Canslo gwasanaeth rydych chi wedi’i drefnu

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych am ganslo contract

Darllenwch y cyngor ar wahân os ydych am ganslo gwaith adeiladu neu addurno neu i ganslo contract ffôn neu fand eang.

Os ydych chi am ganslo gwasanaeth rydych chi wedi'i drefnu ar-lein, dros y ffôn neu drwy archeb bost, byddwch yn cael cyfnod newid meddwl o 14 diwrnod - er enghraifft, os ydych chi wedi archebu lle parcio mewn maes awyr, wedi cyflogi glanhawr neu arddwr, wedi gofyn i gyfreithiwr werthu eich tŷ neu blymwr i wasanaethu eich boeler. Yn ystod y 14 diwrnod, gallwch ganslo am unrhyw reswm a chael eich arian yn ôl.

Mae’r cyfnod newid meddwl hwn hefyd yn ddilys pe bai’r gwasanaeth wedi’i gynnig gan y busnes mewn lleoliad ar wahân i’w safle busnes, a bod y gwasanaeth yn costio £42 neu fwy.

Mae eich cyfnod newid meddwl yn dechrau'r diwrnod ar ôl i chi ymrwymo i gontract gyda'r busnes - p'un a yw'r contract wedi'i ysgrifennu i lawr neu os yw'n gontract llafar.

Gwnewch yn siŵr bod cyfnod newid meddwl ar gael

Mae’n rhaid i werthwr roi o leiaf 14 diwrnod i chi allu newid eich meddwl. Cofiwch ddarllen y telerau ac amodau rhag ofn eu bod wedi rhoi mwy o amser i chi newid eich meddwl – mae llawer o werthwyr yn dewis gwneud hynny.

Sefyllfaoedd heb gyfle i ganslo o fewn 14 diwrnod

Os aethoch chi i mewn i siop neu safle busnes i drefnu'r gwasanaeth, fyddwch chi ddim yn cael y cyfnod newid meddwl hwn.

Ni fyddwch chi’n cael cyfnod newid meddwl pan fyddwch chi’n prynu’r canlynol ychwaith:

  • llety (e.e. ystafell mewn gwesty neu lety tymor byr)

  • cludo nwyddau (gan gynnwys gwasanaethau cludo)

  • gwasanaethau rhentu cerbydau

  • gwasanaeth arlwyo neu weithgareddau hamdden ar ddyddiadau penodol (e.e. archebu gwestai a bwytai, tocynnau theatr, arlwyo ar gyfer priodas neu barti)

Ar gyfer y gwasanaethau hyn, bydd gennych yr un hawliau canslo â phe baech yn gwneud trefniadau ar eu cyfer o safle busnes y gwerthwr.

Cael eich arian yn ôl

Os ydych chi wedi talu ymlaen llaw neu wedi gwneud blaendal ac wedi canslo yn ystod y cyfnod newid meddwl, bydd gennych hawl i gael yr holl arian yn ôl. Yr unig eithriad yw os ydych chi wedi gofyn i wasanaethau gael eu darparu yn ystod y cyfnod newid meddwl, ac os felly bydd y busnes yn cadw’r hyn sy’n angenrheidiol i dalu am gostau’r gwasanaethau a ddarperir hyd at i chi ganslo.

Os na wnaethoch chi roi unrhyw arian i’r busnes ond ei fod wedi darparu gwasanaethau yn ystod y cyfnod newid meddwl ar eich cais chi, mae’n debyg y bydd disgwyl i chi dalu am y gwasanaethau hynny oni bai fod eich contract gyda nhw yn nodi fel arall.

Os ydych chi’n meddwl eu bod yn cadw gormod o’ch blaendal neu’n codi gormod arnoch, dylech geisio trafod telerau â’r busnes.

Gallwch chi ddefnyddio ein llythyr templed i roi gwybod i’r gwerthwr eich bod chi’n canslo’r archeb. Mae’r llythyr a ddefnyddiwch yn dibynnu ar p’un a brynoch chi’r gwasanaethau.

Cadwch gopi fel bod gennych chi brawf eich bod wedi’i anfon.

Fe allech chi ffonio hefyd – ond cofiwch wneud nodyn o bwy rydych chi’n siarad â nhw a beth y cytunwyd arno. Mae’n syniad da dilyn eich galwad ffôn yn ysgrifenedig – drwy lythyr neu e-bost.

Canslo gwasanaeth a drefnwyd gennych tra oeddech ar safle’r busnes

Os nad ydych chi wedi llunio contract gyda’r busnes ar gyfer y gwasanaethau, ni fydd yn rhaid i chi dalu dim. Os ydych wedi talu ymlaen llaw am y gwasanaeth neu wedi gwneud blaendal, mae gennych hawl i gael y cyfan yn ôl.

Os oes gennych gontract llafar 

Efallai fod gennych gontract hyd yn oed os nad oes dim ar bapur. Er enghraifft, os ydych wedi derbyn dyfynbris, wedi talu'r ffi neu flaendal neu wedi dweud wrthynt ar lafar am fwrw ymlaen â'r gwasanaeth.

Os ydych chi wedi llunio contract gyda’r busnes a’ch bod yn canslo, mae’n annhebygol y byddwch chi’n cael eich holl arian yn ôl oni bai fod cymal canslo hael wedi’i ysgrifennu yn eich contract.

Gallai’r busnes wneud un o’r canlynol:

  • codi ffi canslo

  • cadw rhywfaint neu'r cyfan o'ch blaendal i wneud iawn am eu colled ariannol (e.e. pan fyddant yn neilltuo amser i ddarparu'r gwasanaeth ac yn methu â threfnu gwaith arall ar gyfer yr un cyfnod)

  • mynnu mwy o arian os nad yw eich blaendal yn ddigon i wneud iawn am unrhyw golled oherwydd eich bod wedi canslo 

Edrychwch ar eich contract i weld y telerau ac amodau ar ganslo.

Dylech geisio trafod telerau gyda’r busnes os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • mae tâl canslo yn ymddangos yn annheg

  • mae’r busnes yn cadw neu’n mynnu mwy o arian nag sydd ei angen i dalu am ei golled ariannol

  • gwnaethoch chi dalu popeth ymlaen llaw (annoeth bob amser) ac maen nhw’n cadw mwy nag sydd ei angen i dalu am eu colled

Trafod telerau gyda’r busnes

Dylech bob amser geisio trafod telerau gyda’r busnes os ydych chi’n teimlo eich bod yn talu’n ormodol am ganslo neu os yw’r busnes yn cadw gormod o’ch blaendal.

Gofynnwch a yw’r busnes yn aelod o gymdeithas fasnach, oherwydd efallai y gall y gymdeithas eich helpu yn eich trafodaethau.

Os na fydd eich trafodaethau’n llwyddiannus, gallech roi cynnig ar gynllun dull amgen o ddatrys anghydfod (ADR) – ffordd o ddatrys anghytundeb heb fynd i’r llys. Gofynnwch i’r busnes a yw’n aelod o gynllun o’r fath.

Os nad ydynt yn ymateb, nid ydynt yn aelod o gynllun ADR neu ni wnawn nhw ddefnyddio ADR. Cadwch gofnod o'r ffaith eich bod wedi gofyn iddynt (a'r dyddiad). Bydd arnoch angen hwn os byddwch yn mynd i’r llys.

Ewch ati eich hun i ddewis gynllun ADR sydd wedi’i gymeradwyo gan Safonau Masnach i geisio datrys y broblem yn fwy anffurfiol. Bydd yn eich helpu nes ymlaen os byddwch yn mynd i’r llys.

Rhagor o gymorth

Cysylltwch â llinell gymorth i ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi – gall cynghorwr hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn. Gallwch chi hefyd ddefnyddio ffurflen ar-lein.

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Consumerline.

Bydd cynghorwr yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol hefyd yn gallu eich helpu chi i ddadlau eich achos, neu ddadlau ar eich rhan.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.