Os ydych chi'n gorfod mynd i'r llys oherwydd dyled
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Caiff y bobl y mae arnoch chi arian iddynt eu galw’n 'gredydwyr'. Os oes arnoch chi arian ac nad ydych chi'n ei dalu’n ôl, gallai eich credydwr fynd â chi i'r llys.
Dylech chi ymateb i'r hawliad cyn gynted â phosib - fel arfer o fewn pythefnos. Os ydych chi'n anghytuno fod gennych gyfrifoldeb i dalu’r ddyled, gallwch chi ddweud hyn wrth eich credydwr pan fyddwch yn ymateb.
Dylech chi hefyd edrych ar eich opsiynau i gael gwared ar y ddyled - efallai y byddwch chi’n gallu cytuno ar gynllun gyda’ch credydwr yn lle mynd i’r llys.
Os ydych chi’n gorfod mynd i’r llys, bydd gorchymyn llys yn cael ei wneud. Bydd hwn yn dweud a oes angen i chi dalu’r ddyled. Os oes angen i chi dalu’r ddyled, bydd y gorchymyn llys hefyd yn dweud faint sydd angen i chi ei dalu ac erbyn pryd.
Os oes arnoch chi arian i bobl neu gwmnïau yn yr UE
Os oes gennych chi gredydwyr yn yr UE, efallai y byddant yn gallu mynd â chi i'r llys. Mae'n dibynnu ar ble rydych chi.
Os ydych chi’n y DU, dim ond yn y DU y gallant fynd â chi i'r llys, oni bai eu bod yn cymryd camau dros eiddo. Ond os ydych chi'n byw yn yr UE, gallant fynd â chi i'r llys yn yr UE. Ni allant fynd â chi i'r llys os mai dim ond am gyfnod byr rydych chi yn yr UE - er enghraifft, ar wyliau.
Gofynnwch am gyngor cyfreithiol os oes gennych chi gredydwyr yn yr UE. Dewch o hyd i gyngor cyfreithiol am ddim neu gyngor cyfreithiol fforddiadwy.
Edrychwch i weld os yw eich credydwr wedi anfon y dogfennau cywir atoch chi
Mae'n rhaid i'ch credydwr anfon y dogfennau cywir atoch chi cyn mynd â chi i'r llys. Os nad ydynt wedi gwneud hynny, efallai y byddwch chi'n gallu herio'r hawliad.
Pan wnaethoch chi fenthyca'r arian, dylid bod wedi gofyn i chi lofnodi cytundeb sy'n dweud beth rydych chi a'ch credydwr yn cytuno arno.
Ar gyfer y rhan fwyaf o gytundebau credyd, byddwch yn cael eich cynnwys o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Os nad ydych yn siŵr, edrychwch os daw eich cytundeb credyd o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.
Os yw eich cytundeb wedi’i gynnwys o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr, rhaid i’ch credydwr ddilyn pob un o’r 3 cham yn y broses cyn mynd â chi i’r llys oherwydd dyled.
Rhaid i’ch credydwr anfon y canlynol atoch chi:
rhybudd diffygdalu
llythyr hawlio
pecyn hawlio
Os nad yw eich cytundeb wedi’i gynnwys o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr, efallai na fydd eich credydwr yn anfon hysbysiad diffygdalu atoch chi - efallai y byddant yn anfon ‘galwad derfynol’ neu ddogfen arall atoch chi yn lle hynny. Edrychwch ar eich cytundeb credyd i weld beth sy’n rhaid i’ch credydwr ei anfon atoch chi.
Mae'n rhaid i'ch credydwr anfon llythyr hawlio a phecyn hawlio atoch chi o hyd, hyd yn oed os nad yw'ch cytundeb wedi'i gynnwys o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.
Os ydych chi'n teimlo nad yw eich credydwr wedi gweithredu'n briodol, efallai y byddwch chi'n gallu herio'r hawliad yn eich erbyn. Er enghraifft, os nad yw eich credydwr wedi eich rhybuddio am y ddyled neu os ydynt wedi cychwyn camau cyfreithiol yn rhy gyflym. Dylech chi gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
1. Hysbysiad diffygdalu
Mae'r hysbysiad diffygdalu yn cynnwys manylion pa daliadau a fethwyd gennych a pha mor hir sy’n rhaid i chi eu talu. Mae'n rhaid i'ch credydwr roi o leiaf pythefnos i chi. Ar ôl pythefnos gallant anfon llythyr hawlio atoch. Os wnewch chi dalu’r taliadau a fethwyd, ni fydd eich credydwr yn cymryd unrhyw gamau pellach.
Mae'r hysbysiad diffygdalu hefyd yn cynnwys taflen o ffeithiau gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol sy'n egluro’ch hawliau.
Ar frig y dudalen gyntaf dylai ddweud:
‘Mae’n bwysig eich bod yn darllen hwn yn ofalus’
‘Hysbysiad diffygdalu a gyflwynwyd o dan adran 87(1) o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974’
2. Llythyr hawlio
Bydd eich credydwr wedi anfon ‘llythyr hawlio’ atoch chi oherwydd eu bod nhw eisiau dechrau camau cyfreithiol.
Mae hyn yn rhoi 30 diwrnod i chi ymateb.
Dylai’r llythyr hawlio fod wedi cyrraedd gyda:
‘ffurflen ymateb’ - defnyddiwch y ffurflen hon i ddweud os ydych chi’n cytuno bod gennych chi gyfrifoldeb i dalu’r ddyled neu i ddweud bod angen mwy o amser arnoch chi
‘datganiad ariannol safonol’ - defnyddiwch hwn i gynnig taliad os na allwch chi fforddio talu’r ddyled yn llawn
manylion sefydliadau cynghori
taflen wybodaeth sy’n esbonio sut dylech chi a’ch credydwr weithredu
3. Pecyn hawlio
Os na wnaethoch chi a'ch credydwr ddod i gytundeb, gallant ddechrau camau cyfreithiol yn eich erbyn.
Os yw eich credydwr wedi dechrau camau cyfreithiol, bydd y llys wedi anfon 'pecyn hawlio' atoch chi.
Rhoddir o leiaf pythefnos i chi ymateb i'ch credydwr o'r diwrnod y byddwch chi’n derbyn y pecyn hawlio. Bydd eich ffurflen hawlio yn dweud wrthych erbyn pryd y mae angen i chi ymateb.
Os byddwch chi’n colli’r dyddiad cau, dylech chi ymateb i'r pecyn hawlio o hyd. Os yw'n cyrraedd cyn i'r llys roi dyfarniad diffygdalu, bydd eich ymateb yn dal i gael ei ystyried.
Dylech chi wastad wneud yn siŵr bod y dogfennau'n ddilys. Dylai enw'r ffurflen fod ar y brig a rhif y ffurflen yn y gornel dde isaf.
Dylai fod 4 ffurflen yn y pecyn hawlio, y gallwch chi hefyd eu lawrlwytho o GOV.UK:
‘N1: Ffurflen hawlio’ – mae’n dweud wrthych chi faint sydd arnoch chi a beth yw'r ddyled
‘N9: Pecyn ymateb’ - defnyddiwch hwn i ddweud wrth y llys fod angen 4 wythnos arnoch chi i baratoi eich amddiffyniad os ydych chi'n anghytuno â'r ddyled
‘N9A: Addefiad (swm penodol)’ - defnyddiwch hwn i ddweud wrth eich credydwr eich bod yn cytuno i'r ddyled gyfan neu ran ohoni, a gwneud cynnig i'w thalu
‘N9B: Amddiffyniad a gwrth-hawliad’ - defnyddiwch hwn i amddiffyn hawliad os ydych chi'n anghytuno â'r ddyled, neu i wneud gwrth-hawliad os ydych chi'n credu bod arno’r credydwr arian i chi
Os ydych chi wedi derbyn Dyfarniad Llys Sirol
Os mai dyma'r ddogfen gyntaf sydd gennych chi am y ddyled, efallai y byddwch chi’n gallu gwneud cais i’w chanslo – mae hyn yn cael ei alw’n rhoi’r dyfarniad ‘o’r naill du’.
Gall canslo hawliad fod yn gymhleth – dylech chi gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol am help.
Cadw eich manylion cyswllt yn breifat
Os nad oes gan eich credydwr eich cyfeiriad cartref, efallai y byddant yn anfon y dogfennau i gyfeiriad arall neu ar e-bost.
Os oes angen i chi sicrhau nad ydynt yn cael eich cyfeiriad cartref ac unrhyw fanylion cyswllt eraill nad oes ganddynt yn barod, gallwch chi wneud cais i'r llys am orchymyn.
Gall y llys hefyd sicrhau nad yw eich cyfeiriad yn cael ei roi i rywun sy'n ymwneud â'ch achos, hyd yn oed os oes ganddynt eich enw neu fanylion cyswllt eraill yn barod.
Bydd angen i chi wneud cais i’r llys drwy ddefnyddio ffurflen swyddogol. Siaradwch â chynghorwr os ydych chi eisiau gwneud cais i’r llys – gallant eich helpu i lenwi’r ffurflen.
Ymateb i’ch credydwr
Mae angen i chi ymateb i hawliad cyn gynted â phosib. Mae'r hyn y dylech chi ei wneud yn dibynnu ar a ydych chi’n:
cytuno eich bod yn gyfrifol am dalu rhan o’r ddyled neu’r ddyled gyfan
anghytuno eich bod yn gyfrifol am dalu’r ddyled
Os ydych chi’n symud cartref
Mae’n bwysig rhoi gwybod i’ch credydwr os yw eich cyfeiriad yn newid, fel nad ydych chi’n colli unrhyw lythyrau oddi wrth eich credydwr. Os na wnewch chi hynny, efallai y bydd eich credydwr yn dechrau camau cyfreithiol heb yn wybod i chi.
Os ydych chi’n cytuno eich bod yn gyfrifol am dalu rhan o’r ddyled neu’r ddyled gyfan
Dylech chi edrych i weld os oes rhaid i chi dalu’r ddyled cyn ymateb i’r credydwr.
Mae'r hyn y dylech chi ei wneud yn dibynnu ar ba ddogfennau rydych chi wedi’u derbyn wrth eich credydwr.
Os ydych chi wedi derbyn hysbysiad diffygdalu
Bydd gennych bythefnos i wneud unrhyw daliadau a fethwyd rydych chi’n gyfrifol amdanynt.
Bydd yr hysbysiad diffygdalu yn dweud wrthych faint o daliadau rydych chi wedi'u methu a faint sydd angen i chi ei dalu.
Os na allwch chi fforddio talu, gofynnwch i'ch credydwr a allwch chi dalu mewn rhandaliadau.
Os ydych chi'n cytuno i ran o'r ddyled yn unig, atebwch eich credydwr yn ysgrifenedig. Dylech ddweud pam rydych chi'n cytuno i ran o'r ddyled yn unig.
Efallai y byddwch chi'n cytuno i ran o'r ddyled yn unig os gallwch chi brofi:
eich bod chi wedi talu rhywfaint o'r arian y mae'r credydwr yn dweud sydd arnoch chi
bod arnoch chi llai nag y mae'r credydwr yn ei ddweud
bod y credydwr wedi ychwanegu taliadau neu log pan nad oes ganddynt hawl i wneud hynny
Mae’n well cadw copi o’ch ymateb a’i anfon drwy wasanaeth dosbarthiad a gofnodwyd i brofi eich chi wedi anfon ymateb rhag iddo fynd ar goll.
Os ydych chi wedi derbyn llythyr hawlio
Bydd gennych 30 diwrnod i ymateb i'r llythyr hawlio drwy ddefnyddio'r ffurflen ateb.
Defnyddiwch y ffurflen ateb i wneud y canlynol:
dweud eich bod yn cytuno eich bod yn gyfrifol am dalu rhan o’r ddyled neu’r ddyled gyfan
cynnig talu mewn rhandaliadau neu'n llawn - dylech chi atodi'r datganiad ariannol safonol
dweud wrth eich credydwr eich bod yn cael cyngor am ddyled a bod gennych chi apwyntiad - dywedwch y bydd angen mwy na 30 diwrnod arnoch chi
gofyn am fwy o wybodaeth wrth eich credydwr - er enghraifft, cyfriflen cyfrif neu gopi o'r cytundeb credyd
Anfonwch gyfriflen ariannol at eich credydwr. Gallwch chi ddefnyddio adnodd cyllidebu i weld faint allwch chi ei fforddio. Mae cynnig bach, hyd yn oed mor isel â £1, yn well na chynnig dim o gwbl.
Darllenwch fwy am wneud cynllun i dalu eich dyledion.
Os ydych chi wedi derbyn pecyn hawlio
Atebwch cyn gynted â phosib. Fel arfer, bydd gennych o leiaf pythefnos i ateb.
Os gwnaed yr hawliad drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein gallwch chi ymateb i’r hawliad ar GOV.UK.
Bydd angen i chi ddefnyddio’r:
Ffurflen ‘N9A: Addefiad (swm penodol) i ddweud wrth eich credydwr eich bod yn cytuno eich bod yn gyfrifol am dalu’r ddyled gyfan neu ran ohoni, a gwneud cynnig i'w thalu
Ffurflen ‘N9B: Amddiffyniad a gwrth-hawliad i ddweud wrth eich credydwr pa ran o’r ddyled rydych chi’n anghytuno â hi
Mae gan y ffurflen N9A: Addefiad (swm penodol) flwch ticio lle gallwch chi ddweud a ydych chi'n cytuno eich bod yn gyfrifol am dalu rhan o’r ddyled neu’r ddyled gyfan. Gallwch chi wneud cynnig i dalu ym mlwch 11.
Os ydych chi'n cytuno i'r ddyled gyfan, anfonwch y ffurflen yn ôl at eich credydwr, nid i'r llys.
Os ydych chi’n cytuno i ran o'r ddyled yn unig, anfonwch y ddwy ffurflen yn ôl i'r llys. Fe welwch chi gyfeiriad y llys yn y ffurflen N1: Ffurflen hawlio.
Mae'n well cadw copi a'i anfon drwy wasanaeth dosbarthiad a gofnodwyd i brofi eich bod wedi anfon y ffurflen rhag ofn iddi fynd ar goll.
Darllenwch fwy am wneud cynllun i dalu eich dyledion.
Os ydych chi’n anghytuno eich bod yn gyfrifol am dalu’r ddyled
Mae'r hyn y dylech chi ei wneud yn dibynnu ar ba ddogfennau rydych chi wedi'u derbyn oddi wrth eich credydwr.
Os ydych chi wedi derbyn hysbysiad diffygdalu
Bydd yr hysbysiad diffygdalu yn dweud wrthych chi faint o daliadau rydych chi wedi'u methu a faint sydd angen i chi ei dalu.
Atebwch eich credydwr gan ddweud pam eich bod yn anghytuno eich bod yn gyfrifol am dalu’r ddyled a gofynnwch iddynt anfon prawf o'r hyn sydd arnoch chi. Mae gennych bythefnos i dalu ar ôl cael yr hysbysiad diffygdalu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb cyn gynted â phosib.
Mae'n well cadw copi a'i anfon drwy wasanaeth dosbarthiad a gofnodwyd i brofi eich bod wedi anfon ateb rhag ofn iddo fynd ar goll.
Os ydych chi wedi derbyn llythyr hawlio
Bydd gennych 30 diwrnod i ymateb i'r llythyr hawlio drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb. Dylech chi gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Defnyddiwch y ffurflen ymateb ar gyfer y canlynol:
dweud eich bod yn anghytuno mai chi sy’n gyfrifol am dalu’r ddyled
dweud wrth eich credydwr eich bod yn cael cyngor am ddyled a bod gennych chi apwyntiad - dywedwch y bydd angen mwy na 30 diwrnod arnoch chi
gofyn am fwy o wybodaeth wrth eich credydwr - er enghraifft, cyfriflen cyfrif neu gopi o'r cytundeb credyd
Os ydych chi wedi derbyn pecyn hawlio
Atebwch cyn gynted ag y gallwch chi. Fel arfer bydd gennych o leiaf pythefnos i ymateb.
Os gwnaed yr hawliad drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein gallwch chi ymateb i’r hawliad ar GOV.UK.
Dylech chi gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol am help.
Defnyddiwch y ffurflen ‘N9B: Amddiffyniad a gwrth-hawliad’ i ddweud wrth eich credydwr eich bod yn anghytuno bod arnoch chi’r arian.
Efallai y byddwch chi’n gallu amddiffyn yr hawliad os:
gallwch chi brofi eich bod chi wedi talu'r arian y mae eich credydwr yn dweud sydd arnoch chi
nad chi yw'r person a lofnododd y cytundeb
na wnaeth eich credydwr weithredu'n briodol - er enghraifft, os anfonwyd y dogfennau anghywir atoch chi
oeddech chi o dan 18 oed pan lofnodoch chi'r cytundeb
yw’r terfyn amser ar gyfer adfer y ddyled wedi dod i ben, fel arfer 6 blynedd
Ni allwch chi amddiffyn hawliad oherwydd eich bod:
yn methu â fforddio talu’r arian
wedi anghofio bod y ddyled gennych
heb agor y llythyrau yr anfonodd eich credydwr atoch chi
Gallwch chi hefyd ddefnyddio ‘N9: Pecyn ymateb’ i ofyn am bythefnos ychwanegol i baratoi eich ymateb. Bydd hyn yn rhoi 4 wythnos i chi ymateb. Gall amddiffyn hawliad fod yn gymhleth - dylech chi gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol os oes angen help arnoch chi.
Os yw eich credydwr yn derbyn eich cynnig i ad-dalu
Mae'r hyn sy'n digwydd yn dibynnu ar ba gam o'r broses hawlio rydych chi ynddo.
Mae'n bwysig cadw at eich cynllun talu newydd, fel arall gall eich credydwr gymryd camau cyfreithiol pellach yn eich erbyn.
Dywedwch wrth eich credydwr os na allwch chi fforddio eich cynllun talu oherwydd bod eich sefyllfa wedi newid. Efallai y bydd eich credydwr yn cytuno i leihau'r swm sydd angen i chi ei dalu bob mis.
Os wnaethoch chi ymateb i lythyr hawlio
Gall eich credydwr dderbyn eich cynnig i ad-dalu heb fynd i’r llys. Yna fe gewch chi lythyr i gadarnhau eich cynllun talu newydd.
Os wnaethoch chi ymateb i becyn hawlio
Gall eich credydwr ofyn i’r llys wneud y dyfarniad heb wrandawiad llys. Yna byddwch yn cael hysbysiad wrth y llys yn cadarnhau’r dyfarniad.
Os yw eich credydwr yn gwrthod eich cynnig i ad-dalu
Mae'r hyn sy'n digwydd yn dibynnu ar ba gam o'r broses hawlio rydych chi ynddo.
Os ydych chi wedi derbyn llythyr hawlio
Gall eich credydwr wrthod eich cynnig i ad-dalu ac anfon pecyn hawlio atoch chi.
Os ydych chi wedi derbyn pecyn hawlio
Your creditor can refuse your repayment offer and ask the court to make a decision on your case. This doesn’t usually involve a court hearing. This might mean you’re asked to pay more than you can afford.
Gall eich credydwr wrthod eich cynnig i ad-dalu a gofyn i’r llys wneud penderfyniad ar eich achos. Nid yw hyn fel arfer yn cynnwys gwrandawiad llys. Gallai hyn olygu y gofynnir i chi dalu mwy nag y gallwch ei fforddio.
Ar ôl i Ddyfarniad y Llys Sirol gael ei wneud
Mae'n bwysig parhau i wneud taliadau ar ôl i'r dyfarniad gael ei wneud. Os na wnewch chi hynny, efallai y bydd eich credydwr yn cymryd mwy o gamau i gael yr arian yn ôl. Er enghraifft, efallai y byddant yn gofyn i'r llys anfon beilïaid i'ch cartref neu i gymryd arian o'ch cyflog.
Ar ôl y dyfarniad, gallai eich credydwr ofyn i'r llys sicrhau'r ddyled yn erbyn eich cartref – caiff hyn ei alw’n ‘orchymyn arwystlo’. Efallai y byddant yn gwneud hyn hyd yn oed os ydych chi'n parhau i wneud taliadau. Gallwch chi ddarllen beth i’w wneud os yw eich credydwr yn gwneud cais am orchymyn arwystlo.
Bydd y dyfarniad yn aros ar eich ffeil gredyd am 6 blynedd a gallai fod yn anoddach i chi gael credyd.
Os nad ydych chi'n cytuno â'r dyfarniad, neu os yw eich sefyllfa wedi newid, gallwch chi ofyn i'r llys:
adolygu’r dyfarniad
newid y taliadau
canslo’r dyfarniad
Edrych i weld os yw’r llys yn gallu adolygu’r dyfarniad
Gallwch chi ysgrifennu at y llys yn gofyn iddynt adolygu’r Dyfarniad Llys Sirol – caiff hyn ei alw’n ‘ailbenderfyniad’. Bydd rhaid i chi ofyn am ailbenderfyniad o fewn pythefnos o’r dyfarniad.
Ni fydd angen ffurflen arnoch chi i ofyn am ailbenderfyniad, dim ond ysgrifennu llythyr i’r llys.
Gallwch chi ofyn am ailbenderfyniad os yw’r rhain i gyd yn gymwys:
ni allwch chi fforddio'r taliadau
rydych chi wedi addef yr hawliad ac wedi cynnig talu, ond nid yw eich credydwyr wedi derbyn eich cynnig
ar ôl i'ch credydwr beidio â derbyn eich cynnig, gosododd y llys gynllun talu heb wrandawiad
Edrych i weld os yw’r llys yn gallu newid y taliadau
Gallwch chi ofyn i’r llys newid y taliadau – caiff hyn ei alw’n ‘amrywiad’. Gallwch chi ofyn am amrywiad os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau am ailbenderfyniad neu fod eich sefyllfa wedi newid.
Bydd yn rhaid i chi dalu ffi i ofyn am amrywiad, ond os ydych chi ar incwm isel, gallwch chi wneud cais am help ar GOV.UK.
Darllenwch sut i ofyn i’r llys newid y dyfarniad.
Edrych i weld os yw’r llys yn gallu canslo’r dyfarniad
Os cewch chi Ddyfarniad Llys Sirol rydych chi’n anghytuno ag ef, efallai y byddwch yn gwneud cais i’w herio. Dylech chi herio’r dyfarniad cyn gynted â phosib.
Mae'r hyn sydd angen i chi ei wneud yn dibynnu a wnaethoch chi ymateb i'r hawliad.
Os gwnaethoch chi ymateb i'r hawliad, efallai y byddwch chi'n gallu apelio yn erbyn y dyfarniad. Bydd angen i chi dalu am gyngor cyfreithiol – edrychwch sut i chwilio am gyfreithiwr fforddiadwy.
Os na wnaethoch chi ymateb i'r hawliad, efallai y byddwch chi’n gallu gofyn i’r llys ganslo’r dyfarniad – caiff hyn ei alw’n rhoi’r dyfarniad ‘o’r naill du’. Siaradwch â chynghorwr i weld os gallwch chi ofyn i roi’r dyfarniad o’r naill du.
Bydd angen i chi hefyd dalu ffi i ofyn i’r llys roi’r dyfarniad o’r naill du. Os ydych chi ar incwm isel, gallwch chi wneud cais am help i dalu ffi’r llys ar GOV.UK.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 05 Mawrth 2021