Gweld a allwch chi gael y Lwfans Ceisio Gwaith ‘newydd’
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y byddwch yn gallu y Lwfans Ceisio Gwaith (Jobseeker's Allowance) ar ei newydd wedd am hyd at 6 mis tra ydych yn chwilio am swydd. Gallwch ei gael tra ydych yn ddi-waith, neu os ydych yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos.
Newidiadau i reolau’r Lwfans Ceisio Gwaith o 2028 ymlaen
Ar 18 Mawrth 2025, cyhoeddodd y llywodraeth newidiadau i sut mae rhai mathau o Lwfans Ceisio Gwaith yn cael eu talu. Ni fydd y newidiadau’n digwydd tan fis 2028.
Os ydych yn ystyried gwneud cais am y Lwfans Ceisio Gwaith newydd, dylech wneud hynny.
Fel arfer, bydd angen i chi ddangos eich bod yn chwilio am swydd lawn-amser i hawlio'r lwfans newydd – sef 35 awr neu fwy yr wythnos. Gallwch chwilio am swydd gyda llai o oriau a dal i fod yn gymwys:
os ydych yn ofalwr
os ydych yn gyfrifol am blant dan 13 oed
os na allwch weithio'n llawn-amser oherwydd anabledd neu salwch
Gallwch hawlio'r Lwfans Ceisio Gwaith newydd ar ei ben ei hun neu gyda Chredyd Cynhwysol – edrychwch i weld a allwch chi gael Credyd Cynhwysol.
Mae dau hen fath o Lwfans Ceisio Gwaith y mae rhai pobl yn dal i'w cael – sef lwfans 'seiliedig ar incwm' neu 'seiliedig ar gyfraniadau'.
Dim ond os ydych eisoes yn cael Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar gyfraniadau allwch chi wneud cais am lwfans seiliedig ar incwm – ewch i weld a allwch chi gael lwfans seiliedig ar incwm.
Ni allwch wneud cais newydd am Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau.
Gweld a allwch chi gael y Lwfans Ceisio Gwaith newydd
Gallwch hawlio'r Lwfans Ceisio Gwaith newydd:
os ydych wedi gweithio a thalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn ystod y 2-3 blynedd diwethaf
os ydych yn 18 oed neu’n hŷn ac o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Dylech hefyd fod:
yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos
ar gael i weithio
wrthi’n chwilio am waith
ddim mewn addysg amser llawn
ddim yn hawlio Cymhorthdal Incwm
Ni allwch gael y Lwfans Ceisio Gwaith newydd:
os ydych dan 18 oed, ond ceir rhai eithriadau os ydych yn 16 neu'n 17 oed
os oes gennych salwch neu anabledd sy’n golygu nad ydych yn gallu gweithio – dylech fynd i weld a allwch chi gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle
Gallwch gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol i weld pa gymorth y gallwch ei gael.
Os ydych yn gwneud cais am y Lwfans Ceisio Gwaith newydd, does dim ots o ba wlad rydych yn dod.
Os na allwch chi gael y Lwfans Ceisio Gwaith newydd
Ewch i weld a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol - os ydych chi, gallwch wneud cais am hwnnw yn lle.
Gweld faint o Lwfans Ceisio Gwaith y byddwch yn ei gael
Os ydych yn gymwys i gael y Lwfans Ceisio Gwaith newydd, gallwch gael 'lwfans personol' bob wythnos o hyd at:
£72.90 os ydych rhwng 18 a 24 oed
£92.05 os ydych yn 25 oed neu'n hŷn
Bydd yr union swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau – er enghraifft, efallai y bydd eich taliad yn llai os ydych yn gweithio'n rhan-amser neu'n cael pensiwn.
Gallwch gael y Lwfans Ceisio Gwaith newydd am hyd at 182 diwrnod – sef tua 6 mis.
Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2us i gyfrifo faint y gallwch ei gael, neu gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Y camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.