Penderfynu a ddylid gwneud hawliad bach
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae hawliadau bach ar gyfer achosion syml nad ydynt yn cynnwys symiau mawr o arian neu faterion cymhleth. Maen nhw’n aml yn cael eu defnyddio i gael iawndal neu eich arian yn ôl os yw rhywbeth wedi mynd o'i le. Dydi hawliadau bach byth fel arfer am fwy na £10,000.
Gallwch ddefnyddio hawliadau bach ar gyfer pethau fel:
cynnyrch diffygiol
gwasanaeth gwael
bod ad-daliad yn ddyledus i chi
anghydfodau gyda'ch landlord - er enghraifft, os nad ydyn nhw wedi gwneud mân atgyweiriadau
bod arian yn ddyledus i chi am waith yr ydych wedi’i wneud
damweiniau pan fyddwch wedi cael eich anafu - er enghraifft, damwain car
Gelwir hawliadau bach weithiau'n 'hawliadau ariannol'. Maen nhw i fod yn syml, felly mae'n debyg na fydd angen cyfreithiwr arnoch chi. Os ydych chi'n penderfynu eich bod chi eisiau help gyda'ch hawliad, gallwch chi:
gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth lleol - gallan nhw eich cynghori am eich achos a faint y gallech ei hawlio
gwirio os gallwch chi gael cymorth cyfreithiol am gost isel - ond byddwch yn ymwybodol y gallai cost cyfreithiwr fod yn fwy nag unrhyw iawndal a gewch chi
Cyn i chi ddechrau hawliad bach, ceisiwch ddatrys y broblem mewn ffordd arall os gallwch - er enghraifft, trwy wneud cwyn neu ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu ffurfiol.
Gallwch edrych ar ein cyngor ar ddatrys problemau defnyddwyr, gan gynnwys sut i ddefnyddio ‘dull amgen o ddatrys anghydfod’. Gall hyn gynnwys gwasanaeth cyfryngu ac mae'n ffordd o geisio datrys problemau heb fynd i'r llys.
Os oes gennych chi fath gwahanol o broblem, gallwch gael cyngor ynghylch cyfryngu gan y Cyngor Cyfryngu Sifil.
Weithiau, mae dim ond dechrau hawliad bach yn ddigon i wneud i’r person neu'r busnes rydych chi'n gwneud hawliad yn ei erbyn dalu, felly efallai na fydd yn rhaid i chi fynd i'r llys o gwbl.
Gwiriwch os gallwch chi wneud hawliad bach
Mae'r rheolau ynglŷn â gwneud hawliad bach yn dibynnu ar beth yw'r hawliad.
Os ydych chi wedi cael problem gyda gwasanaeth neu gynnyrch
Gallwch wneud hawliad bach am hyd at £10,000 os oes gennych broblem gyda rhywbeth rydych chi wedi talu amdano - fel gwasanaeth gwael neu gynnyrch diffygiol. Gallwch hefyd wneud hawliad bach os ydych chi wedi talu am wasanaeth neu gynnyrch nad ydych wedi'i dderbyn. Mae gennych yr hawl i wneud hawliad hyd at 6 blynedd ar ôl i chi dalu am y gwasanaeth neu'r cynnyrch. Weithiau mae’r hawl yn ymestyn am fwy na 6 blynedd – cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych chi'n rhentu ac yn cael problem gydag atgyweiriadau
Gallwch wneud hawliad bach os yw'ch landlord yn gyfrifol am atgyweirio rhywbeth a naill ai:
heb ei atgyweirio ac amcangyfrifir bod cost yr atgyweiriadau hyd at £1,000
eu bod wedi ei atgyweirio ond eich bod yn hawlio iawndal o hyd at £10,000
Gwiriwch pa atgyweiriadau mae eich landlord yn gyfrifol amdanynt os nad ydych chi’n siŵr.
Gallai iawndal fod am bethau fel anghyfleustra, straen, glanhau neu gostau gwresogi ychwanegol. Gall fod yn anodd penderfynu faint o iawndal i'w hawlio. Efallai y bydd angen i chi gael cymorth cyfreithiol gan gynghorydd neu gyfreithiwr.
Mae terfyn amser ar gyfer hawlio am atgyweiriadau y gwyddai eich landlord bod angen eu gwneud ond na chawsant eu trwsio mewn amser rhesymol. Rhaid i chi hawlio o fewn 6 blynedd i’r langlord wybod bod angen gwneud yr atgyweiriadau.
Os oes arian yn ddyledus i chi am waith yr ydych chi wedi’i wneud
Gallwch hawlio hyd at £10,000 os oes arian yn ddyledus i chi am waith rydych chi wedi'i wneud, er enghraifft os ydych chi'n hunangyflogedig.
Os oes gennych fath arall o hawliad bach
Gall cynghorydd yn eich Cyngor ar Bopeth lleol eich helpu chi i wirio os gallwch chi wneud hawliad.
Gwiriwch pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch
Os nad oes gennych dystiolaeth dda, ni fydd gennych hawliad cadarn ac efallai na fydd yn syniad da dechrau un. Casglwch unrhyw ddogfennau neu ffotograffau sydd gennych i gefnogi eich hawliad. Efallai y bydd yn eich helpu i restru beth ddigwyddodd yn nhrefn dyddiadau ac yna dewch o hyd i dystiolaeth i'w gefnogi.
Bydd yr hyn sy'n gwneud tystiolaeth dda yn dibynnu ar y broblem. Gallai gynnwys pethau fel:
llythyr neu dderbynneb
ffotograffau o’r difrod a achoswyd
amcangyfrifon neu anfonebau - er enghraifft, ar gyfer atgyweiriadau
datganiad gan rywun a welodd beth ddigwyddodd
Gwiriwch y gost o wneud hawliad
Efallai na fydd yn werth gwneud hawliad os yw'n mynd i gostio bron cymaint ag yr ydych chi'n ei hawlio.
Bydd yn rhaid i chi dalu ffi i wneud hawliad. Mae faint sy'n rhaid i chi ei dalu yn dibynnu ar yr hyn rydych chi'n ei hawlio. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu ffioedd eraill wrth i'ch achos fynd rhagddo. Gwiriwch ffioedd y llys ar GOV.UK. Os ydych chi'n ennill eich achos, efallai y byddwch chi'n cael y rhain yn ôl gan y parti arall. Os ydych chi'n colli, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu eu ffioedd.
Os ydych chi'n cael budd-daliadau neu os oes gennych incwm isel, efallai y bydd modd i’r ffioedd gael eu gostwng neu efallai na fyddwch yn gorfod talu unrhyw un. Gwiriwch os gallwch chi gael cymorth gyda ffioedd y llys ar GOV.UK.
Gallwch wneud hawliad bach eich hun ond os ydych chi am ddefnyddio cyfreithiwr, bydd yn rhaid i chi dalu am hynny. Gwiriwch gyda nhw i weld a allwch chi gael rhan o'u costau yn ôl os ydych chi'n ennill.
Gwiriwch a allwch chi gael cymorth gyda chostau cyfreithiol. Os na allwch, gwiriwch a yw eich yswiriant cartref yn eich yswirio yn erbyn costau cyfreithiol.
Gwiriwch pa mor debygol ydych chi o gael eich talu os ydych chi'n ennill
Os na all y person neu'r cwmni rydych chi'n hawlio yn ei erbyn dalu, rydych chi'n annhebygol o gael eich arian yn ôl. Mewn rhai achosion efallai y byddwch chi'n dal i allu hawlio arian hyd yn oed os na allan nhw dalu - er enghraifft, os oes ganddynt asedau fel busnes neu eiddo.
Mae yna ffyrdd o wirio os oes ganddyn nhw broblemau ariannol - os felly, efallai na fyddai'n werth hawlio. Gwiriwch os yw person neu fusnes wedi eu dwyn o flaen y llys neu wrthod talu.
Os ydych chi’n delio â busnes, gwiriwch eu bod yn dal i fasnachu. Fyddwch chi ddim yn gallu mynd â nhw i'r llys os nad ydyn nhw.
Os ydych chi'n delio ag unig fasnachwr neu bartneriaeth, gallwch chi wirio os ydyn nhw’n fethdalwyr ar GOV.UK.
Gwneud hawliad
Os ydych chi am fwrw ymlaen i wneud hawliad, dyma sut i ddechrau gwneud eich hawliad.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 11 Chwefror 2020