C10: darllen

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Beth mae’r cwestiwn yn ei olygu

Mae’r cwestiwn yn ymwneud â sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi:

  • ddarllen gwybodaeth o faint testun safonol (nad yw’n brint bras)

  • darllen arwyddion – er enghraifft, arwyddion allanfa argyfwng

  • darllen y tu mewn a’r tu allan

Seiliwch eich atebion ar ddarllen a deall gwybodaeth yn eich iaith eich hun a sut rydych chi’n ymdopi â brawddegau hir neu rywbeth fel bil nwy, amserlen neu gyfriflen banc.

Does gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ddim diddordeb yn eich sgiliau Cymraeg na pha mor dda rydych chi’n cofio pethau.

Cwestiwn 10a

"Ydych chi’n defnyddio cymorth neu declyn heblaw sbectol neu lensys cyffwrdd i ddarllen arwyddion, symbolau a geiriau?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Dylech chi dicio “ydw” siŵr o fod:

  • os ydych chi’n defnyddio fformatau print bras neu sain

  • os ydych chi’n defnyddio lampau neu oleuadau arbennig i’ch helpu chi i ddarllen

  • os ydych chi angen cymryd seibiant wrth ddarllen

  • os ydych chi’n defnyddio cymorth naill ai drwy’r amser neu weithiau – er enghraifft, rydych chi ond yn defnyddio sgrin las y tu mewn 

Cwestiwn 10b

"Ydych chi angen help gan berson arall i ddarllen neu ddeall arwyddion, symbolau a geiriau?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Dylech chi dicio "ydw" siŵr o fod a rhoi mwy o fanylion yn y bocs gwybodaeth ychwanegol:

  • os oes gennych chi anabledd dysgu

  • os oes gennych chi gyflwr corfforol neu feddyliol sy’n eich atal chi rhag gallu darllen

  • os oes rhywun yn eich helpu neu’n eich annog chi i ddarllen – er enghraifft, maen nhw’n darllen bwydlen i chi

  • os oes rhywun yn esbonio gwybodaeth ysgrifenedig i chi

  • os ydych chi angen help gan rywun ond nad ydych chi’n ei gael

  • os na allwch chi ddarllen geiriau o gwbl ond eich bod chi’n gallu deall arwyddion neu symbolau 

Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu  

Pwysig

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy esbonio eich sefyllfa yn y bocs.

Os ydych chi’n defnyddio Braille, gofalwch eich bod chi’n dweud hynny.

Dyma’ch cyfle chi i roi darlun llawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i ddarllen a deall gwybodaeth. Byddan nhw’n defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.

Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn hefyd i esbonio pa help rydych chi ei angen ond nad ydych chi’n ei gael.

Cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio

Rhestrwch y cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio i’ch helpu chi i ddarllen y tu mewn a’r tu allan, a nodwch yn glir os ydych chi’n gorfod defnyddio fformatau print bras neu sain.

Peidiwch byth â hepgor cymorth o’ch rhestr am eich bod chi’n meddwl ei fod yn amlwg, a chofiwch:

  • esbonio sut maen nhw’n eich helpu chi

  • nodi’n glir os yw gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cynghori chi i’w defnyddio nhw

  • cynnwys unrhyw gymhorthion a fyddai’n eich helpu chi pe bai gennych chi nhw

Werth gwybod

Esboniwch os ydych chi’n defnyddio cymorth i leihau symptomau meddyliol neu gorfforol (fel anghysur, golwg aneglur neu lygaid croes) wrth ddarllen. Nodwch yn glir mai dim ond lleihau’r teimlad hwnnw mae hyn yn ei wneud a’ch bod chi’n dal i’w ddioddef.

Rhywun yn darllen i chi neu’n eich helpu chi

Nodwch yn glir os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael.

Os ydych chi’n cael help, dywedwch pwy sy’n eich helpu chi (er enghraifft, gofalwr neu ffrind) ac esboniwch:

  • pam rydych chi angen help – mae’n bwysig dweud os nad ydych chi’n gallu darllen oherwydd cyflwr corfforol neu feddyliol, fel anabledd dysgu

  • sut maen nhw’n helpu – er enghraifft, efallai eu bod nhw’n darllen eich post i chi

  • pa mor aml maen nhw’n helpu

  • os ydych chi angen eu help nhw y tu mewn, y tu allan neu’r ddau – er enghraifft, efallai eich bod chi’n ymdopi gartref ond eich bod chi’n dibynnu ar bobl y tu allan i ddarllen mapiau, enwau strydoedd neu fwydlenni i chi

  • os ydych chi angen iddyn nhw fod wrth law – er enghraifft, i wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel am eich bod chi’n ei chael hi’n anodd asesu pellteroedd 

Cofiwch esbonio beth sy’n digwydd (neu beth a fyddai’n digwydd) os nad ydych chi’n cael help. Ystyriwch:

  • a ydych chi’n fwy tebygol o gael damwain – er enghraifft, rydych chi’n cael anawsterau wrth ddarllen arwydd allanfa mewn argyfwng

  • a ydych chi’n fwy tebygol o gael symptomau meddyliol neu gorfforol fel cur pen neu straen ar y llygaid

  • ydy hi’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser i chi ddarllen a deall rhywbeth o gymharu â rhywun heb eich cyflwr

Yr amser mae’n ei gymryd

Meddyliwch faint o amser mae’n ei gymryd i chi leoli neu ddarllen arwyddion stryd neu enwau siopau neu ddarllen bwydlenni, llythyrau, biliau neu amserlenni bws a thrên.

Nodwch yn glir os yw’n cymryd ddwywaith gymaint o amser i chi wneud y pethau hyn o gymharu â rhywun heb eich cyflwr.

Ceisiwch esbonio faint o amser mae’n ei gymryd. Mae’n iawn i chi amcangyfrif, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam – er enghraifft, am fod eich cyflwr yn anwadal.

Cofiwch:

  • gynnwys cyfnodau seibiant os ydych chi eu hangen

  • esbonio os yw’n cymryd mwy fyth o amser ar ddiwrnod gwael

  • dweud os ydych chi’n ei chael hi’n fwy anodd darllen a deall rhywbeth amla’n byd rydych chi’n gorfod gwneud hynny mewn diwrnod

Diwrnodau da a diwrnodau gwael

Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.

Nodwch yn glir:

  • os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael

  • pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael

  • os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio

  • sut mae eich anawsterau a’ch symptomau yn amrywio ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael – er enghraifft, ar ddiwrnodau gwael rydych chi’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio ar wrthrych, asesu meintiau neu bellteroedd neu ymdopi mewn goleuni disglair 

Mae’n iawn i chi amcangyfrif eich diwrnodau gwael, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam – er enghraifft, am fod eich cyflwr yn anwadal.

Symptomau fel llygaid blinedig, llygaid croes, golwg aneglur neu bendro

Esboniwch ydy’r anawsterau rydych chi’n eu cael wrth ddarllen a deall yn achosi unrhyw symptomau corfforol neu feddyliol i chi (fel pendro, golwg aneglur, cydgysylltiad llaw a llygad da neu salwch symud).

Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol esbonio’r symptomau a rhoi enghraifft, gan gynnwys:

  • pa mor aml rydych chi’n eu cael nhw

  • faint maen nhw’n para

  • os ydych chi’n eu cael nhw y tu mewn neu’r tu allan

  • sut maen nhw’n ei gwneud hi’n anodd i chi ddarllen a deall

  • os ydyn nhw’n ei gwneud hi’n anodd i chi gyflawni’r tasgau eraill ar y ffurflen hawlio – er enghraifft, paratoi pryd o fwyd neu ddilyn llwybr 

Risgiau diogelwch

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi wedi bod mewn perygl neu os gallech chi fod mewn perygl am eich bod chi’n cael trafferth darllen.

Er enghraifft, dylech chi ddweud os ydych chi erioed wedi cael trafferth darllen:

  • arwyddion pwysig fel allanfa mewn argyfwng

  • gwybodaeth ddiogelwch ar feddyginiaeth neu gynhyrchion cartref 

Nodwch yn glir:

  • pam mae’n gallu digwydd

  • pa mor aml mae’n gallu digwydd

  • pa mor wael y gallai effeithio arnoch chi

  • sut rydych chi’n ceisio ei atal – er enghraifft, rydych chi’n dibynnu ar rywun i esbonio pethau i chi

  • os yw oherwydd na wnaeth rhywun eich helpu chi

  • os yw oherwydd eich bod chi’n drysu neu’n cael trafferth cofio 

Os ydych chi’n cael eich effeithio gan golli golwg

Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall yn cynnig mwy o help i lenwi’ch ffurflen hawlio PIP.

Help gyda chwestiwn 11: cymysgu â phobl eraill

Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.