Survey

Please fill in our survey to give your feedback on our policy pages. Your responses will help us continue to improve how we present policy research and data on our website.

Help when I need it / Cymorth Hawdd Ei Gael

In Wales, during 2017/18 we helped 101,911 people with 405,304 problems. Nearly half of all clients we’ve helped had a long term health condition or disability, the most common of these is mental health with 24% voluntarily declaring a mental health problem.

At Citizens Advice Cymru we see a growing number of clients who have mental health problems. Over the past year there has been a 12% increase in clients who self-declare a mental health issue. We wanted to identify ways in which more effective support can be provided to those clients and talk to the service providers they interact with, including their local authorities.

Our research identified problems or barriers faced by people experiencing mental health problems when attempting to engage with local authority services (including where people find it impossible to engage at any level). We explored positive experiences of engagement and what made these good. We have also highlighted the impact engagement with local authority services has on people’s day-to-day lives and wellbeing.

Living with a mental health condition can impact on people in various ways, part of our research looked at living with a mental health condition.

Help when I need it 807 KB

Yng Nghymru, yn ystod 2017/18 fe wnaethom ni helpu 101,911 o bobl gyda 405,304 o broblemau. Roedd gan bron i hanner yr holl gleientiaid yr ydym wedi eu helpu gyflwr iechyd tymor hir neu anabledd, a’r un mwyaf cyffredin o’r rhain yw iechyd meddwl gyda 24% yn datgan yn wirfoddol bod ganddynt broblem iechyd meddwl.

Yn Cyngor ar Bopeth Cymru, rydym yn gweld nifer cynyddol o gleientiaid sydd â phroblemau iechyd meddwl. Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu cynnydd o 12% mewn cleientiaid sy’n datgan eu hunain bod ganddynt broblem iechyd meddwl. Roeddem am nodi ffyrdd y gellir darparu cymorth mwy effeithiol i’r cleientiaid hynny ac am siarad â’r darparwyr gwasanaethau y maen nhw’n ymwneud â nhw, gan gynnwys eu hawdurdodau lleol.

Fe wnaeth ein gwaith ymchwil nodi problemau neu rwystrau y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu wrth geisio ymwneud â gwasanaethau awdurdod lleol (gan gynnwys pan fo pobl yn ei gweld hi’n amhosib ymgysylltu ar unrhyw lefel). Fe wnaethom ni ymchwilio i brofiadau ymgysylltu cadarnhaol a’r hyn a’u gwnaeth yn brofiadau da. Rydym wedi tynnu sylw hefyd at yr effaith y mae ymgysylltu ag awdurdodau lleol yn ei chael ar fywydau a lles pobl o ddydd i ddydd.

Gall byw gyda chyflwr iechyd meddwl effeithio ar bobl mewn ffyrdd amrywiol, roedd rhan o’n hymchwil yn ystyried y profiad o fyw gyda chyflwr iechyd meddwl.

Cymorth Hawdd Ei Gael 831 KB