Gweld faint o Fudd-dal Tai y gallwch chi ei gael

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Efallai y byddwch chi’n gallu cael eich holl rent wedi’i dalu neu efallai dim ond rhywfaint ohono. Mae faint o Fudd-dal Tai a gewch chi yn dibynnu ar y canlynol:

  • ble rydych chi’n byw

  • gyda phwy rydych chi’n byw

  • eich incwm

  • unrhyw gynilion sydd gennych

Ni fyddwch yn gwybod yn union faint o Fudd-dal Tai gewch chi tan ar ôl i chi wneud cais. Os oes angen amcangyfrif arnoch cyn hawlio, gallwch chi ddefnyddio gwiriwr budd-daliadau Turn2us.

Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Bydd cynghorwr yn eich holi am eich amgylchiadau a bydd o neu hi yn gallu rhoi gwybod i chi faint o Fudd-dal Tai y mae gennych hawl iddo.

Os ydych chi’n rhentu gan landlord preifat

Gelwir uchafswm y taliad Budd-dal Tai y gallwch chi fel arfer ei gael yn y ’gyfradd Lwfans Tai Lleol’. Mae’n dibynnu ar y canlynol:

Efallai fod eich rhent yn fwy na’r gyfradd lwfans tai lleol. Os ydyw, bydd yn rhaid i chi dalu’r gweddill eich hun.

Gallwch chi weld y gyfradd lwfans tai lleol yn eich ardal chi ar GOV.UK.

Nid yw’r gyfradd lwfans tai lleol yn berthnasol i bob math o denantiaeth - er enghraifft, efallai na fydd yn berthnasol i chi os yw un o’r canlynol yn wir:

  • dechreuodd eich tenantiaeth cyn 15 Ionawr 1989

  • rydych chi wedi bod yn cael Budd-dal Tai ar gyfer yr un eiddo ers 1996

  • rydych chi’n byw mewn carafán, cartref symudol neu gwch preswyl

  • mae eich landlord yn elusen neu’n gymdeithas dai ac maen nhw’n rhoi gofal neu gymorth i chi - er enghraifft os ydych chi’n byw mewn tŷ gwarchod

  • rydych chi’n talu rhent fel rhan o gynllun rhanberchenogaeth

Os ydych chi’n meddwl efallai na fydd y gyfradd lwfans tai lleol yn berthnasol a’ch bod am wybod sut y cyfrifir eich Budd-dal Tai, cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Mae yna amgylchiadau eraill a allai effeithio ar faint o Fudd-dal Tai y gallwch chi ei gael.

Os ydych chi’n sengl ac o dan 35 oed

Fel arfer, bydd terfyn ar eich Budd-dal Tai fel ei fod yn ddigon i dalu am fflat un ystafell neu ystafell mewn tŷ neu fflat a rennir, a dim mwy. Mae hyn yn golygu, os ydych chi’n rhentu fflat 1 ystafell wely ar eich pen eich hun, efallai na fydd eich taliad yn ddigon i dalu eich rhent llawn.

Fel arfer, ni fydd y terfyn yn berthnasol os:

  • mae gennych chi rhywun arall yn byw gyda chi – er enghraifft plentyn neu gydletywr

  • rydych chi’n ofalwr maeth

  • rydych chi’n 16 oed o leiaf ac wedi byw mewn hosteli i bobl ddigartref am o leiaf 3 mis

  • rydych chi’n 25 oed o leiaf ac wedi gadael y carchar dan y Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA)

Os oeddech chi’n arfer bod mewn gofal, efallai na fydd y terfyn yn berthnasol nes eich bod yn 25 oed.

Os ydych chi’n anabl

Fel arfer, ni fydd y terfyn yn berthnasol os ydych chi’n cael un o’r budd-daliadau hyn:

  • cyfradd safonol neu uwch elfen byw bob dydd y Taliad Annibyniaeth Bersonol

  • y gyfradd ganol neu uchaf o elfen ofal y Lwfans Byw i’r Anabl

  • Lwfans Gweini

  • Taliad Anabledd i Bobl Oed Pensiwn

  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog

  • cyfradd safonol neu uwch elfen byw bob dydd y Taliad Anabledd Oedolion

Bydd y terfyn yn dal yn berthnasol os bydd rhywun yn cael Lwfans Gofalwr neu Daliad Cymorth i Ofalwyr am ofalu amdanoch chi.

Gallwch chi gael Budd-dal Tai ar gyfer fflat 2 wely os oes rhaid i rywun aros mewn ystafell ar wahân yn rheolaidd er mwyn iddynt allu rhoi gofal dros nos i chi.

Os ydych chi’n hawlio budd-daliadau eraill

Byddwch chi’n gymwys yn awtomatig i gael yr uchafswm o Fudd-dal Tai ar gyfer y math o eiddo sydd gennych chi os byddwch chi’n hawlio’r canlynol:

  • Credyd Cynhwysol

  • Cymhorthdal Incwm

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm

  • rhan warantedig Credyd Pensiwn

Gallai rhai pethau eich atal rhag cael yr uchafswm o hyd. Er enghraifft, os oes rhywun yn byw gyda chi a allai helpu i dalu’r rhent neu os oes gennych ystafell sbâr.

Gweld a yw’r cap budd-daliadau yn berthnasol i chi

Mae cyfyngiad ar faint o fudd-daliadau y gallwch chi eu cael bob wythnos. Gelwir hyn yn ‘cap budd-daliadau’.

Nid yw’r cap budd-daliadau yn berthnasol i chi os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych chi’n cael budd-daliadau penodol oherwydd eich bod yn sâl neu’n anabl – edrychwch ar y rhestr o fudd-daliadau ar GOV.UK

  • rydych chi dros yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn – edrychwch ar eich oedran cymhwyso ar GOV.UK

  • rydych chi’n byw mewn llety dros dro

  • mae eich landlord yn elusen ac maen nhw’n rhoi gofal neu gymorth i chi - er enghraifft os ydych chi’n byw mewn tŷ gwarchod

Nid yw’r cap budd-daliadau’n berthnasol chwaith os gwnaethoch chi neu’ch partner rhoi’r gorau i weithio llai na 9 mis yn ôl. Rhaid i chi fod wedi gweithio am 50 wythnos yn y flwyddyn cyn i chi roi’r gorau i weithio a heb gael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith na Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Gallwch chi weld sut bydd y cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch chi os nad ydych chi’n siŵr.

Os yw’r cap budd-daliadau’n berthnasol i chi, ni all cyfanswm eich taliadau fod yn uwch na’r cap – hyd yn oed os ydych chi’n gymwys i gael y swm llawn o Fudd-dal Tai.

Os oes oedolyn arall yn byw gyda chi

Os ydych chi’n byw gyda’ch partner, bydd eich cyngor lleol yn edrych ar faint y mae eich partner yn ei ennill wrth benderfynu ar eich taliadau Budd-dal Tai.

Bydd y cyngor hefyd yn edrych ar incwm unrhyw oedolion eraill rydych chi’n byw gyda nhw nad ydynt yn denantiaid neu’n lletywyr – er enghraifft mab neu ferch sy’n oedolyn. Gelwir y rhain yn unigolion ‘nad yw’n dibynyddion’.

Fel arfer, ni fyddwch yn cael yr uchafswm Budd-dal Tai os oes unigolyn nad yw’n dibynnydd yn byw gyda chi.

Gall eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol eich helpu i weld a ddylech chi gael yr uchafswm Budd-dal Tai.

Os ydych chi’n rhentu gan y cyngor neu gan gymdeithas dai

Uchafswm y Budd-dal Tai y gallwch chi ei gael yw swm llawn y rhent y mae’n rhaid i chi ei dalu.

Mae yna amgylchiadau a allai effeithio ar faint o Fudd-dal Tai y gallwch chi ei gael.

Os ydych chi’n hawlio budd-daliadau eraill

Byddwch chi’n gymwys yn awtomatig i gael yr uchafswm o Fudd-dal Tai ar gyfer y math o eiddo sydd gennych chi os byddwch chi’n hawlio’r canlynol:

  • Credyd Cynhwysol

  • Cymhorthdal Incwm

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm

  • rhan warantedig Credyd Pensiwn

Gallai rhai pethau eich atal rhag cael yr uchafswm o hyd. Er enghraifft, os oes rhywun yn byw gyda chi a allai helpu i dalu’r rhent neu os oes gennych ystafell sbâr.

Gweld a yw’r cap budd-daliadau yn effeithio arnoch chi

Mae cyfyngiad ar faint o fudd-daliadau y gallwch chi eu cael bob wythnos. Gelwir hyn yn ‘cap budd-daliadau’.

Nid yw’r cap budd-daliadau yn berthnasol i chi os yw’r canlynol yn wir:

  • your landlord’s a county council or housing association and they give you care or support – for example if you live in sheltered housing

Nid yw’r cap budd-daliadau’n berthnasol chwaith os gwnaethoch chi neu’ch partner rhoi’r gorau i weithio llai na 9 mis yn ôl. Rhaid i chi fod wedi gweithio am 50 wythnos yn y flwyddyn cyn i chi roi’r gorau i weithio a heb gael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith na Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Gallwch chi weld sut bydd y cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch chi os nad ydych chi’n siŵr.

Os yw’r cap budd-daliadau’n berthnasol i chi, ni all cyfanswm eich taliadau fod yn uwch na’r cap – hyd yn oed os ydych chi’n gymwys i gael y swm llawn o Fudd-dal Tai.

Os oes gennych ystafell ychwanegol

Fel arfer, ni fyddwch yn cael yr uchafswm Budd-dal Tai oherwydd bydd yr hyn a elwir yn ‘dreth ystafell wely’ neu’r ‘gymhorthdal ystafell sbâr’ yn berthnasol. Gallwch chi weld sut bydd y dreth ystafell wely yn effeithio ar eich Budd-dal Tai.

Os nad yw’r Budd-dal Tai yn ddigon i dalu’ch rhent

Unwaith y byddwch yn hawlio Budd-dal Tai, efallai y gallwch chi hefyd gael Taliad Tai Dewisol (TTP) os oes angen help arnoch i dalu gweddill eich rhent.

Mae pa mor hir y gallwch chi gael Taliadau Tai Dewisol yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Yn y tymor hir, efallai y bydd angen i chi chwilio am waith ychwanegol neu symud i rywle mwy fforddiadwy.

Y camau nesaf

Dysgwch sut i hawlio Budd-dal Tai a Thaliadau Tai Dewisol.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 14 Awst 2019