Delio ag ôl-ddyledion y Dreth Gyngor
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych wedi methu taliad treth gyngor, bydd gennych 'ôl-ddyledion' - mae hyn yn golygu bod arnoch chi arian i'ch cyngor.
Dylech gysylltu â'ch cyngor ar unwaith. Peidiwch ag aros iddyn nhw gysylltu â chi.
Gofynnwch am gael siarad â rhywun yn swyddfa'r Dreth Gyngor ac egluro eich sefyllfa. Dylent allu dweud wrthych sut i gael help - er enghraifft, efallai y byddant yn eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd dyled am ddim. Gallwch wirio sut mae cysylltu â’ch cyngor ar GOV.UK.
Efallai y gallwch dalu llai o dreth gyngor neu beidio â'i thalu o gwbl - mae'n dibynnu ar eich sefyllfa - gwiriwch a allwch chi dalu llai o dreth gyngor.
Mae ôl-ddyledion y Dreth Gyngor yn 'ddyled â blaenoriaeth'. Mae hyn yn golygu bod angen i chi eu talu cyn dyledion fel cardiau credyd.
Os oes gennych fwy nag un ddyled, dylech ddarllen ein cyngor ar gael help gyda dyled. Neu gallwch siarad â chynghorydd.
Os nad ydych chi’n gallu talu eich treth gyngor
Cysylltwch â'ch cyngor ac esbonio eich sefyllfa. Peidiwch â rhoi’r gorau i dalu.
Gofynnwch iddyn nhw a fyddan nhw'n gadael i chi dalu eich treth gyngor mewn symiau llai.
Mae’n debyg y gofynnir i chi ymrwymo i dalu swm rheolaidd bob mis. Os nad ydych chi’n siŵr faint allwch chi ei fforddio, gallwch ddefnyddio adnodd cyllidebu neu siarad ag ymgynghorydd arbenigol yn Cyngor ar Bopeth.
Os yw'r taliadau hyn yn golygu na fyddwch yn gallu fforddio costau hanfodol megis eich rhent neu'ch morgais, dywedwch wrth y cyngor.
Os ydych chi ar incwm isel, efallai y bydd modd i chi gael gostyngiad ar fil y dreth gyngor. Gallwch ddarllen mwy am gael help i dalu bil y Dreth Gyngor.
Os ydych yn methu taliad treth gyngor
Byddwch yn cael nodyn atgoffa gan y cyngor tua phythefnos ar ôl i chi fethu taliad.
Os byddwch yn talu o fewn 7 diwrnod, does dim angen i chi wneud dim byd arall. Bydd y ddyled yn cael ei chlirio a byddwch yn gallu parhau i dalu eich treth gyngor mewn rhandaliadau.
Edrychwch ar y llythyr a gewch gan y cyngor i wneud yn siŵr eich bod yn talu eich ôl-ddyledion Treth Gyngor i'r cyfrif banc cywir. Efallai y bydd yn wahanol i'r un yr ydych fel arfer yn talu eich rhandaliadau Treth Gyngor iddo.
Os na fyddwch yn talu o fewn 7 diwrnod i’r llythyr atgoffa
Os na fyddwch yn talu o fewn 7 diwrnod i'r llythyr atgoffa (neu os mai dyma'r trydydd tro i chi fod yn hwyr gyda thaliadau'r dreth gyngor eleni), bydd y cyngor yn anfon 'hysbysiad terfynol' atoch.
Bydd yr hysbysiad terfynol yn dweud wrthych am dalu eich treth gyngor i gyd am weddill y flwyddyn o fewn 7 diwrnod.
Os na fyddwch yn talu o fewn 7 diwrnod i’r hysbysiad terfynol
Fel arfer bydd eich cyngor yn gwneud cais i'r llysoedd am ganiatâd i gasglu'r ddyled gennych - gelwir hyn yn 'orchymyn dyled'.
Dylai eich cyngor edrych ar bob opsiwn arall cyn gwneud cais am orchymyn dyled. Er enghraifft, dylent siarad â chi am gynllun ad-dalu fforddiadwy neu roi amser i chi wneud cais am Gostyngiad yn y Dreth Gyngor os ydych chi'n gymwys.
Peidiwch ag anwybyddu’r hysbysiadau hyn. Efallai y byddwch yn gallu cael amser ychwanegol drwy wneud cais am y cynllun Lle i Anadlu.
Os ydych chi’n gymwys, gallech gael 60 diwrnod o le i anadlu lle na all eich credydwr:
cysylltu â chi
cymryd camau i’ch gorfodi i dalu
ychwanegu llog a ffioedd at eich dyled
Os yw eich cyngor eisoes yn tynnu arian o Gredyd Cynhwysol, bydd y rhain yn parhau hyd yn oed os oes gennych le i anadlu. I weld a yw lle i anadlu yn addas i chi, siaradwch â chynghorydd.
Os nad ydych chi'n siŵr a oes rhaid i chi dalu'r ddyled treth gyngor, gwiriwch a oes rhaid i chi dalu'r ddyled.
Os na fyddwch yn talu eich dyled treth gyngor
Bydd y cyngor yn gwneud cais am orchymyn dyled i adennill y ddyled. Mae hyn yn golygu y gallent gymryd camau i gael yr arian sy’n ddyledus gennych. Gelwir hyn yn ‘gam gorfodi’.
Fel arfer bydd y cyngor am i chi dalu'r ddyled o fewn y flwyddyn dreth gyfredol.
Gallai’r cyngor:
anfon beili i fynd ag eitemau o'ch cartref - gwiriwch beth i'w wneud os bydd beilïod yn ymweld â'ch cartref
cymryd canran benodol o'ch cyflog - gelwir hyn yn 'atafaelu enillion'
cymryd arian o'ch taliadau budd-dal, megis Credyd Cynhwysol - gwiriwch beth i'w wneud os yw eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau i dalu eich dyled
sicrhau'r ddyled yn erbyn eich cartref os ydych yn berchen arno, a elwir yn Orchymyn Arwystlo - gwiriwch beth i'w wneud os bydd credydwr yn gwneud cais am Orchymyn Arwystlo yn erbyn eich cartref
gwneud cais i gael eich datgan yn fethdalwr os oes arnoch chi fwy na £5,000 - gwiriwch sut y gallai methdaliad effeithio arnoch chi
Os ydych chi'n agored i niwed, siaradwch â'ch cyngor i weld pa opsiynau eraill sydd ar gael. Gallwch fod yn agored i niwed mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd, er enghraifft os ydych yn anabl, yn ddifrifol wael, os oes gennych broblemau iechyd meddwl neu os ydych yn rhiant sengl.
Os bydd y cyngor yn cymryd arian o’ch cyflog
Ar ôl i'r cyngor gael gorchymyn dyled gan y llys, gallant gymryd arian yn syth o'ch cyflog bob tro y cewch eich talu. Gelwir hyn yn ‘orchymyn atafaelu enillion’. Byddant yn anfon hysbysiad atoch drwy'r post - bydd yn dweud wrthych faint y byddant yn ei gymryd.
Os oes gennych orchymyn atafaelu enillion ar gyfer dyledion eraill
Mae gorchmynion atafaelu enillion yn gweithio’n wahanol ar gyfer mathau eraill o ddyled. Gwiriwch beth i’w wneud os oes gennych orchymyn atafaelu enillion ar gyfer dyledion eraill.
Cyn i'r cyngor anfon gorchymyn atafaelu enillion atoch, dylent geisio trefnu 'cynllun talu' gyda chi. Dyma ffordd i chi dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych - er enghraifft, swm penodol bob mis. Gallwch gwyno os bydd eich cyngor yn anfon gorchymyn atafaelu enillion atoch pan naill ai:
dydyn nhw ddim wedi rhoi cyfle i chi wneud cynllun talu
os oes gennych gynllun talu a'ch bod yn ei ddilyn
Gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol ar eu gwefan. Mae’r ombwdsmon yn annibynnol a bydd yn archwilio’r achos o’r ddwy ochr i ddod i benderfyniad sy’n deg yn eu barn nhw.
Bydd eich cyflogwr yn gwybod am eich gorchymyn atafaelu enillion. Os gallai’r gorchymyn effeithio ar eich swydd, siaradwch â chynghorydd.
Newid y swm rydych chi’n ei dalu’n ôl
Os nad oes gennych ddigon o arian i fyw arno oherwydd bod yr arian yn cael ei dynnu o'ch cyflog, dylech gysylltu â'ch cyngor. Dywedwch wrthynt beth y gallwch ei fforddio a gofynnwch a allwch gytuno ar gynllun talu. Efallai y byddant yn lleihau'r swm yr ydych yn ei dalu neu'n canslo'r gorchymyn.
Siaradwch â chynghorydd cyn gynted â phosib os oes gennych chi ddyledion eraill neu os na allwch chi gytuno ar swm y gallwch ei fforddio.
Os byddwch yn newid neu’n gadael eich swydd
Os byddwch yn gadael eich swydd, ni fydd y cyngor yn cael unrhyw arian o'r gorchymyn atafaelu enillion ond ni chaiff ei ganslo. Byddwch yn dechrau gwneud taliadau eto pan fyddwch yn cael swydd newydd.
Rhaid i chi roi gwybod i'r cyngor yn ysgrifenedig cyn pen 14 diwrnod pan fyddwch yn gadael neu'n newid eich swydd. Os byddwch yn cael swydd newydd, rhaid i chi hefyd ddweud wrthynt:
manylion eich cyflogwr newydd
faint y byddwch yn ei ennill yn eich swydd newydd
Os na fyddwch yn dweud wrth y cyngor mewn pryd, mae'n drosedd - efallai y cewch ddirwy.
Os ydych chi'n ddi-waith am amser hir, gallech ofyn i'r cyngor ganslo'r gorchymyn.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.