Gweld faint o Fudd-dal Tai y gallwch chi ei gael
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae Budd-dal Tai wedi dod i ben i’r rhan fwyaf o bobl o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Efallai y gallwch wneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai os ydych chi:
wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
yn byw mewn llety dros dro neu lety â chymorth – waeth beth fo’ch oedran
Gwiriwch a allwch gael Budd-dal Tai
Efallai y byddwch chi’n gallu cael eich holl rent wedi’i dalu neu efallai dim ond rhywfaint ohono. Mae faint o Fudd-dal Tai a gewch chi yn dibynnu ar y canlynol:
ble rydych chi’n byw
gyda phwy rydych chi’n byw
eich incwm
unrhyw gynilion sydd gennych
Ni fyddwch yn gwybod yn union faint o Fudd-dal Tai gewch chi tan ar ôl i chi wneud cais. Os oes angen amcangyfrif arnoch cyn hawlio, gallwch chi ddefnyddio gwiriwr budd-daliadau Turn2us.
Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Bydd cynghorwr yn eich holi am eich amgylchiadau a bydd o neu hi yn gallu rhoi gwybod i chi faint o Fudd-dal Tai y mae gennych hawl iddo.
Os ydych chi’n rhentu gan landlord preifat
Gelwir uchafswm y taliad Budd-dal Tai y gallwch chi fel arfer ei gael yn ’gyfradd Lwfans Tai Lleol’. Mae’n dibynnu ar y canlynol:
ble rydych chi’n byw
faint o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch – ewch i GOV.UK i weld faint o ystafelloedd gwely y gallwch chi gael Budd-dal Tai ar eu cyfer
Efallai fod eich rhent yn fwy na’r gyfradd lwfans tai lleol. Os ydyw, bydd yn rhaid i chi dalu’r gweddill eich hun.
Gallwch chi weld cyfradd y Lwfans Tai Lleol yn eich ardal chi ar GOV.UK. Gweld y gyfradd lwfans tai lleol yn eich ardal chi
Nid yw’r gyfradd lwfans tai lleol yn berthnasol i bob math o denantiaeth - er enghraifft, efallai na fydd yn berthnasol i chi os yw un o’r canlynol yn wir:
dechreuodd eich tenantiaeth cyn 15 Ionawr 1989
rydych chi wedi bod yn cael Budd-dal Tai ar gyfer yr un eiddo ers 1996
rydych chi’n byw mewn carafán, cartref symudol neu gwch preswyl
mae eich landlord yn elusen neu’n gymdeithas dai ac maen nhw’n rhoi gofal neu gymorth i chi - er enghraifft os ydych chi’n byw mewn tŷ gwarchod
rydych chi’n talu rhent fel rhan o gynllun rhanberchenogaeth
Os ydych chi’n meddwl ei bod yn bosibl nad yw'r gyfradd Lwfans Tai Lleol yn berthnasol a’ch bod am wybod sut y cyfrifir eich Budd-dal Tai, cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Mae yna amgylchiadau eraill a allai effeithio ar faint o Fudd-dal Tai y gallwch chi ei gael.
Os ydych chi’n hawlio budd-daliadau eraill
Byddwch chi’n gymwys yn awtomatig i gael yr uchafswm o Fudd-dal Tai ar gyfer y math o eiddo sydd gennych chi os byddwch chi’n hawlio’r canlynol:
Credyd Cynhwysol
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail Incwm
elfen warant Credyd Pensiwn
Gallai rhai pethau eich atal rhag cael yr uchafswm o hyd. Er enghraifft, os oes rhywun yn byw gyda chi a allai helpu i dalu’r rhent neu os oes gennych ystafell sbâr.
Os oes oedolyn arall yn byw gyda chi
Os ydych chi’n byw gyda’ch partner, bydd eich cyngor lleol yn edrych ar faint y mae eich partner yn ei ennill wrth benderfynu ar eich taliadau Budd-dal Tai.
Bydd y cyngor hefyd yn edrych ar incwm unrhyw oedolion eraill rydych chi’n byw gyda nhw nad ydynt yn denantiaid neu’n lletywyr – er enghraifft mab neu ferch sy’n oedolyn. Gelwir y rhain yn ‘bobl nad ydynt yn ddibynyddion’.
Fel arfer, ni fyddwch yn cael yr uchafswm Budd-dal Tai os oes person nad yw’n ddibynnydd yn byw gyda chi.
Gall eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol eich helpu i weld a ddylech chi gael yr uchafswm Budd-dal Tai.
Os ydych chi’n rhentu gan y cyngor neu gan gymdeithas dai
Uchafswm y Budd-dal Tai y gallwch chi ei gael yw swm llawn y rhent y mae’n rhaid i chi ei dalu.
Mae yna amgylchiadau a allai effeithio ar faint o Fudd-dal Tai y gallwch chi ei gael.
Os ydych chi’n hawlio budd-daliadau eraill
Byddwch yn gymwys yn awtomatig i gael yr uchafswm o Fudd-dal Tai ar gyfer eich math chi o eiddo os ydych yn hawlio unrhyw un o’r canlynol:
Credyd Cynhwysol
elfen warant Credyd Pensiwn
Gallai rhai pethau eich atal o hyd rhag cael yr uchafswm. Er enghraifft, os oes rhywun yn byw gyda chi a allai helpu i dalu’r rhent neu os oes gennych ystafell sbâr.
Os nad yw’r Budd-dal Tai yn ddigon i dalu’ch rhent
Unwaith y byddwch yn hawlio Budd-dal Tai, efallai y gallwch chi hefyd gael Taliad Tai Dewisol (DHP) os oes angen help arnoch i dalu gweddill eich rhent.
Mae hyd y cyfnod y gallwch chi gael Taliad Tai Dewisol yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Yn y tymor hir, efallai y bydd angen i chi symud i rywle mwy fforddiadwy.
Y camau nesaf
Dysgwch sut i hawlio Budd-dal Tai a Thaliadau Tai Dewisol.
Adolygwyd y dudalen ar 15 Hydref 2026