Bancio-diogelwch a thwyll

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ynglŷn â diogelwch bancio a thwyll

Pan fyddwch chi’n defnyddio eich cyfrif banc, eich cerdyn banc neu lyfr siec, mae angen i chi wneud yn siŵr fod eich gwybodaeth a’ch hunaniaeth yn ddiogel. Bydd yn helpu i’ch amddiffyn rhag twyll.

Ar y dudalen hon, fe allwch ddarganfod sut mae cadw eich manylion ariannol a phersonol yn ddiogel, a beth i’w wneud os oes problem:

Fe allwch ddarganfod:

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â bancio, gweler Banciau a chymdeithasau adeiladu.

Cadw’ch manylion banc yn ddiogel

Gall cerdyn banc fod naill ai’n gerdyn credyd neu’n gerdyn debyd. Fe ddylech chi fod yn ofalus wrth ddefnyddio’ch cerdyn neu Rif Adnabod Personol (PIN).

Bydd yr un sy’n dosbarthu’r cerdyn i chi yn anfon y cerdyn a’r rhif PIN ar wahan.

Ar ôl i chi dderbyn eich rhif PIN, fe allwch chi ei newid. Fe allwch chi wneud hyn fel arfer wrth beiriant arian. Fe allwch chi ddewis peidio derbyn PIN hefyd.

Disgwylir i chi gymryd camau rhesymol i ddefnyddio eich cerdyn a’ch PIN yn ddiogel, a chadw at amodau a thelerau.

Cofiwch:

  • ddylech chi ddim gadael i neb arall ddefnyddio eich cerdyn, rhif PIN na gwybodaeth diogelwch arall

  • gymryd pob cam rhesymol i gadw’ch cerdyn yn ddiogel a’ch rhif PIN a gwybodaeth diogelwch arall yn gyfrinach

  • gofio na wnaiff eich banc neu gymdeithas adeiladu fyth ofyn i chi am roi gwybod beth yw’ch rhif PIN

  • peidiwch â byth ysgrifennu na chofnodi eich rhif PIN neu wybodaeth diogelwch arall

  • ddysgu eich rhif PIN a gwybodaeth diogelwch arall bob amser, a dinistrio’r hysbysiad cyn gynted ag y daw i chi

  • gysylltu â’ch banc os nad ydych yn derbyn cyfriflen banc neu wybodaeth ariannol arall a ddisgwylir

  • os ydych yn defnyddio safle bancio ar y rhyngrwyd, cofiwch deipio gyfeiriad y banc i mewn i’r porwr gwe a pheidio â byth dilyn cyswllt ebost ac yna mewnbynnu eich manylion personol.

Cardiau neu lyfrau siec sydd ar goll neu wedi’u dwyn

Rhaid i chi ddweud wrth y banc neu’r gymdeithas adeiladu cyn gynted ag sy’n bosibl os:

  • ydych chi’n colli eich cerdyn neu lyfr siec neu os ydyn nhw’n cael eu dwyn

  • ydych chi’n amau fod rhywun arall wedi defnyddio (neu geisio defnyddio) eich cyfrif neu gerdyn heb eich caniatâd

  • yw rhywun arall yn dod yn ymwybodol o’ch rhif PIN neu eich manylion diogelwch bancio ar y rhyngrwyd neu dros y ffôn.

Rhaid bod gan eich banc neu gymdeithas adeiladu ffordd i chi roi gwybod am y problemau hyn bob amser. Mae gan fanciau a chymdeithasau adeiladu fel arfer rif ffôn arbennig i roi gwybod am gardiau neu lyfrau siec sydd ar goll neu wedi’u dwyn. Fel arfer, fe ddowch chi o hyd i’r rhif hwn ar eich cyfriflen, neu ar eu gwefan. Fel arfer fe allwch hefyd roi gwybod am gerdyn neu lyfr siec sydd ar goll neu wedi’u dwyn yng nghangen leol eich banc neu gymdeithas adeiladu.

Fe ddylai eich banc neu gymdeithas adeiladu wedyn drefnu fod cerdyn neu lyfr siec arall yn cael eu hanfon atoch.

Rhaid bod eich banc neu gymdeithas adeiladu yn gallu rhoi cadarnhad ysgrifenedig i chi o’ch adroddiad o gerdyn neu lyfr siec sydd ar goll neu wedi’u dwyn i fyny hyd at 18 mis ar ôl i chi ei gyflwyno.

Os ydych chi’n credu fod codi arian heb awdurdod o’ch cyfrif wedi digwydd oherwydd cerdyn neu lyfr siec sydd ar goll neu wedi’i ddwyn, rhaid i chi ddweud wrth y banc neu’r gymdeithas adeiladu cyn gynted ag sy’n bosibl.

Os nad ydych chi wedi awdurdodi’r codi arian, rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu ad-dalu’r arian ar unwaith. Os oes tystiolaeth i awgrymu eich bod chi wedi ymddwyn yn dwyllodrus neu wedi bod yn esgeulus, fe allan nhw ohirio’r ad-daliad wrth iddyn nhw gyflawni ymchwiliadau pellach. Sut bynnag, rhaid cyflawni’r ymchwiliad o fewn ychydig ddyddiau.

Chi fydd yn gyfrifol am unrhyw godi arian heb awdurdod a wneir cyn i chi ddweud wrth eich banc neu gymdeithas adeiladu am golli’ch cerdyn neu lyfr siec. Sut bynnag, bydd hyn i fyny at uchafswm o £50 yn unig, oni bai eich bod chi wedi ymddwyn yn dwyllodrus neu wedi bod yn esgeulus.

Nid chi fydd yn gyfrifol am unrhyw godi arian heb awdurdod ar ôl i chi ddweud wrth eich banc neu gymdeithas adeiladu, oni bai eich bod chi wedi ymddwyn yn dwyllodrus neu wedi bod yn egseulus.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud os collwch chi siec yn y post, gweler Sieciau.

Eich cyfrif wedi'i ddefnyddio heb eich caniatad

Trafodyn heb awdurdod ar eich cyfrif ydyw arian yn mynd allan o’ch cyfrif, neu i mewn iddo, heb yn wybod i chi a heb eich caniatâd. Enghraifft yw rhywbeth a dalwyd gyda’ch cerdyn credyd heb yn wybod i chi, a heb eich caniatâd chi.

Os ydych chi’n credu fod trafodyn heb awdurdod wedi digwydd gyda’ch cyfrif, fe ddylech ddweud wrth y banc neu’r gymdeithas adeiladu ar unwaith. Ni ddylai hwn fod yn hwyrach na 13 mis ar ôl y trafodyn.

Fe fyddwch yn gyfrifol yn gyfreithiol am unrhyw godi arian heb awdurdod a wneir cyn i chi ddweud wrth y banc neu’r gymdeithas adeiladu am golli’ch cerdyn neu lyfr siec. Sut bynnag, fe fydd hyn i fyny at uchafswm o £50 yn unig, oni bai eich bod wedi ymddwyn yn dwyllodrus neu wedi bod yn esgeulus.

Fyddwch chi ddim yn atebol am unrhyw godi arian heb awdurdod ar ôl i chi ddweud wrth eich banc neu gymdeithas adeiladu, oni bai eich bod wedi ymddwyn yn dwyllodrus neu wedi bod yn esgeulus. Enghraifft o ymddwyn yn dwyllodrus neu bod yn esgeulus ydyw cadw eich rhif PIN wedi’i ysgrifennu gyda’ch cerdyn.

Os oes codi arian heb awdurdod ar eich cyfrif, fe allech chi fod wedi dioddef o ddwyn hunaniaeth. Am fwy o wybodaeth, gweler y pennawd Dwyn Hunaniaeth.

Trafodion sydd wedi’u cyflawni’n anghywir

Enghreifftiau o drafodion a gyflawnwyd yn anghywir ydyw lle mae’r swm o arian sy’n mynd allan o’ch cyfrif yn anghywir, neu fod yr arian wedi’i anfon i’r lle anghywir.

Os yw hyn yn digwydd, fe ddylech chi ddweud wrth eich banc neu gymdeithas adeiladu cyn gynted ag sy’n bosibl. Ni ddylai hyn fod yn hwyrach na 13 mis ar ôl y trafodyn.

Cyfrifoldeb y banc neu’r gymdeithas adeiladu ydyw dangos fod y trafodyn yn ddilys ac nad oedd unrhyw fai ar y gweithdrefnau na thrafferthion technegol.

Os nad ydych wedi awdurdodi’r trafodyn, fe ddylai eich banc neu gymdeithas adeiladu ad-dalu’r arian ar unwaith. Os oes tystiolaeth i awgrymu eich bod wedi ymddwyn yn dwyllodrus neu wedi bod yn esgeulus, fe allan nhw ohirio yr ad-daliad wrth iddynt gyflawni ymchwiliadau pellach. Sut bynnag, rhaid cyflawni’r ymchwiliad o fewn ychydig ddyddiau.

Dwyn hunaniaeth

Mae dwyn hunaniaeth yn golygu fod rhywun nad ydych yn eu hadnabod wedi cael gafael ar eich manylion personol, rhif PIN, manylion diogelwch bancio dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd ac yn eu defnyddio i gael mynediad i’ch cyfrif.

Os ydych chi’n amau eich bod wedi dioddef o ddwyn hunaniaeth, fe ddylech chi weithredu yn ddi-oed:

  • cysylltwch â’r banc ar unwaith. Cadwch gofnod o bob sgwrs a gawsoch gyda nhw a chopïau o unrhyw lythyron a anfonwyd neu a dderbyniwyd.

  • rhowch wybod i’r heddlu am y mater, a mynnwch gyfeirnod trosedd

  • gwiriwch gyda’r asiantaethau archwilio credyd os oes unrhyw geisiadau am gredyd wedi’u gwneud yn eich enw. Os oes, fe allwch ofyn iddynt ddileu’r wybodaeth o’ch ffeil.

  • os ydych yn amau fod rhywun wedi cael gafael ar eich manylion trwy ddwyn eich post, neu sy wedi gwneud cais trwy dwyll i ailgyfeirio eich post o’ch cyfeiriad chi, fe ddylech gysylltu â Rhif Ymholiad Cwsmeriaid y Post Brenhinol ar: 08457 740 740

  • cysylltwch â CIFAS, Gwasanaeth Atal Twyll y DU yn www.cifas.org.uk. Am ffî fechan fe wnân nhw’n siŵr fod unrhyw un sy’n gwneud cais am gredyd yn eich enw yn cael eu gwirio’n drwyadl.

Am fanylion ynglŷn ag asiantaethau archwilio credyd, gweler Gwrthod Credyd yn Credyd.

Cymorth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â defnyddio banciau neu gymdeithasau adeiladu, gweler Banciau a Chymdeithasau Adeiladu.

Efallai y cewch chi y wybodaeth ganlynol sydd yn Adviceguide hefyd yn ddefnyddiol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim.Ar ei wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch banciau a chyfrifon banc.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfrifon banc, rhowch glic ar www.moneyadviceservice.org.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel, rhowch glic ar www.moneyadvice.org.uk.

CIFAS

Gwasanaeth atal twyll ydyw CIFAS a ddefnyddir gan gwmniau ariannol ac awdurdodau cyhoeddus i rannu gwybodaeth am weithredu trwy dwyll.

Am ffî fechan, fe wnan nhw’n siwr y bydd unrhyw un sy’n gwneud cais am gredyd yn eich enw yn cael eu gwirio’n drwyadl yn awtomatig. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.cifas.org.uk.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 18 Mawrth 2021