Os oeddech yn arfer cael yr hen Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae dau fath o hen Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) - gelwir hwy yn ‘Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm’ a ‘Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau’.
Mae’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm wedi dod i ben i’r rhan fwyaf o bobl.
Gelwir Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau bellach yn ‘Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) dull newydd’. Os oeddech yn arfer cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, bydd eich budd-dal yn parhau fel ESA dull newydd.
Os oeddech yn arfer cael yr hen Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, mae dal ambell i beth y gallwch wneud. Mae’r rhain yn cynnwys:
Gwirio a ddylech fod wedi cael Premiwm Anabledd
Herio penderfyniad - er enghraifft, os cafodd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ei atal neu ei leihau
Gwirio pa fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth oeddech yn ei gael
Efallai eich bod wedi cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm os oedd pob un o’r canlynol yn berthnasol:
Nid oedd gennych incwm, neu roedd gennych incwm isel
Roedd gennych lai na £16,000 o gynilion
Roeddech yn byw gyda phartner a oedd yn gweithio llai na 24 awr yr wythnos
Nid oeddech yn ‘ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo’
Efallai i chi gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau os gwnaethoch dalu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Os oeddech yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, efallai eich bod wedi gallu ychwanegu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm ato.
Os ydych yn ansicr beth oeddech yn ei gael, gwiriwch eich hen lythyrau neu holwch yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Gallwch:
Ysgrifennu at y cyfeiriad sydd ar eich llythyrau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Os oeddech yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fod wedi anfon llythyr atoch yn gofyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol. Gelwir hyn yn ‘hysbysiad trosglwyddo’.
Os gwnaethoch gael hysbysiad trosglwyddo a hawlio Credyd Cynhwysol erbyn y dyddiad cau
Dylech fod wedi cael ‘gwarchodaeth drosiannol’. Taliad ychwanegol yw hwn i sicrhau nad ydych yn cael llai o arian drwy Gredyd Cynhwysol nag yr oeddech yn ei gael drwy Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.
Os ydych yn cael llai o Gredyd Cynhwysol nag yr oeddech yn arfer ei gael drwy Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, efallai bod eich elfen drosiannol yn anghywir. Dylech siarad â chynghorydd.
Os na wnaethoch hawlio Credyd Cynhwysol cyn y dyddiad cau
Dylech fod wedi hawlio Credyd Cynhwysol o fewn mis i’r dyddiad ar eich llythyr fan bellaf – gelwir hyn yn ‘ddyddiad cau terfynol’.
Os yw’r dyddiad cau terfynol wedi pasio, gallwch dal hawlio Credyd Cynhwysol ond mae’n debyg na allwch gael gwarchodaeth drosiannol. Dylech hawlio Credyd Cynhwysol cyn gynted â phosibl. Gwiriwch sut i ddechrau hawliad Credyd Cynhwysol.
Efallai fod pethau eraill y gallwch eu gwneud er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr holl Gredyd Cynhwysol yr ydych â’r hawl iddo.
Gall hyn fod yn gymhleth. Dylech siarad â chynghorydd.
Os na chawsoch hysbysiad trosglwyddo
Dylech siarad â chynghorydd.
Os bu newid i’ch amgylchiadau tra oeddech ar Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
Os gwnaethoch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, mae ambell i newid y dylech fod wedi rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau amdano. Gallai unrhyw newidiadau fod wedi effeithio ar faint Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a gawsoch.
Dylech fod wedi rhoi gwybod am newidiadau i’ch:
Sefyllfa byw - er enghraifft, os dechreuoch fyw gyda phartner neu os symudodd rhywun i mewn gyda chi
Perthynas - er enghraifft, os gwnaethoch briodi, ysgaru neu ffurfio partneriaeth sifil
Addysg – er enghraifft, os dechreuoch gwrs neu roi’r gorau i gwrs
Statws mewnfudo – er enghraifft, os newidiodd eich hawl i breswylio
Dylech fod wedi rhoi gwybod am newid os oeddech i fod i wneud hynny, neu os dylech fod wedi gwybod y gallai effeithio ar eich budd-dal.
Os oeddech yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau
Os na chafodd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm ei ychwanegu at eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Cafodd eich hawliad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau ei newid yn awtomatig i’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newydd ar 1 Rhagfyr 2025.
O’r dyddiad hwn nid oedd bellach yn bosibl i ychwanegu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm at hawliad am hen Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau.
Gallwch barhau i ofyn am ychwanegiad ar sail incwm ar gyfer cyfnod yn y gorffennol os oeddech yn gymwys cyn 1 Rhagfyr 2025.
Os ydych yn y sefyllfa hon dylech siarad â chynghorydd.
Gwaith a allwch ei wneud wrth gael hen Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Efallai eich bod wedi gallu gwneud rhai mathau o waith wrth gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu ar gyfraniadau.
Mae’r mathau hyn o waith yn cynnwys:
Gwaith cyflogedig o fewn terfynau enillion penodol, a elwir yn ‘gwaith a ganiateir’
Gwaith domestig yn eich cartref eich hun, er enghraifft coginio neu lanhau
Gwirfoddoli i elusen neu sefydliad gwirfoddol
Gofalu am berthynas neu gael tâl am ofalu am rywun arall a oedd yn byw gyda chi, er enghraifft fel gofalwr maeth
Lleoliad gwaith a gymeradwywyd gan y llywodraeth – profiad gwaith ymarferol di-dâl gyda chyflogwr
Y ‘cynllun masnachu prawf’ a oedd yn gymorth i bobl ddod yn hunangyflogedig
Gweithio fel cynghorydd
Gweithio fel aelod o Dribiwnlys Haen gyntaf ar gyfer Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF- gallai hyn fod am hyd at 1 diwrnod llawn neu 2 hanner diwrnod yr wythnos
Gwaith brys i amddiffyn rhywun neu atal niwed difrifol i eiddo neu dda byw
Nid oedd rhaid i’ch gwaith fod yn ddi-dâl, ond os oeddech ar Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm ac yn ennill arian, gallai fod wedi effeithio ar eich taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Os oeddech yn ennill mwy na’r terfyn uwch ar gyfer gwaith a ganiateir, fel arfer byddai eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth wedi dod i ben.
Gwaith y gallai eich partner ei wneud tra oeddech chi’n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Roedd y gwaith y gallai eich partner ei wneud yn dibynnu ar y math o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth roeddech yn ei gael.
Os oeddech yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau
Ni fyddai gwaith eich partner wedi effeithio ar eich taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Os oeddech yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
Byddai eich taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth wedi dibynnu ar faint o oriau o waith cyflogedig roedd eich partner yn eu gwneud bob wythnos.
Os oedd eich partner yn gwneud llai na 24 awr o waith cyflogedig yr wythnos, byddai eich taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael eu lleihau i gymryd incwm eich partner i ystyriaeth.
Os oedd eich partner yn gwneud 24 awr neu fwy o waith cyflogedig bob wythnos, ni fyddech wedi gallu cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.
Gwiriwch a oeddech yn cael y swm cywir o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
Os oeddech yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm efallai eich bod wedi bod yn gymwys i gael arian ychwanegol ar ben eich taliad safonol. Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, efallai eich bod wedi gallu cael 1 neu’r ddau o’r canlynol:
y Premiwm Anabledd Uwch (EDP)
y Premiwm Anabledd Difrifol (SDP)
Gwiriwch a ddylech fod wedi cael y Premiwm Anabledd Uwch
Dylech fod wedi cael y Premiwm Anabledd Uwch os oeddech chi neu’ch partner yn cael unrhyw un o’r canlynol:
cydran gymorth Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
y gyfradd uwch o elfen bywyd o ddydd i ddydd y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
y gyfradd uchaf o’r elfen ofal y Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
y gyfradd uwch o’r elfen bywyd o ddydd i ddydd y Taliad Anabledd i oedolion
y gyfradd uchaf o elfen gofal Lwfans Byw i Oedolion Anabl yr Alban
Ni fyddech wedi cael y Premiwm Anabledd Uwch pe bai eich partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gwiriwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth eich partner ar GOV.UK.
Byddai swm y Premiwm Anabledd Uwch roeddech yn ei gael wedi cynyddu bob blwyddyn dreth roeddech yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.
Ar gyfer y flwyddyn dreth 2025 i 2026, byddech wedi bod â hawl i:
£21.20 yr wythnos - os nad oeddech yn byw gyda phartner
£30.25 yr wythnos - os oeddech yn byw gyda phartner
Gwiriwch a ddylech fod wedi cael y Premiwm Anabledd Difrifol
Efallai eich bod wedi bod â hawl i’r Premiwm Anabledd Difrifol. Roedd yr hyn y gallech fod wedi’i hawlio yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Os nad oeddech chi’n byw gyda phartner
Gallech fod wedi bod â hawl i’r Premiwm Anabledd Difrifol os oeddech yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau cymhwyso canlynol:
y gyfradd safonol neu uwch o’r elfen bywyd bob dydd y Taliad Annibyniaeth Personol
y gyfradd ganol neu’r uchaf o elfen ofal y Lwfans Byw i’r Anabl
Lwfans Gweini
y gyfradd safonol neu uwch o elfen bywyd bob dydd y Taliad Anabledd i Oedolion
y gyfradd ganol neu uchaf o elfen gofal Lwfans Byw i Oedolion Anabl yr Alban
Taliad Anabledd Oedran Pensiwn
Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
Lwfans Gweini Cyson
Os oedd rhywun yn cael Lwfans Gofalwr, Taliad Cymorth i Ofalwyr neu elfen gofalwr Credyd Cynhwysol am ofalu amdanoch chi, ni fyddech wedi cael y Premiwm Anabledd Difrifol.
Os oeddech yn byw gyda rhywun 18 oed neu hŷn nad oedd yn bartner i chi
Fel arfer, dim ond os oedd un o’r canlynol yn berthnasol iddynt y gallech fod wedi cael y Premiwm Anabledd Difrifol:
yn cael budd-dal cymwys hefyd
wedi cael eu hardystio’n ddall neu â nam difrifol ar eu golwg
Faint o bremiwm anabledd difrifol y gallech fod wedi’i gael
Byddai eich swm Premiwm Anabledd Difrifol wedi cynyddu ar gyfer pob blwyddyn dreth y cawsoch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.
Ar gyfer y flwyddyn dreth 2025 i 2026, byddech wedi bod â hawl i £82.90 yr wythnos.
Os oeddech chi’n byw gyda phartner
Fel arfer, dim ond os oeddech chi a’ch partner ill dau yn cael un o’r budd-daliadau cymwys canlynol y gallech gael y Premiwm Anabledd Difrifol:
y gyfradd safonol neu uwch o’r elfen bywyd bob dydd y Taliad Annibyniaeth Personol
Y gyfradd ganol neu’r uchaf o elfen ofal y Lwfans Byw i’r Anabl
Lwfans Gweini
y gyfradd safonol neu uwch o elfen bywyd bob dydd y Taliad Anabledd i Oedolion
y gyfradd ganol neu uchaf o elfen gofal Lwfans Byw i Oedolion Anabl yr Alban
Taliad Anabledd Oedran Pensiwn
Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
Lwfans Gweini Cyson
Os nad oedd eich partner yn cael budd-dal cymwys, gallech fel arfer dal fod wedi cael y Premiwm Anabledd Difrifol pe baent wedi cael eu hardystio’n ddall neu â nam difrifol ar eu golwg.
Os oedd rhywun yn cael Lwfans Gofalwr, Taliad Cymorth i Ofalwyr neu elfen gofalwr Credyd Cynhwysol am ofalu amdanoch chi a’ch partner, ni fyddech wedi cael y Premiwm Anabledd Difrifol.
Os oeddech chi a’ch partner yn byw gydag unrhyw un arall 18 oed neu hŷn
Fel arfer, dim ond os oedd un o’r canlynol yn berthnasol iddynt y gallech fod wedi cael y Premiwm Anabledd Difrifol:
yn cael budd-dal cymwys hefyd
wedi cael eu hardystio’n ddall neu â nam difrifol ar eu golwg
Faint o bremiwm anabledd difrifol y gallech fod wedi’i gael
Byddai eich swm Premiwm Anabledd Difrifol wedi cynyddu ar gyfer pob blwyddyn dreth y cawsoch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.
Ar gyfer y flwyddyn dreth 2025 i 2026, byddech wedi bod â hawl i:
£82.90 yr wythnos - os oedd rhywun yn cael Lwfans Gofalwr, Taliad Cymorth i Ofalwyr, neu’r elfen ofalwr o’r Credyd Cynhwysol am ofalu am ddim ond un ohonoch.
£165.80 yr wythnos - os nad oedd unrhyw un yn cael Lwfans Gofalwr, Taliad Cymorth i Ofalwyr, neu’r elfen ofalwr o’r Credyd Cynhwysol am ofalu amdanoch chi neu’ch partner
Gofynnwch i’r Adran Gwaith a Phensiynau ychwanegu premiwm at hen hawliad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Os dylech fod wedi bod yn cael premiwm anabledd ond nad oeddech yn ei gael, efallai fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi talu llai o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i chi nag oedd yn ddyledus.
Os ydych yn meddwl y dylech fod wedi cael y Premiwm, gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ei ychwanegu at eich hen hawliad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Gallwch:
ysgrifennu i’r cyfeiriad ar un o’ch hen lythyrau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cytuno y dylech fod wedi cael Premiwm Anabledd
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn talu unrhyw arian sydd yn ddyledus i chi fel cyfandaliad - ni fydd rhaid i chi ofyn amdano.
Gall cael Premiwm Anabledd yr oeddech â hawl iddo hefyd olygu y gallwch gael swm ychwanegol yn eich Credyd Cynhwysol.
Mae hyn yn gymhleth. Dylech siarad â chynghorydd.
Os ydych yn meddwl bod arian yn ddyledus i chi ond nad ydych wedi cael taliad, dylech gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith.
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwrthod ychwanegu Premiwm Anabledd at hen hawliad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailedrych ar eich penderfyniad. Gelwir hyn yn ‘ailystyried gorfodol’.
Gwiriwch sut i herio penderfyniad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Os gwnaethoch gychwyn hawliad am Fudd-daliadau anabledd cyn i’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ddod i ben
Efallai y gallwch gael Premiwm Anabledd Uwch, neu Bremiwm Anabledd Difrifol wedi’i ychwanegu at eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
eich bod chi neu’ch partner yn cael eich dyfarnu gyda budd-dal anabledd ar gyfer y cyfnod pan oeddech yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
bod newid i’r swm o fudd-dal anabledd a gawsoch tra oeddech ar Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.
Mae budd-daliadau anabledd yn cynnwys:
Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
Lwfans Gweini
Lwfans Byw i’r AnablTaliad Anabledd i Oedolion
Taliad Anabledd Oedran Pensiwn
Lwfans Byw i'r Anabl i Oedolion yn yr Alban
Dylech roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl, er mwyn i chi gael yr arian ychwanegol y mae gennych hawl iddo.
Os byddwch yn gwneud hyn, dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau eich talu am y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm na wnaethoch ei gael tra oeddech yn aros am benderfyniad ar eich hawliad budd-dal anabledd fel cyfandaliad i chi. Dylent wneud hyn hyd yn oed os yw eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth bellach wedi dod i ben.
Gallwch roi gwybod am eich hawliadau llwyddiannus drwy ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith.
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Herio penderfyniad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Gallwch barhau i herio neu apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu gyfraniadau - er enghraifft, os:
oedd y swm yn anghywir
daeth eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i ben pan na ddylai
Os gwnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau roi gwybod eich bod wedi cael gordaliad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau atal neu leihau eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth er mwyn adennill gordaliad.
Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau ddim ond fod wedi lleihau eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os:
oeddech wedi rhoi’r wybodaeth anghywir pan wnaethoch gais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu tra oeddech yn ei gael
na wnaethoch roi gwybod am newid i’ch amgylchiadau a fyddai wedi effeithio ar eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Os wnaethoch roi’r wybodaeth gywir a rhoi gwybod am unrhyw newidiadau, efallai na fydd angen i chi ad-dalu’r arian.
Gwiriwch sut i herio penderfyniad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Gwiriwch eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt
Gwiriwch pa fudd-daliadau a pha gymorth ychwanegol y gallech ei gael.