Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gwiriwch os gallwch chi gael cymorth digartrefedd oddi wrth y cyngor

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os oes angen i chi adael cartref oherwydd trais, bygythiadau neu gamdriniaeth

Gallwch wneud cais am gymorth digartrefedd.  Gallwch hefyd gael cymorth oddi wrth:

  • Refuge neu Gymorth i Fenywod ar 0808 2000 247 unrhyw bryd

  • Llinell Gymorth i Ddynion ar 0808 801 0327 Llun - Gwener o 10am i 5pm

Mae’r galwadau i’r rhifau hyn am ddim.

Fel arfer mae’n werth gwneud cais i’ch cyngor lleol am gymorth os ydych chi’n ddigartref – neu os byddwch chi’n ddigartref cyn bo hir.

Yn dibynnu ar eich sefyllfa, gallai’r cyngor wneud y canlynol:

  • dod o hyd i rywle i chi aros yn y byr dymor 

  • eich helpu i aros lle rydych chi’n byw ar hyn o bryd – er enghraifft drwy siarad â’ch landlord

  • dod o hyd i rywle i chi fyw yn yr hirdymor - er enghraifft gallai hyn fod yn dŷ cyngor neu’n rhentu wrth landlord preifat

Os ydych yn 16 neu’n 17 oed

Fel arfer mae'n werth gwneud cais i’r gwasanaethau cymdeithasol yn lle hynny. Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn fwy tebygol o’ch helpu chi, a byddan nhw fel arfer yn rhoi mwy o help i chi. Os ydych chi wedi bod yn byw mewn gofal yn ddiweddar, fel arfer mae’n rhaid i chi wneud cais i’r gwasanaethau cymdeithasol.

Gwiriwch sut i gael cymorth digartrefedd oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol.

Os oes angen cymorth digartrefedd ar aelodau eraill o'ch cartref hefyd

Os bydd y cyngor yn dod o hyd i rywle i chi fyw, byddan nhw’n gwneud yn siŵr y gall fod yn gartref i aelodau eraill eich aelwyd hefyd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw aelodau o'r teulu sy’n byw gyda chi fel arfer.

Mae hefyd yn cynnwys pobl nad ydyn nhw’n byw gyda chi nawr, ond y gellid disgwyl iddyn nhw fyw gyda chi yn y dyfodol. Er enghraifft, gallai gynnwys eich plentyn sydd ddim yn byw gyda chi oherwydd nad yw’r lle rydych chi’n byw ynddo yn addas ar gyfer plentyn.

Os nad ydych chi’n ddinesydd Prydeinig

Cyn i chi gysylltu â’ch cyngor lleol, mae’n bwysig gwirio os yw eich statws mewnfudo yn gadael i chi wneud cais am gymorth digartrefedd.

Gallwch wirio nes ymlaen ar y dudalen hon os yw eich statws mewnfudo yn gadael i chi wneud cais.

Os ydych chi’n gwneud cais pan na chaniateir i chi wneud hynny, gall y Swyddfa Gartref wrthod unrhyw geisiadau mewnfudo a wnewch yn y dyfodol. Mewn achosion prin, efallai y byddan nhw’n mynd â chi i'r llys neu'n dod â'ch fisa i ben yn gynnar.

Gwiriwch pa wybodaeth y bydd y cyngor yn gofyn amdani

Pan fyddwch chi’n gwneud cais am gymorth digartrefedd am y tro cyntaf , bydd y cyngor yn gofyn cwestiynau i chi er mwyn gwirio os dylen nhw roi cymorth byr dymor i chi.

Bydd y cyngor yn gwirio os yw eich statws mewnfudo yn gadael i chi wneud cais am gymorth.

Os wnaethoch chi symud i’r DU yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, byddan nhw’n gwirio a ydych chi’n ‘preswylio fel arfer’ yn y DU - hyd yn oed os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig.

Byddan nhw hefyd yn gwirio os ydych chi’n gyfreithiol ddigartref ar hyn o bryd neu y byddwch yn ystod yr 8 wythnos nesaf.

Os yw’r cyngor yn credu y gallwch chi wneud cais am gymorth yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi, mae'r hyn y byddan nhw’n ei wneud yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Os nad ydych chi’n ddigartref eto, dylen nhw  geisio eich atal rhag dod yn ddigartref. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n talu rhywfaint o'ch ôl-ddyledion rhent, neu'n talu'r blaendal fel y gallwch ddod o hyd i rywle arall i'w rentu.

Os ydych chi’n ddigartref yn barod, bydd y cyngor hefyd yn gofyn cwestiynau i weld os ydych chi mewn ‘angen blaenoriaethol’. Mae hyn yn dibynnu ar bethau fel eich teulu, eich iechyd ac os ydych chi’n cysgu ar y strydoedd.

Os yw’r cyngor yn credu eich bod mewn angen blaenoriaethol, dylen nhw ddod o hyd i rywle i chi aros - mae’n cael ei alw weithiau’n ‘llety brys’.

Gwiriwch a allwch chi gael cartref hirdymor 

Ar ôl i’r cyngor benderfynu os dylen nhw roi cymorth byr dymor i chi, byddan nhw’n ystyried a ydych chi’n bodloni’r gofynion i gael cartref hirdymor.

Byddan nhw’n gwirio’r atebion wnaethoch chi eu rhoi’n wreiddiol i weld a ydych chi’n bodloni’r gofynion. Er enghraifft, maen nhw’n gallu:

  • cysylltu â’ch landlord

  • gwirio pa fudd-daliadau rydych chi’n eu derbyn

  • edrych ar gofnodion eich treth gyngor neu’r gofrestr etholiadol i weld ble rydych chi wedi bod yn byw ac ers faint

Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddan nhw hefyd yn gwirio a wnaethoch chi achosi i chi'ch hun fod yn ddigartref – mae hyn yn cael ei alw’n ‘fwriadol ddigartref’.

Os ydych chi’n bodloni'r holl ofynion, mae gennych hawl i gael cartref hirdymor.

I gloi, bydd y cyngor yn gwirio pwy fydd yn dod o hyd i gartref hirdymor ar eich cyfer – nhw neu gyngor gwahanol. Byddan nhw’n gwneud hyn drwy wirio os oes gennych ‘gysylltiad lleol’ i’w hardal. Os ydyn nhw’n credu nad oes gennych chi gysylltiad lleol, byddan nhw’n trosglwyddo eich achos i’r cyngor yn yr ardal y mae gennych chi gysylltiad lleol â hi.

Tra bod y cyngor wrthi’n chwilio am gartref hirdymor ar eich cyfer, byddan nhw fel arfer yn eich rhoi mewn ‘llety dros dro’.

Eich statws mewnfudo

Caniateir i chi wneud cais digartrefedd os ydych: 

  • yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig

  • â statws preswylydd sefydlog o Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

  • â chaniatâd amhenodol i aros - oni bai bod yn rhaid i rywun lofnodi ymrwymiad cynhaliaeth sy’n dweud y byddan nhw’n eich cefnogi’n ariannol

  • â statws ffoadur neu ddiogelwch dyngarol

  • â hawl i breswylio

  • â chaniatâd i aros yn y DU fel ‘person heb wladwriaeth’

Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog o Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, dim ond os oes gennych ‘hawl i breswylio’ y gallwch wneud cais am gymorth digartrefedd.

Os ydych chi wedi gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a’ch bod yn aros am benderfyniad, dim ond os oes gennych hawl i breswylio y gallwch chi wneud cais am gymorth digartrefedd.

Gwiriwch os oes gennych hawl i breswylio.

Os ydych yn dod o Wcráin

Caniateir i chi wneud cais am gymorth digartrefedd os yw bob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • roeddech chi’n byw yn Wcráin  yn union cyn 1 Ionawr 2022

  • fe wnaethoch chi adael Wcráin cyn yr ymosodiad

  • nid yw’n dweud ‘dim cyllid cyhoeddus’ neu ‘heb hawl i gyllid cyhoeddus’ ar eich dogfennau mewnfudo

Nid oes rhaid i chi ddangos eich bod yn preswylio fel arfer.

Os ydych yn dod o Affganistan

Mewn rhai sefyllfaoedd, caniateir i chi wneud cais am gymorth digartrefedd - ac nid oes rhaid i chi ddangos eich bod yn preswylio fel arfer.

Caniateir i chi wneud cais os daethoch chi i’r DU drwy un o’r cynlluniau hyn:

  • y Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid (ARAP)

  • Cynllun Ex-Gratia Staff Affgan a Gyflogir yn Lleol (ALES)

  • y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS)

Caniateir i chi wneud cais hefyd os yw bob un o’r canlynol yn wir:

  • daethoch chi i’r DU o Affganistan oherwydd cwymp y llywodraeth ar 15 Awst 2021

  • rydych chi wedi cael ‘caniatâd i aros’

  • nid yw’n dweud ‘dim cyllid cyhoeddus’ ar eich dogfennau mewnfudo

Siaradwch â chynghorydd os oes gennych noddwr, neu os nad ydych yn siŵr am eich statws mewnfudo.

Efallai y bydd eich cyngor lleol yn gofyn i chi brofi eich statws mewnfudo. Bydd angen i chi ddangos un o’r canlynol:

  • dogfen sy’n dangos eich bod wedi dod i’r DU drwy un o’r mentrau

  • stamp neu fisa yn eich pasbort

  • llythyr wrth y Swyddfa Gartref sy’n dangos pryd wnaethoch chi gyrraedd a pham

Os ydych yn dod o Sudan

Caniateir i chi wneud cais am gymorth digartrefedd os yw bob un o’r canlynol yn wir:

  • roeddech chi’n byw yn Sudan yn union cyn 15 Ebrill 2023

  • fe wnaethoch chi adael oherwydd y trais yno

  • nid yw’n dweud ‘dim cyllid cyhoeddus’ neu ‘heb hawl i gyllid cyhoeddus’ ar eich dogfennau mewnfudo

Siaradwch â chynghorydd os oes gennych noddwr, neu os nad ydych yn siŵr am eich statws mewnfudo

Ni allwch wneud cais am gymorth digartrefedd os:

  • nad oes gennych hawl i fod yn y DU

  • rydych chi yn y DU fel ymwelydd

  • rydych chi’n ceisio lloches

  • mae’n dweud ‘dim cyllid cyhoeddus’ neu ‘heb hawl i gyllid cyhoeddus’ ar eich dogfennau mewnfudo

Os oes gennych unrhyw fath arall o statws mewnfudo, siaradwch â  chynghorydd.

Os ydych wedi bod yn cysgu allan

Mae cysgu allan yn golygu cysgu y tu allan dros nos. Nid yw’n cynnwys aros gyda ffrindiau neu aelodau’r teulu, hyd yn oed os mai dim ond dros dro y gallwch chi aros yno.

Os nad ydych chi’n ddinesydd Prydeinig ac wedi bod yn cysgu allan, gallai eich hawl i aros yn y DU gael ei effeithio – hyd yn oed os oes gennych hawl i wneud cais am gymorth digartrefedd.

Os ydych chi’n gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE,  ni all eich cais gael ei wrthod oherwydd cysgu allan. Siaradwch â chynghorydd os ydych chi’n poeni y gallai cysgu allan effeithio ar eich statws mewnfudo.

Preswylio fel arfer

Dim ond os ydych chi’n preswylio fel arfer y cewch chi gymorth digartrefedd – mae hyn yn golygu y gallwch ddangos mai’r DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref. 

Dim ond os ydych chi wedi symud neu ddychwelyd i’r DU yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf y bydd yn rhaid i chi ddangos eich bod yn preswylio fel arfer.

Gwiriwch os ydych yn preswylio fel arfer.

Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog neu os ydych yn aros am benderfyniad wrth y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Nid oes angen i chi ddangos eich bod yn preswylio fel arfer os oes gennych hawl i breswylio oherwydd eich bod:

  • yn weithiwr – mae hyn yn cynnwys os oes gennych statws gweithiwr a ddargedwir

  • yn berson hunangyflogedig - mae hyn yn cynnwys os oes gennych statws hunangyflogedig a ddargedwir

  • yn aelod o deulu gweithiwr neu berson hunangyflogedig

  • wedi ymddeol - neu os ydych chi’n aelod o deulu rhywun sydd wedi ymddeol

  • ni allwch weithio mwyach oherwydd salwch neu ddamwain - neu os ydych chi’n aelod o deulu rhywun yn y sefyllfa honno

Mae dal rhaid i chi ddangos eich bod yn preswylio fel arfer os oes gennych fath arall o hawl i breswylio, er enghraifft hawl barhaol i breswylio yn seiliedig ar 5 mlynedd yn y DU.

Os nad ydych yn siŵr pa hawl i breswylio sydd gennych, gallwch wirio’r rheolau am yr hawl i breswylio am gartref

Digartrefedd cyfreithiol

I gael cymorth oddi wrth eich cyngor, bydd angen i chi naill ai fod yn gyfreithiol ddigartref neu ‘o dan fygythiad o ddigartrefedd’.

Rydych yn gyfreithiol ddigartref os:

  • nad oes gennych unman i fyw yn y DU neu dramor

  • mae gennych gartref ond ni allwch gael mynediad iddo - er enghraifft, os yw eich landlord wedi eich troi allan yn anghyfreithlon drwy newid y cloeon

  • ni fyddai’n rhesymol i chi ac aelodau o’ch cartref aros yn eich cartref – er enghraifft, oherwydd camdriniaeth, amodau gwael neu oherwydd na allwch ei fforddio

  • nid oes gennych unrhyw le i gadw eich cartref os yw’n symudol - er enghraifft, os yw’n garafán neu’n gwch preswyl

Rydych chi o dan fygythiad o ddigartrefedd os oes rhaid i chi adael eich cartref o fewn 8 wythnos. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys os yw:

  • eich landlord yn rhoi rhybudd dilys i chi adael eich cartref ac mae'r rhybudd yn dod i ben o fewn 8 wythnos

  • gofynnir i chi adael rhywle dros dro

Angen blaenoriaethol

Mae angen i chi fod mewn angen blaenoriaethol er mwyn i'r cyngor ddod o hyd i lety byr dymor neu hirdymor ar eich cyfer. Nid oes angen i chi fod mewn angen blaenoriaethol er mwyn i’r cyngor geisio eich atal rhag dod yn ddigartref – neu roi cymorth i chi os ydych chi eisoes yn ddigartref.

Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddwch chi mewn angen blaenoriaethol yn awtomatig. Os nad ydych, rydych chi dal mewn angen blaenoriaethol os yw’r gyfraith yn dweud eich bod yn ‘agored i niwed’.

Rydych chi mewn angen blaenoriaethol yn awtomatig os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid oes gennych unrhyw le y gallwch aros heno - mae hyn yn cael ei alw weithiau’n ‘ddigartref ac ar y stryd’

  • rydych chi’n feichiog neu’n byw gyda rhywun sy’n feichiog

  • rydych chi’n byw gyda phlentyn o dan 16 oed

  • rydych chi’n byw gyda phlentyn 16 i 18 oed sydd mewn addysg neu hyfforddiant amser llawn 

  • rydych chi’n ddigartref oherwydd cam-drin domestig

  • rydych chi wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd arfog

  • rydych chi’n ddigartref oherwydd argyfwng – er enghraifft, tân neu lifogydd

  • rydych chi’n 16 neu’n 17 oed ac nid ydych yn byw gyda'ch teulu

  • rydych chi’n 18 i 20 oed ac roeddech chi’n byw mewn gofal - neu eich bod mewn perygl o gam-fanteisio rhywiol neu ariannol

Rydych chi’n ‘agored i niwed’ os byddai eich sefyllfa bersonol yn ei gwneud hi’n anoddach i chi ymdopi â bod yn ddigartref na’r person cyffredin. Er enghraifft, efallai y byddwch yn agored i niwed oherwydd:

  • eich bod yn anabl

  • mae gennych gyflwr iechyd meddwl

  • rydych chi’n berson hŷn – mae hyn fel arfer yn golygu dros 60 oed

  • rydych chi wedi profi trais domestig

  • rydych chi wedi bod yn y carchar

Os nad ydych chi mewn angen blaenoriaethol

Dylai'r cyngor wirio a oes gan unrhyw un arall yn eich cartref angen blaenoriaethol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un y gellir disgwyl yn rhesymol iddyn nhw fod yn byw gyda chi. Er enghraifft, efallai na fydd eich partner yn gallu byw gyda chi oherwydd bod eich cartref yn orlawn.

Efallai na fydd y cyngor yn gwirio a oes gan unrhyw un arall yn eich cartref angen blaenoriaethol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthyn nhw os oes gan unrhyw un. Bydd hyn yn eich helpu i gael yr help sydd ei angen arnoch chi.

Digartrefedd bwriadol

Mewn rhai achosion, ni fydd y cyngor yn dod o hyd i lety hirdymor ar eich cyfer os ydyn nhw’n credu eich bod yn fwriadol ddigartref.

Rydych chi’n fwriadol ddigartref os ydych chi wedi achosi i chi’ch hun fod yn ddigartref, er enghraifft oherwydd eich bod:

  • wedi dewis gadael cartref roeddech chi'n gwybod y gallech chi fod wedi aros ynddo

  • heb wneud taliadau rhent neu forgais y gallech eu fforddio

  • wedi cael eich troi allan am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Os ydych chi’n dewis gadael cartref, dim ond pe bai wedi bod yn rhesymol i chi aros yno rydych chi’n fwriadol ddigartref. Er enghraifft, ni fyddwch yn fwriadol ddigartref os wnaethoch chi adael cartref oherwydd:

  • na allech chi fforddio’r rhent

  • mae’n rhy fach ar gyfer nifer y bobl sy’n byw yno

  • rydych chi mewn perygl o gam-drin domestig

Os ydych chi’n credu y gallech chi fod yn fwriadol ddigartref

Gallai’r cyngor dal ddod o hyd i lety hirdymor ar eich cyfer. Dylen nhw anwybyddu’r ffaith eich bod yn fwriadol ddigartref os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n feichiog

  • rydych chi’n byw gyda phlentyn o dan 16 oed

  • rydych chi’n byw gyda phlentyn 16 i 18 oed sydd mewn addysg neu hyfforddiant amser llawn

  • roeddech chi o dan 21 oed pan wnaethoch chi gais

  • roeddech chi mewn gofal cyn i chi gyrraedd 18 oed, ac roeddech chi o dan 25 oed pan wnaethoch chi gais

Os wnaethoch chi dderbyn cymorth digartrefedd yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf

Nid oes rhaid i’r cyngor anwybyddu’r ffaith eich bod yn fwriadol ddigartref os wnaethon nhw ei anwybyddu y tro diwethaf am un o’r rhesymau hyn.

Os ydych chi mewn unrhyw sefyllfa arall, fel arfer ni fydd y cyngor yn dod o hyd i lety hirdymor ar eich cyfer os byddan nhw’n penderfynu eich bod yn fwriadol ddigartref. Mae’n dal werth gwneud cais am gymorth digartrefedd oherwydd:

  • mae dal yn rhaid iddyn nhw geisio eich atal rhag dod yn ddigartref – neu eich helpu i ddod o hyd i lety os ydych chi eisoes yn ddigartref 

  • bydd yn haws i chi wneud cais i'r gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol

Cysylltiad lleol

Dim ond pa gyngor fydd yn delio â'ch cais am gartref hirdymor y mae cysylltiad lleol yn effeithio arno. Mae'n dibynnu ar eich cysylltiadau â'r ardal leol.

Mae’n bosib y bydd y cyngor rydych chi’n gwneud cais iddo yn derbyn bod gennych gysylltiad lleol os yw unrhyw un o’r canlynol yn wir:

  • rydych chi wedi bod yn byw yn yr ardal ers peth amser - fel arfer am 6 mis yn y flwyddyn ddiwethaf neu 3 blynedd allan o'r 5 diwethaf

  • rydych chi’n gweithio yn yr ardal - mae hyn yn cynnwys gwaith di-dâl

  • mae gennych deulu sydd wedi byw yn yr ardal ers amser maith - o leiaf 5 mlynedd fel arfer

Efallai y bydd gennych gysylltiad lleol am reswm arall – er enghraifft, os oes angen gwasanaethau meddygol neu gymorth arbennig arnoch chi sydd ond ar gael yn yr ardal.

Os nad yw’r cyngor yn credu bod gennych gysylltiad lleol, byddan nhw’n gwirio os oes gennych gysylltiad ag ardal arall. Os oes gennych gysylltiad ag ardal arall,  byddan nhw’n trosglwyddo eich cais i’r cyngor hwnnw.

Nid oes modd ei drosglwyddo i gyngor os byddech mewn perygl o drais yn yr ardal honno - er enghraifft gallai hyn fod yn berthnasol os oes gennych gyn bartner camdriniol sy'n byw yno.

Gwneud eich cais

Gallwch wirio sut i ddechrau eich cais digartrefedd.

Os na fydd y cyngor yn eich helpu chi

Os yw’r cyngor yn gwrthod eich cais a’ch bod yn anghytuno â’u penderfyniad, gallwch wirio sut i herio penderfyniad am gais digartrefedd.

Os na allwch chi gael cymorth oddi wrth y cyngor, gwiriwch beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n ddigartref ac nad yw’r cyngor yn fodlon rhoi cartref i chi.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.