych wedi cael 'hysbysiad ymfudo'. Mae llythyr ymfudo yn llythyr sy’n dweud wrthych chi am hawlio Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol.
Os ydych chi wedi cael hysbysiad ymfudo yn dweud wrthych chi am symud i Gredyd Cynhwysol, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau fel arfer yn cynnwys eich premiwm a’ch Premiwm Anabledd Difrifol pan fyddant yn cyfrifo eich elfen drosiannol.
Os nad ydych chi wedi cael hysbysiad ymfudo
Gallwch gael swm ychwanegol yn eich Credyd Cynhwysol - gelwir hyn yn 'elfen drosiannol y Premiwm Anabledd Difrifol'.
Dylech gael yr elfen drosiannol o'r Premiwm Anabledd Difrifol os oeddech yn cael y Premiwm gyda:
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
Cymhorthdal Incwm
Byddwch yn cael elfen drosiannol y Premiwm Anabledd Difrifol os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn mis ar ôl i chi roi’r gorau i gael y budd-dal gyda’r Premiwm Anabledd Difrifol. Rhaid i chi hefyd fodloni amodau cymhwyso’r Premiwm Anabledd Difrifol ar y dyddiad y mae eich dyfarniad Credyd Cynhwysol yn dechrau.
Fyddwch chi ddim yn cael yr elfen drosiannol o'r Premiwm Anabledd Difrifol os ydych naill ai:
wedi cael y Budd-dal Tai fel yr unig fudd-dal o’r Premiwm Anabledd Difrifol
yn dechrau byw gyda phartner sy'n hawlio Credyd Cynhwysol
Os nad ydych chi’n siŵr a oeddech chi’n cael Premiwm Anabledd Difrifol, edrychwch ar eich llythyrau budd-daliadau. Os ydych chi’n dal yn ansicr, cysylltwch â phwy bynnag sydd wedi talu’r budd-dal – gallwch ddod o hyd i’r manylion cyswllt yn eich llythyrau budd-daliadau.
Os cawsoch chi bremiwm anabledd gyda'ch budd-dal hefyd
Gallwch gael swm ychwanegol ar ben eich elfen drosiannol o'r Premiwm Anabledd Difrifol, os cawsoch y Premiwm ac un o'r canlynol gyda'ch budd-daliadau:
premiwm anabledd
premiwm anabledd uwch
premiwm anabledd plentyn neu elfen plentyn anabl
Os gwnaethoch chi gais am Gredyd Cynhwysol cyn 14 Chwefror 2024, ni fyddech wedi cael y swm ychwanegol hwn. Byddwch yn cael ôl-daliad, ond nid yw’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi penderfynu pryd y bydd hyn yn digwydd eto. Byddwn yn diweddaru ein cyngor pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyhoeddi sut byddan nhw’n anfon y taliadau.
Edrychwch i weld faint o elfen drosiannol y Premiwm Anabledd Difrifol y byddwch yn ei gael
Yn ystod eich cyfnod asesu cyntaf, bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich sefyllfa. Os ydych chi mewn mwy nag un o'r sefyllfaoedd hyn, fe gewch chi faint bynnag sydd uchaf.
Os dechreuodd eich Credyd Cynhwysol ar 29 Mehefin 2023 neu ar ôl hynny
Mae swm yr elfen drosiannol yn dibynnu ar::
pryd y dechreuodd eich cyfnod asesu cyntaf
eich sefyllfa ar y pryd
Your situation | Universal Credit started between 29 June 2023 and 7 April 2024 | Universal Credit started between 8 April 2024 and 6 April 2025 | Universal Credit started on or after 7 April 2025 |
---|---|---|---|
Your situation
You have a joint claim, were getting the higher rate of SDP and neither of you has a carer |
Universal Credit started between 29 June 2023 and 7 April 2024
£445.91 |
Universal Credit started between 8 April 2024 and 6 April 2025
£475.79 |
Universal Credit started on or after 7 April 2025
£483.88 |
Your situation
You have a single or joint claim that doesn’t include the limited capability for work-related activity element |
Universal Credit started between 29 June 2023 and 7 April 2024
£313.79 |
Universal Credit started between 8 April 2024 and 6 April 2025
£334.81 |
Universal Credit started on or after 7 April 2025
£340.50 |
Your situation
You have a single or joint claim that includes the limited capability for work-related activity element |
Universal Credit started between 29 June 2023 and 7 April 2024
£132.12 |
Universal Credit started between 8 April 2024 and 6 April 2025
£140.97 |
Universal Credit started on or after 7 April 2025
£143.37 |
Os oes gennych chi neu eich partner ofalwr, mae’r rheolau’n fwy cymhleth. Ni fyddwch yn cael y swm uwch o £445.91, £475.79 neu £483.88 os dechreuodd eich gofalwr gael unrhyw un o'r canlynol yn ystod cyfnod eich asesiad cyntaf:
Lwfans Gofalwr
Taliad Cymorth i Ofalwyr
elfen gofalwr y Credyd Cynhwysol
Byddwch yn cael un o’r symiau llai yn lle hynny, yn dibynnu a yw eich hawliad yn cynnwys yr elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch cysylltiedig â gwaith.
Os dechreuodd eich Credyd Cynhwysol cyn 29 Mehefin 2023
Roedd cyfraddau’r elfen drosiannol yn is.
Siaradwch â chynghorydd os nad ydych chi’n siŵr faint o elfen drosiannol y dylech chi fod wedi’i chael.
Os bydd elfennau eraill eich Credyd Cynhwysol yn cynyddu
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn lleihau eich elfen drosiannol os bydd elfennau eraill eich Credyd Cynhwysol yn cynyddu. Nid yw hyn yn berthnasol i'r elfen gofal plant - ni fydd yn effeithio ar eich elfen drosiannol.
Campbell's housing costs element is £400 and he also gets a transitional element of £140.97. He moves to a different property and his housing costs element increases to £450 - his transitional element will reduce by £50 to £90.97.
Siaradwch â chynghorydd os nad ydych chi’n siŵr os ydych yn cael y swm cywir.
If you're a carer
Byddwch yn cael £201.68 ychwanegol y mis at eich swm safonol os byddwch yn gofalu am berson ag anabledd difrifol am o leiaf 35 awr yr wythnos.
Mae'n werth dweud wrth y sawl rydych yn gofalu amdano am eich hawliad - gallent golli rhai o'u budd-daliadau os ydych yn cael y swm ychwanegol.
If the person you’re caring for gets a benefit with a Severe Disability Premium
The person you’re caring for might get a Severe Disability Premium (SDP) with:
income-based JSA
income-related ESA
Income Support
Housing Benefit
Council Tax Support
Pension Credit
The person you’re caring for won’t be eligible for the SDP while you’re getting the carer element of Universal Credit.
Always check with the person you’re caring for before you apply for Universal Credit. If you’re unsure what the effect claiming Universal Credit will have on someone else’s benefit claim, talk to an adviser.
Dim ond os byddwch chi’n gofalu am rywun heb gael eich talu y byddwch chi’n cael yr arian ychwanegol, ac os ydyn nhw’n cael o leiaf un o’r budd-daliadau hyn:
Attendance Allowance
the standard or enhanced rate of the daily living component of Personal Independence Payment
the middle or highest rate of the care component of Disability Living Allowance
Constant Attendance Allowance paid with a war disablement pension or industrial injuries benefits
Armed Forces Independence Payment
the standard or enhanced rate of the daily living component of Adult Disability Payment
the middle or highest rate of the care component of Child Disability Payment
If you already get Carer’s Allowance you can still get the carer element. Carer’s Allowance will count as ‘unearned income’. This means your Carer’s Allowance will be taken off your Universal Credit payments.
It's worth getting Carer's Allowance as well as Universal Credit. Carer's Allowance is paid more often than Universal Credit. If your Universal Credit payments are stopped, you'll still get your Carer's Allowance payment.
If you already get Carer Support Payment you can still get the carer element. The first £360.97 of Carer Support Payment will count as 'unearned income' and will be taken off your Universal Credit.
Oni bai bod gennych chi hawliad ar y cyd, allwch chi ddim cael yr elfen gofalwr a'r elfen ar gyfer salwch neu anabledd – fe gewch chi pa un bynnag sydd uchaf.
Os oes gennych chi hawliad ar y cyd, gallwch gael yr elfen gofalwr a’r elfen ar gyfer salwch neu anabledd - ond dim ond os ydych chi'n gymwys ar gyfer un a bod eich partner yn gymwys ar gyfer y llall. Er enghraifft, byddwch yn cael y ddwy elfen os ydych chi’n gymwys ar gyfer yr elfen gofalwr a bod eich partner yn gymwys ar gyfer yr elfen salwch neu anabledd.
Os oes gennych chi hawliad ar y cyd a'ch bod chi a'ch partner yn gofalu am wahanol bobl, byddwch yn cael 2 elfen gofalwr.
Os oes rhywun arall yn gofalu am yr un person â chi am o leiaf 35 awr yr wythnos, chewch chi na’r unigolyn arall ddim budd-daliadau am ofalu amdanynt. Dim ond un ohonoch sy’n gallu cael Lwfans Gofalwr, Taliad Cymorth i Ofalwyr neu’r elfen gofalwr.
Os ydych chi eisoes yn cael elfen ar gyfer ymfudo a reolir neu Bremiwm Anabledd Difrifol
Efallai na fydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn codi yn ôl swm cyfan yr elfen gofalwr. Y rheswm am hyn yw y bydd eich elfen ymfudo neu Bremiwm Anabledd Difrifol yn mynd i lawr ar yr un pryd. Siaradwch â chynghorydd i gael gwybod sut bydd eich taliadau'n newid.
3. Gwiriwch i weld a yw eich incwm neu’ch cynilion yn effeithio ar eich taliadau
Fe gewch chi lai o Gredyd Cynhwysol os cewch chi arian o'r gwaith neu o lefydd eraill, neu os oes gennych chi fwy na £6,000 mewn cynilion neu fuddsoddiadau eraill - gelwir hyn yn 'gyfalaf'.
Os oes gennych bartner sy'n byw gyda chi, bydd eu hincwm a'u cyfalaf hefyd yn effeithio ar eich taliadau.
Os oes gennych blentyn dibynnol neu unrhyw un arall sy’n byw gyda chi, ni fydd eu hincwm a’u cyfalaf yn effeithio ar eich taliadau.
Os ydych chi'n hunangyflogedig
Ceir rheolau gwahanol ar gyfer enillion os ydych chi'n hunangyflogedig. Rhagor o wybodaeth am gael Credyd Cynhwysol os ydych chi'n hunangyflogedig.
Gwirio effaith eich enillion o’r gwaith
Mae eich Credyd Cynhwysol yn gostwng yn raddol wrth i chi ennill mwy. Mae pob £1 rydych chi neu eich partner yn ei hennill ar ôl treth incwm yn lleihau eich Credyd Cynhwysol o 55c.
Gallwch gael rhywfaint o incwm heb leihau eich taliad Credyd Cynhwysol os ydych chi'n gyfrifol am blentyn neu os oes gennych allu cyfyngedig i weithio. Gelwir hyn yn 'lwfans gwaith'.
Mae maint eich lwfans gwaith yn dibynnu a ydych chi hefyd yn cael yr elfen tai Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai:
Eich sefyllfa | Eich lwfans gwaith |
---|---|
Eich sefyllfa
Os ydych chi'n cael yr elfen tai neu Fudd-dal Tai |
Eich lwfans gwaith
£411 y mis |
Eich sefyllfa
Nid ydych yn cael yr elfen tai |
Eich lwfans gwaith
£684 y mis |
Mae Zoe wedi cyfrifo y bydd yn cael £1,400 y mis o Gredyd Cynhwysol. Mae hi’n ennill £900 y mis ar ôl treth ac mae angen iddi gyfrifo sut mae ei hincwm yn effeithio ar faint y bydd hi’n ei gael.
Mae ganddi blentyn ac mae’n cael yr elfen tai – mae hyn yn golygu bod ganddi lwfans gwaith o £411 y mis. I gyfrifo faint i dynnu oddi ar ei Chredyd Cynhwysol, yn y lle cyntaf mae angen iddi dynnu ei lwfans gwaith o’i henillion misol - £900 - £411 = £489.
Mae pob £1 lawn mae hi’n ei hennill ar ôl treth incwm yn lleihau ei Chredyd Cynhwysol o 55c. £489 x 0.55 = £268.95. .
Bydd cyfanswm ei thaliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau £268.95 y mis oherwydd ei henillion. £1,400 - £268.95 = £1,131.55 - swm Credyd Cynhwysol Zoe ar ôl y gostyngiad oherwydd ei henillion.
Mae enillion o'r gwaith yn golygu'r holl gyflog y cewch fynd ag ef adref, gan gynnwys:
tâl a goramser
cildyrnau a chomisiwn
bonysau
tâl gwyliau
tâl salwch
tâl mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu rianta ar y cyd
Does dim rhaid i chi ystyried:
arian y byddwch yn ei dalu fel treth incwm
arian y byddwch yn ei dalu fel cyfraniadau yswiriant gwladol dosbarth 1
arian y byddwch yn ei dalu i mewn i bensiwn
treuliau
lwfans milltiroedd
talebau gofal plant a thalebau eraill nad yw'n arian parod
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrifo eich enillion ar gyfer pob taliad Credyd Cynhwysol misol, hyd yn oed os nad yw eich swydd yn eich talu bob mis. Dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os byddwch yn dechrau neu'n gadael swydd - dysgwch fwy am y newidiadau y dylech roi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau amdanynt.
Os ydych chi’n cael elfen ar gyfer ymfudo a reolir neu Bremiwm Anabledd Difrifol, efallai y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn newid os yw eich incwm yn disgyn o dan swm penodol am 3 mis yn olynol. Mae’r swm hwn yn dibynnu ar y canlynol:
pryd wnaethoch chi hawlio Credyd Cynhwysol am y tro cyntaf
os ydych chi'n sengl neu'n byw gyda phartner - os ydych chi'n byw gyda phartner, bydd y swm yn seiliedig ar eich incwm ar y cyd
Os ydych chi'n sengl
Eich isafswm incwm misol | |
---|---|
O 1 Ebrill 2025 ymlaen |
Eich isafswm incwm misol
£952 |
Rhwng 13 Mai 2024 a 31 Mawrth 2025 |
Eich isafswm incwm misol
£892 |
Rhwng 1 Ebrill a 12 Mai 2024 |
Eich isafswm incwm misol
£743 |
Rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 |
Eich isafswm incwm misol
£677 |
Rhwng 30 Ionawr a 31 Mawrth 2023 |
Eich isafswm incwm misol
£617 |
Rhwng 26 Medi 2022 a 29 Ionawr 2023 |
Eich isafswm incwm misol
£494 |
Os ydych yn byw gyda phartner
Your minimum monthly joint income | |
---|---|
From 1 April 2025 |
Your minimum monthly joint income
£1,534 |
From 13 May 2024 to 31 March 2025 |
Your minimum monthly joint income
£1,437 |
From 1 April to 12 May 2024 |
Your minimum monthly joint income
£1,189 |
From 1 April 2023 to 31 March 2024 |
Your minimum monthly joint income
£1,083 |
From 30 January to 31 March 2023 |
Your minimum monthly joint income
£988 |
From 26 September 2022 to 29 January 2023 |
Your minimum monthly joint income
£782 |
Os oeddech chi eisoes yn ennill llai na hyn, ni fydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn newid.
Os enilloch chi fwy na hyn pan wnaethoch chi hawlio Credyd Cynhwysol am y tro cyntaf, bydd yr elfen ar gyfer ymfudo a reolir neu’r Premiwm Anabledd Difrifol yn dod i ben. Gallai hyn olygu eich bod yn cael llai o arian yn eich taliad Credyd Cynhwysol.
Os ydych chi’n oedran pensiwn ac wedi ymfudo i Gredyd Cynhwysol o’r Credyd Treth Gwaith, gallai gostyngiad mewn enillion ddod â’ch Credyd Cynhwysol i ben yn llwyr..
Os oes angen help arnoch i gyfrifo sut mae eich enillion yn effeithio ar eich Credyd Cynhwysol, gallwch siarad â chynghorydd.
Cyfrifwch a yw eich cyfalaf yn gwneud gwahaniaeth
Mae cyfalaf yn cynnwys pethau fel cynilion, eiddo a chyfranddaliadau. Nid yw’n cynnwys:
eiddo personol
asedau busnes
y tŷ rydych yn byw ynddo
Os oes gennych chi fwy na £6,000 o gyfalaf, bydd yn lleihau eich taliadau Credyd Cynhwysol. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn tynnu £4.35 y mis am bob £250 (neu ran o £250) o gyfalaf dros £6,000. Er enghraifft, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn tynnu £4.35 os oes gennych gyfalaf o £6,001 oherwydd bod £1 yn rhan o £250.
Niamh has £7,700 in capital. This is £1,700 over £6,000 - which is 6 full lots of £250 and one part of £250. This means their capital reduces their Universal Credit by 7 x £4.35 = £30.45 per month.
Fel arfer, fyddwch chi ddim yn gallu cael Credyd Cynhwysol mwyach os oes gennych chi fwy na £16,000 mewn cyfalaf.
Os oes gennych chi fwy na £16,000, efallai y byddwch yn dal i allu cael Credyd Cynhwysol os cawsoch gredydau treth a bod gennych chi lythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthych am hawlio Credyd Cynhwysol yn lle hynny. Gelwir hyn yn ‘ymfudo a reolir’. Gallwch wirio a yw ymfudo a reolir yn berthnasol i chi.
Peidiwch â chael gwared ar eich cyfalaf i geisio cynyddu eich taliadau Credyd Cynhwysol. Os byddwch yn gwneud hynny, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrifo eich taliadau Credyd Cynhwysol fel pe bai’r cyfalaf gennych o hyd. Gelwir hyn yn ‘gyfalaf tybiannol’.
Ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich trin fel rhywun sy'n dal i fod â chyfalaf tybiannol os:
maen nhw’n meddwl bod gennych chi reswm da dros brynu rhywbeth
gwnaethoch ei ddefnyddio i dalu dyled sy'n ddyledus gennych, gan gynnwys rhan o'ch morgais
Os oes angen help arnoch i gyfrifo sut mae eich cynilion a’ch cyfalaf yn effeithio ar eich Credyd Cynhwysol, gallwch siarad â chynghorydd.
Tynnu rhai mathau eraill o incwm i ffwrdd
Bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau o’r un swm ag yr ydych yn ei gael o fathau penodol o incwm. Mae’r rhain yn cynnwys:
pensiynau neu flwydd-daliadau
cynhaliaeth gan ŵr, gwraig neu bartner sifil presennol neu flaenorol (ond nid cynhaliaeth plant - nid yw hyn byth yn lleihau eich Credyd Cynhwysol)
taliadau yswiriant
rhai budd-daliadau, fel Lwfans Gofalwr, Taliad Cymorth i Ofalwyr, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Mamolaeth, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Lwfans Ceisio Gwaith
Os ydych yn cael benthyciad neu grant myfyrwyr, gallai hyn gyfrif fel incwm ac effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol gewch chi.
Nid oes angen i chi dynnu incwm o rai budd-daliadau, gan gynnwys:
Child Benefit
Disability Living Allowance
Personal Independence Payment
Bereavement Support Payment
war pensions
Adult Disability Benefit
Child Disability Benefit
Mae rhai mathau eraill o incwm yn cael eu hanwybyddu ac ni fyddant yn lleihau faint o Gredyd Cynhwysol gewch chi. Er enghraifft:
taliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal - fel lwfansau mabwysiadu a maethu, taliadau gorchymyn trefniadau plentyn a thaliadau gofal gan berthynas
arian rheolaidd gan elusen
arian rheolaidd gan aelod o’r teulu
rhentu o ystafell rydych chi'n ei gosod yn y tŷ rydych chi'n byw ynddo
Os yw eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau i sero
Bydd hyn yn dod â'ch cais am Gredyd Cynhwysol i ben - bydd y Ganolfan Waith yn rhoi gwybod i chi os bydd hyn yn digwydd.
Os bydd eich cais yn dod i ben oherwydd bod eich incwm wedi cynyddu, efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol eto os bydd eich incwm yn gostwng. Fel arfer bydd angen i chi wneud hawliad newydd.
Pan fydd y Ganolfan Waith yn dweud wrthych fod eich cais yn dod i ben, edrychwch i weld a fydd eich incwm yn gostwng yn ystod y 5 mis nesaf. Os yw'ch incwm yn mynd i lawr, gofynnwch i'r Adran Gwaith a Phensiynau gadw'ch cais ar agor. Os ydyn nhw’n cytuno, byddan nhw’n dal i wirio eich enillion o’r gwaith am y 5 mis nesaf. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ailgychwyn eich hawliad os bydd eich incwm yn gostwng i swm sy’n golygu y gallwch gael Credyd Cynhwysol.
Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cadw'ch cais yn agored, dylech roi gwybod iddynt o hyd pan fydd eich incwm wedi gostwng. Os ydych chi’n hunangyflogedig, daliwch ati i roi gwybod am eich incwm a’ch treuliau drwy eich cofnod ar-lein.
4. Gwiriwch a yw’r Cap Budd-daliadau yn effeithio arnoch chi
Mae’r Cap Budd-daliadau yn derfyn i gyfanswm yr arian y gallwch ei gael o rai budd-daliadau. Os yw eich taliad Credyd Cynhwysol dros swm penodol, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ei ostwng i lefel benodol.
Ni fydd y Cap Budd-daliadau yn berthnasol i’ch cleient os ydyn nhw neu eu partner:
yn gweithio ac yn ennill o leiaf £846 y mis ar ôl treth - os oes ganddynt bartner, mae angen i'w henillion cyfun fod o leiaf £846 y mis
yn cael elfen Gallu Cyfyngedig ar gyfer Gweithgarwch Cysylltiedig â Gwaith y Credyd Cynhwysol
yn cael elfen gofalwr Credyd Cynhwysol, Lwfans Gofalwr neu Daliad Cymorth i Ofalwyr
yn cael rhai budd-daliadau oherwydd eu bod yn anabl neu oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd, neu oherwydd bod ganddynt blentyn sy’n cael un o’r budd-daliadau hyn – gallwch edrych ar y rhestr o fudd-daliadau ar GOV.UK
Efallai na fydd y Cap Budd-daliadau yn berthnasol os ydych chi wedi symud o Gredyd Treth Gwaith i Gredyd Cynhwysol ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth, oherwydd eich bod wedi cael hysbysiad ymfudo. Ni fydd yn berthnasol os ydych chi'n sengl neu os oes gennych bartner a bod y ddau ohonoch dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Efallai na fydd y Cap Budd-daliadau yn berthnasol i chi chwaith os ydych wedi colli eich swydd yn y 9 mis diwethaf neu os aeth eich enillion i lawr yn ddiweddar.
If you lost your job in the last 9 months
The Benefit Cap might not be applied to your Universal Credit payments for 9 months after you stopped earning. This is called a ‘grace period’.
The 9 months includes time before you claim Universal Credit. After 9 months the Benefit Cap will be applied.
You’ll be in a grace period if your earnings were at least a certain amount for the 12 months before you stopped earning. If you were already claiming Universal Credit it depends on the 12 months before the assessment period in which you stopped earning. Your earnings must have been at least:
£658 a month for each of the 12 months that started between 1 April 2022 and 31 March 2023
£722 a month for each of the 12 months that started between 1 April 2023 and 31 March 2024
£793 a month for each of the 12 months that started netween 1 April 2024 and 31 March 2025
£846 for each of the 12 months that started from 1 April 2025 or later
If you have a partner, these amounts will include their earnings too.
Lilo lost her job on 21 March 2025 and claimed Universal Credit in April 2025. She wants to know if the Benefit Cap applies to her.
Lilo will be in a grace period if she earned enough from 22 March 2024 to 21 March 2025. She must have earned at least:
£722 a month from 22 March 2024 to 21 April 2024
£793 a month from 22 April 2024 to 21 March 2025
If Lilo is in a grace period, the Benefit Cap won’t apply for 9 months starting on 22 March 2025. Because she started claiming in April 2025, she has 8 months of the grace period left before the Benefit Cap is applied.
If your earnings recently went down
If your earnings have gone down to less than £846 a month, the Benefit Cap might not be applied to your Universal Credit payments for 9 months. This is called a ‘grace period’. After 9 months the Benefit Cap will be applied.
You’ll be in a grace period if your earnings were at least a certain amount for the 12 months before the assessment period in which they went down. If you claimed Universal Credit later it depends on the 12 months before you started your claim. Your earnings must have been at least:
£722 a month for each of the 12 months that started between 1 April 2023 and 31 March 2024
£793 a month for each of the 12 months that started between 1 April 2024 and 31 March 2025
£846 a month for each of the 12 months that started from 1 April 2025
If you have a partner, these amounts will include their earnings too.
If you weren’t already claiming Universal Credit, you’ll only get a grace period if you start your claim soon after your earnings go down. This is because it depends on your earnings in the 12 months before your claim.
Magnus has been getting Universal Credit since July 2024. His earnings went down to £500 a month on 20 October 2024 - this was in the assessment period which went from 5 October 2024 to 4 November 2024. He wants to know if the Benefit Cap applies to him.
Magnus will be in a grace period if he earned enough from 5 October 2023 to 4 October 2024. He must have earned at least:
£722 a month from 5 October 2023 to 4 April 2024
£793 a month from 5 April 2024 to 4 October 2024
If Magnus is in a grace period, the Benefit Cap won’t apply for 9 months starting on 5 October 2024.
Bianca’s earnings went down to £500 a month in January 2025 and she claimed Universal Credit on 13 March 2025. She wants to know if the Benefit Cap applies to her.
Bianca can only be in a grace period if she earned enough from 13 March 2024 to 12 March 2025. She must have earned at least:
£722 a month from 13 March 2024 to 12 April 2024
£793 a month from 13 April 2024 to 12 March 2025
Because Bianca was only earning £500 from January 2025, she is not in a grace period. If she had claimed Universal Credit as soon as her earnings went down she might have been in a grace period.
Dylai'r Adran Gwaith a Phensiynau ofyn i chi roi gwybod am eich enillion o'r 12 mis diwethaf pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, i gael y cyfnod gras. Os na fyddant yn gofyn i chi roi gwybod am eich enillion, anfonwch neges atynt yn eich cyfrif ar-lein.
Gallwch weld a allwch gael cyfnod gras ar GOV.UK.
Gwiriwch beth yw terfyn y Cap Budd-daliadau
Mae faint o arian y gallwch ei gael mewn budd-daliadau cyn y Cap Budd-daliadau yn dibynnu ar bethau fel:
ble rydych chi’n byw
os ydych chi'n sengl
os oes gennych blant yn eich cartref - mae hyn yn golygu eu bod yn byw gyda chi ac mai chi sy'n gyfrifol amdanynt
Your circumstances | Benefit Cap limit |
---|---|
Your circumstances
Single without children and live outside London |
Benefit Cap limit
£1,229.42 |
Your circumstances
Single without children and live inside London |
Benefit Cap limit
£1,413.92 |
Your circumstances
In a couple or have children and live outside London |
Benefit Cap limit
£1,835.00 |
Your circumstances
In a couple or have children and live in London |
Benefit Cap limit
£2,110.25 |
Nid yw’r Cap Budd-daliadau yn effeithio ar yr elfen gofal plant. Does dim ots a yw’r swm rydych chi’n ei gael ar gyfer gofal plant yn golygu eich bod yn cael mwy na symiau’r Cap Budd-daliadau.
Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r Cap Budd-daliadau yn effeithio ar eich Credyd Cynhwysol, siaradwch â chynghorydd.
5. Tynnu cosbau neu unrhyw ostyngiadau eraill
Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn tynnu arian o'ch taliadau Credyd Cynhwysol ar gyfer:
arian mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi’i roi i chi’n gynnar, fel blaendaliad neu flaendal cyllidebu
sancsiynau
gordaliadau
taliadau cynhaliaeth plant
talu dyledion am filiau cyfleustodau
twyll budd-daliadau
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ostyngiadau i'ch taliad Credyd Cynhwysol.
Os ydych chi'n cael trafferth gydag arian, dewch i wybod pa gymorth y gallwch ei gael gyda dyledion neu ôl-ddyledion rhent pan fyddwch wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 08 Ionawr 2021