Gwneud cynllun i dalu eich dyledion

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pwysig

Dylech ddelio â'r dyledion pwysicaf yn gyntaf - 'dyledion â blaenoriaeth' yw'r enw ar y rhain.

Mae dyledion â blaenoriaeth yn golygu y gallech chi golli eich cartref, diffodd eich cyflenwad ynni, colli nwyddau hanfodol neu fynd i’r carchar os nad ydych chi’n talu. Maen nhw yn cynnwys pethau fel y canlynol:

  • rhent a morgais

  • nwy a thrydan

  • y dreth gyngor

  • dirwyon llys

Ewch i weld os oes gennych chi unrhyw ddyledion â blaenoriaeth cyn delio â’ch dyledion credyd.

Os ydych chi'n cael trafferth talu dyledion fel cardiau credyd, cardiau siopau neu fenthyciadau diwrnod cyflog, gallwch ofyn am gael gwneud ad-daliadau misol is. Gallai talu llai na’r hyn y mae’n ei ddweud y mae’n rhaid i chi ei dalu yn eich contract ei gwneud yn anoddach i chi gael credyd yn y dyfodol.

Fel arfer, dim ond ar gyfer dyledion nad ydyn nhw yn flaenoriaeth y dylech ofyn am gael gwneud taliadau is. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • dyledion cardiau credyd neu gardiau siopau

  • benthyciadau diwrnod cyflog a benthyciadau personol eraill heb eu gwarantu

  • dyledion catalog

  • gorddrafftiau

Bydd angen i chi gysylltu â'r bobl neu'r sefydliadau y mae arnoch chi arian iddyn nhw - eich 'credydwyr' yw'r rhain. Ysgrifennwch at eich credydwyr i ddweud wrthyn nhw eich bod yn ceisio cael trefn ar eich dyledion. Gofynnwch iddyn nhw:

  • rhoi'r gorau i ofyn i chi am daliadau tra eich bod yn gweithio allan beth i'w wneud

  • rhoi'r gorau i ychwanegu llog a ffioedd fel nad yw'r ddyled yn mynd yn fwy

Gallwch ddefnyddio ein llythyr enghreifftiol i ysgrifennu atyn nhw.

Cyfrifo beth allwch chi ei fforddio i’w dalu

Lluniwch gyllideb fel eich bod yn gwybod faint sydd gennych ar ôl bob mis ar ôl talu eich biliau hanfodol a’ch dyledion â blaenoriaeth. Gelwir hyn yn ‘incwm sydd ar gael’.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw copi o'ch cyllideb - bydd angen i chi gyfeirio at hyn yn nes ymlaen. Bydd angen i chi hefyd anfon copi at eich credydwyr pan fyddwch yn gofyn am gael gwneud taliadau is. Bydd yn dangos iddyn nhw fod yr hyn rydych chi’n cynnig ei dalu yn deg.

Ceisiwch fod mor gywir ag y gallwch. Cyn i chi ddechrau, dewch o hyd i fersiynau diweddaraf o'r canlynol:

  • cyfriflenni banc

  • slipiau cyflog

  • cyfriflenni a biliau cardiau debyd a chredyd

  • derbynebau ar gyfer pethau yr ydych yn talu amdanynt nhw mewn arian parod

Defnyddiwch adnodd cyllidebu i gyfrifo eich cyllideb. Byddwch yn creu 'datganiad ariannol' - bydd eich credydwr yn gwybod beth yw hwn.

Os oes arnoch angen help i gyfrifo cyllideb, siaradwch â chynghorwr.

Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, edrychwch a allwch gynyddu eich incwm.

Os na allwch chi dalu dyledion nad ydyn nhw’n flaenoriaeth 

Ysgrifennwch at eich credydwyr os nad oes gennych chi arian ar ôl bob mis ar ôl talu eich biliau hanfodol a’ch dyledion â blaenoriaeth. Eglurwch eich bod yn delio â'ch dyledion a gofynnwch iddyn nhw rewi llog a ffioedd tra byddwch chi’n gwneud hyn. Mae hyn yn golygu na fydd eich dyledion yn cynyddu.

Gallwch ddefnyddio ein llythyr enghreifftiol. Dylech hefyd anfon copi o’ch datganiad ariannol.

Siaradwch â chynghorwr - gall cynghorwr eich helpu i edrych ar ffyrdd eraill o dalu eich dyledion.

Cyfrifo faint i’w dalu i bob credydwr

Edrychwch ar yr adran ‘dyled nad yw’n flaenoriaeth’ yn eich datganiad ariannol. Bydd yn dweud wrthych faint i’w gynnig i bob credydwr.

Mae'r swm y mae pob credydwr yn ei gael yn dibynnu ar faint sy'n ddyledus gennych - gelwir hyn yn gynnig 'pro rata'. Mae'n ffordd o drin eich credydwyr i gyd yn gyfartal. Rhaid i chi wneud hyn neu efallai y byddant yn gwrthod eich cynigion.

Enghraifft

Mae gennych 2 ddyled - cerdyn credyd a cherdyn siop.

Mae arnoch chi ddwywaith gymaint ar y cerdyn credyd ag sydd arnoch chi ar y cerdyn siop, felly dylai eich cynnig i’r cwmni cerdyn credyd fod ddwywaith yn fwy.

Mae gennych £90 ar ôl bob mis i dalu eich dyledion.

Creditor Total debt Your offer
Creditor

Credit card

Total debt

£2,000

Your offer

£60 y mis

Creditor

Store card

Total debt

£1,000

Your offer

£30 y mis

Ysgrifennwch at eich credydwyr

Ysgrifennwch at bob credydwr gyda’ch cynnig ar gyfer ad-dalu a chynnwys copi o’ch cyllideb. Bydd hwn yn dangos i gredydwyr mai dim ond arian ar gostau byw hanfodol rydych chi'n ei wario a bod y cynnig rydych chi'n ei gynnig yn deg.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn:

  • esbonio pam eich bod mewn dyled - er enghraifft, oherwydd eich bod wedi colli'ch swydd

  • dweud eich bod yn datrys y sefyllfa

  • esbonio faint y gallwch fforddio ei dalu bob wythnos neu bob mis

  • gofyn iddyn nhw rewi unrhyw log a ffioedd cyn belled â'ch bod yn parhau i dalu'r symiau yr ydych yn eu hawgrymu

Defnyddiwch ein llythyr enghreifftiol i ysgrifennu at eich credydwyr gyda’ch cynigion. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw copi o bopeth rydych chi’n ei anfon.

Os bydd credydwr yn gofyn i chi dalu mwy na'ch cynnig

Efallai y bydd rhai credydwyr yn gofyn i chi dalu mwy na'r hyn rydych chi'n ei gynnig. Peidiwch â chytuno i dalu mwy nag y gallwch ei fforddio - gallech gael mwy o ddyled yn y pen draw.

Ysgrifennwch at y credydwr eto a gofyn iddo ailystyried. Cofiwch gynnwys copi o’ch datganiad ariannol.

Os bydd credydwr yn gwrthod eich cynnig, dechreuwch wneud taliadau beth bynnag a rhowch wybod i'ch credydwr eich bod yn gwneud hyn.

Os yw credydwyr eraill wedi cytuno â'ch cynigion, dywedwch hyn wrth y credydwr a nodwch eich bod yn trin eich credydwyr i gyd yn gyfartal.

Os bydd credydwr yn dal i wrthod eich cynnig, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol i gael rhagor o help. Gall cynghorwr drafod telerau gyda'ch credydwyr neu edrych ar ffyrdd eraill o dalu'ch dyledion.

Os na fydd credydwr yn rhewi llog ar eich dyled

Does dim rhaid i'ch credydwyr rewi'r llog ar eich dyledion. Gallan nhw wrthod gwneud hynny, neu ostwng swm y llog yn hytrach na’i atal yn llwyr.

Os bydd hyn yn digwydd, defnyddiwch y llythyr enghreifftiol ‘rhewi llog’ ar wefan y Llinell Ddyled Genedlaethol i ysgrifennu atynt eto.

Po fwyaf o log y byddwch yn ei dalu, yr hiraf y bydd yn ei gymryd i dalu eich dyledion. Os na fydd eich credydwr yn rhewi llog ar eich dyledion, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Gall cynghorwr drafod telerau gyda'ch credydwyr neu edrych ar ffyrdd eraill o dalu'ch dyledion.

Cadw mewn cysylltiad â’ch credydwyr

Chi sy'n gyfrifol am wneud yr ad-daliadau y cytunwyd arnyn nhw ac am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch credydwyr am eich amgylchiadau.

Dylech gysylltu â'ch credydwyr bob ychydig fisoedd i roi gwybod iddyn nhw nad yw eich amgylchiadau wedi newid. Mae hyn yn dangos iddyn nhw eich bod o ddifrif am ddelio â'r ddyled.

Your creditors can still take court action against you after you've agreed a repayment plan. Find out what to do if a creditor takes you to court for debt.

Hyd yn oed os ydych wedi cytuno ar ad-daliadau gyda'ch credydwyr, efallai y gallech ddelio â'ch dyledion mewn ffyrdd eraill. Edrych ar eich opsiynau ar gyfer dod allan o ddyled.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 22 Chwefror 2019