Gwirio eich opsiynau i dalu eich dyledion
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os oes gennych chi lawer o ddyledion a’ch bod yn cael trafferth talu, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i'ch helpu i dalu eich dyledion.
Efallai y byddwch chi'n gallu siarad â'ch credydwyr a threfnu ffordd i'w talu, neu wneud cytundeb ffurfiol o'r enw ‘ateb dyled'.
Bydd angen i chi benderfynu beth yw'r ateb gorau ar gyfer eich sefyllfa. Bydd yn dibynnu ar bethau fel:
y math o ddyledion sydd gennych chi
cyfanswm y ddyled sydd gennych chi
faint o arian allwch chi ei dalu tuag at eich dyledion
Os oes gennych chi rywfaint o arian i dalu eich dyledion, gallech chi drefnu i dalu eich dyledion dros ychydig flynyddoedd. Efallai y byddwch chi'n gallu cael cynllun rheoli dyledion, gorchymyn gweinyddu neu drefniant gwirfoddol unigol (IVA).
Os nad oes gennych chi arian i dalu eich dyledion, mae dal opsiynau a allai eich helpu chi. Yn dibynnu ar faint o arian sydd arnoch chi, efallai y byddwch chi'n gallu gwneud cais am Orchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO) neu i fod yn fethdalwr.
Gall gwahanol atebion dyled effeithio ar eich bywyd mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, gallent effeithio ar eich statws credyd, morgais neu gynilion, neu gyfyngu ar y gwaith y gallwch chi ei wneud. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall sut byddwch chi’n cael eich effeithio cyn i chi wneud cais am ateb dyled.
Os oes angen mwy o help arnoch chi i ddeall y gwahanol opsiynau a'u risgiau, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Siarad â’ch credydwyr
Cyn i chi archwilio unrhyw atebion dyled, mae’n bwysig siarad â’ch credydwyr. Efallai y byddwch chi’n gallu dod i gytundeb â nhw i dalu’ch dyledion, neu i gael mwy o amser i ddatrys eich sefyllfa. Darllenwch am wneud cynllun i dalu eich credydwyr.
Os ydych chi eisoes wedi cytuno i wneud taliadau i'ch credydwyr, dylech chi wirio a allai atebion dyled eraill eich helpu chi o hyd - efallai bod ffordd well ymlaen.
Os nad ydych chi'n teimlo eich bod chi'n gallu siarad â'ch credydwyr yn uniongyrchol, neu os na fyddant yn cytuno i'ch cynigion, gwiriwch a allwch chi ddefnyddio ateb arall.
Cael lle i anadlu os oes angen mwy o amser arnoch chi i benderfynu beth i’w wneud
Os nad ydych chi'n barod i ddefnyddio ateb dyled neu os na allwch chi fforddio gwneud hynny ar hyn o bryd, gallai’r cynllun Lle i Anadlu, sy’n cael ei gefnogi gan y llywodraeth, roi amser ychwanegol i chi.
Os ydych chi’n gymwys, gallech chi gael 60 diwrnod o le i anadlu pan na all eich credydwyr wneud y canlynol:
cysylltu â chi
cymryd camau i wneud i chi dalu
ychwanegu llog a thaliadau at eich dyled
Mae’n cynnwys y rhan fwyaf o ddyledion, gan gynnwys cardiau credyd a chardiau siopau, benthyciadau, gorddrafftiau ac ôl-ddyledion ar filiau’r cartref. Bydd angen i chi gael cyngor wrth gynghorydd dyledion yn gyntaf – byddant yn gwirio'ch holl ddyledion i weld a ydynt wedi'u cynnwys.
I weld os yw lle i anadlu yn iawn i chi, siaradwch â chynghorydd.
Os ydych chi’n cael triniaeth argyfwng iechyd meddwl
Efallai y byddwch chi’n gallu cael lle i anadlu wrth eich credydwyr am yr holl amser rydych chi'n cael triniaeth argyfwng, yn ogystal â 30 diwrnod ar ôl hynny. Mae triniaeth argyfwng yn cynnwys pethau fel cael gofal iechyd meddwl brys neu acíwt yn yr ysbyty neu'r gymuned.
Siaradwch â’ch darparwr gofal iechyd meddwl am ‘Le i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl’,
Gwirio faint o arian y gallwch chi ei dalu tuag at eich dyledion
Cyn i chi archwilio unrhyw atebion dyled, bydd angen i chi wneud y canlynol:
gwirio pa rai o’ch dyledion i’w talu gyntaf - mae’r rhain yn cael eu galw’n ddyledion blaenoriaeth
gwirio os gallwch chi gynyddu eich incwm i roi mwy o arian i chi i dalu eich dyledion
Os oes gennych chi arian i dalu eich dyledion
Ceisiwch wneud cytundeb gyda'ch credydwyr blaenoriaeth cyn i chi archwilio unrhyw atebion dyled.
Os na allwch chi ddod i gytundeb â nhw, dylech chi dal dalu yr hyn gallwch chi ei fforddio, ond efallai na fydd hyn yn eu hatal rhag cymryd camau yn eich erbyn. Gwiriwch pa ddyledion i’w talu gyntaf.
Os oes gennych chi arian yn weddill ar ôl talu eich dyledion blaenoriaeth, efallai y byddwch chi'n gallu:
sefydlu Cynllun Rheoli Dyledion (DMP) - mae hyn yn golygu y byddwch chi'n talu eich dyledion drwy gwmni annibynnol
gwneud cais am orchymyn gweinyddu - mae hyn yn golygu y byddwch chi’n talu eich dyledion drwy'r llys
sefydlu trefniant gwirfoddol unigol (IVA) - mae hyn yn golygu y byddwch chi’n talu eich dyledion drwy arbenigwr o'r enw ymarferydd ansolfedd
Hyd yn oed os oes gennych chi arian i dalu eich dyledion, gallai mynd yn fethdalwr fod yn opsiwn i chi. I wirio a yw methdaliad yn addas i chi, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Gwirio os gallwch chi gael Cynllun Rheoli Dyledion (DMP)
Os cewch chi gynllun rheoli dyledion, rydych chi’n cytuno i dalu eich dyledion gydag un taliad misol i ddarparwr cynllun rheoli dyledion. Mae darparwr y cynllun rheoli dyledion yn gwmni annibynnol. Byddant yn delio â'ch credydwyr ar eich rhan ac yn gwneud eich taliadau.
Bydd pa mor hir y bydd eich cynllun rheoli dyledion yn para yn dibynnu ar faint o ddyled sydd gennych chi a faint allwch chi ei dalu bob mis.
Gall unrhyw un gael cynllun rheoli dyledion - does dim ots faint o ddyled sydd gennych chi. Efallai y byddwch chi'n gallu cael cynllun rheoli dyledion os:
gallwch chi dalu eich dyledion blaenoriaeth ond rydych chi'n cael trafferth talu dyledion eraill fel cardiau credyd a benthyciadau
gallwch chi dalu o leiaf £5 y mis tuag at bob un o’ch dyledion
Gallwch chi newid eich cynllun rheoli dyledion unrhyw bryd, er enghraifft os yw eich incwm yn cynyddu a’ch bod yn gallu fforddio talu mwy.
Gallwch chi ganslo eich cynllun rheoli dyledion unrhyw bryd os penderfynwch chi nad dyma’r ateb dyledion iawn i chi neu os ydych chi’n cael trafferth talu. Os nad ydych chi wedi gorffen talu eich dyledion, bydd angen i chi gysylltu â’ch credydwyr i drefnu ffordd arall i dalu.
Gwirio os yw cynllun rheoli dyledion yn iawn i chi
Os ydych chi’n ystyried cael cynllun rheoli dyledion, mae’n bwysig gwybod:
nid yw’n cynnwys dyledion blaenoriaeth fel arfer, felly efallai na fydd o gymorth i chi os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch rhent neu'ch treth gyngor, er enghraifft
gall gymryd amser hir i dalu eich dyledion os mai dim ond taliadau bach rydych chi'n eu gwneud
nid oes rhaid i'ch credydwyr gytuno i'r cynllun a gallant roi'r gorau i'w dderbyn neu ofyn am fwy o arian unrhyw bryd - nid yw'n gytundeb cyfreithiol
gall eich credydwyr gysylltu â chi o hyd ynglŷn â'r dyledion sydd arnoch chi
gallai ei gwneud hi'n anoddach i chi fenthyg arian yn y dyfodol - gwiriwch sut gallai cynllun rheoli dyledion effeithio ar eich statws credyd
Cael Cynllun Rheoli Dyledion
Peidiwch â thalu am gynllun rheoli dyledion – gallwch chi gael un am ddim. Os ydych chi’n talu am eich cynllun rheoli dyledion, bydd darparwr y cynllun rheoli dyledion yn cymryd rhan o'ch taliad misol i dalu eu ffioedd. Mae hyn yn golygu y bydd llai o arian yn mynd i'ch credydwyr a bydd yn cymryd mwy o amser i chi dalu eich dyledion.
Darllenwch sut i ddewis darparwr rheoli dyledion.
Dylech chi ddefnyddio darparwr cynllun rheoli dyledion sy'n cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn unig. Gallwch chi wirio os yw darparwr cynllun rheoli dyledion wedi’i reoleiddio ar wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Darllenwch fwy am gael cynllun rheoli dyledion os ydych chi'n credu ei fod yn iawn i chi.
Gwirio os gallwch chi gael gorchymyn gweinyddu
Os oes gennych chi ddyfarniad llys sirol neu uchel lys sydd heb ei dalu, efallai y byddwch chi’n gallu cael gorchymyn gweinyddu i'ch helpu i dalu'ch dyledion. Mae hyn yn golygu eich bod yn cytuno i dalu'ch dyledion gydag un taliad misol i'r llys.
Mae’r llys yn penderfynu faint sy’n rhaid i chi ei dalu. Gall eich credydwyr wrthwynebu’r hyn y mae'r llys yn ei awgrymu ond y llys sydd â'r penderfyniad terfynol. Bydd y llys yn pasio'r arian i’ch credydwyr ac yn delio â nhw ar eich rhan.
Ni all eich credydwyr gysylltu â chi am y dyledion sydd yn y gorchymyn tra ei fod yn weithredol neu gymryd unrhyw gamau yn eich erbyn i gael eu harian yn ôl. Ni allant ychwanegu llog at y swm sydd arnoch chi iddynt chwaith.
Efallai y byddwch chi’n gallu cael gorchymyn gweinyddu os:
oes gennych chi fwy nag un ddyled
oes arnoch chi llai na £5,000
oes gennych chi ddyfarniad llys sirol neu uchel lys sydd heb ei dalu
Gwirio os yw gorchymyn gweinyddu yn addas i chi
Efallai nad gorchymyn gweinyddu yw'r ateb dyled gorau i chi. Mae'n bwysig gwybod:
gallai gymryd amser hir i chi dalu eich dyledion - gallai'r llys ei gyfyngu i 3 blynedd ond bydd hyn yn dibynnu ar eich sefyllfa
does dim rhaid i chi dalu ffi ond bydd y llys yn cymryd 10% o’ch taliad misol i dalu costau’r llys - gwiriwch gost gorchymyn gweinyddu
igallai ei gwneud hi'n anoddach i chi fenthyca arian yn y dyfodo - gwiriwch sut mae gorchymyn gweinyddu yn effeithio ar eich statws credyd
Os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent neu forgais, gallech chi dal gael eich troi allan o'ch eiddo hyd yn oed os ydych chi'n eu cynnwys yn y gorchymyn. Gwiriwch beth i’w wneud os oes gennych chi ôl-ddyledion morgais neu rent ac yn ystyried gorchymyn gweinyddu.
Cael gorchymyn gweinyddu
Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a rhestru eich holl ddyledion. Yna bydd angen i chi fynd â hi i’r llys a’i llofnodi o flaen swyddog y llys.
Gwiriwch sut i gael ffurflen gais a sut i’w llenwi.
Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf os oes angen help arnoch chi i lenwi’r ffurflen.
Gwirio os gallwch chi gael trefniant gwirfoddol unigol (IVA)
Os cewch chi drefniant gwirfoddol unigol, rydych chi'n cytuno i dalu'ch dyledion gydag un taliad misol, fel arfer dros 5 mlynedd.
Bydd eich trefniant gwirfoddol unigol yn cael ei drefnu gan arbenigwr sy’n cael ei alw’n ymarferydd ansolfedd. Fel arfer, cyfreithiwr neu gyfrifydd fydd yr ymarferydd a byddant yn delio â’ch credydwyr ar eich rhan.
Bydd yn rhaid i chi dalu’r ymarferydd ansolfedd am eu gwasanaethau. Bydd y ffioedd yn cael eu hychwanegu at eich ad-daliadau. Gall y ffioedd ar gyfer trefniant gwirfoddol unigol amrywio, ac fel arfer maent yn llawer uwch nag atebion dyled eraill. Os cewch chi drefniant gwirfoddol unigol, dylech chi sicrhau eich bod yn deall faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu i’r ymarferydd ansolfedd a phryd.
Nid oes angen i bob un o'ch credydwyr gytuno i drefniant gwirfoddol unigol er mwyn i chi gael un. Bydd angen i chi gael sêl bendith credydwyr sy'n talu o leiaf 75% o gyfanswm yr arian sydd arnoch chi. Darllenwch fwy am sut mae credydwyr yn cytuno ar gynnig trefniant gwirfoddol unigol.
Ni all eich credydwyr gysylltu â chi ynglŷn â’r dyledion sydd wedi’u cynnwys yn eich trefniant gwirfoddol unigol pan fydd yn weithredol neu gymryd unrhyw gamau yn eich erbyn i gael eu harian yn ôl.
Gall trefniant gwirfoddol unigol fod yn opsiwn addas os:
oes gennych chi fwy nag un ddyled a 2 neu fwy o gredydwyr gwahanol
oes arnoch chi fwy na £10,000
oes gennych chi incwm rheolaidd, cyson
gallwch chi dalu o leiaf £100 y mis tuag at eich dyledion
Dylech chi gael cyngor wrth eich Cyngor ar Bopeth agosaf cyn i chi geisio cael trefniant gwirfoddol unigol.
Gwirio os yw trefniant gwirfoddol unigol yn iawn i chi
Efallai nad trefniant gwirfoddol unigol yw'r ateb dyled gorau i chi. Mae'n bwysig gwybod:
gall gostio tua £5,000, a chaiff y costau ychwanegol eu hychwanegu at eich ad-daliadau misol - darllenwch am gost trefniant gwirfoddol unigol
efallai y bydd yn rhaid i chi ail-forgeisio eich tŷ tuag at y diwedd - gwiriwch sut gallai trefniant gwirfoddol unigol effeithio ar eich cartref
os na allwch chi barhau â'ch taliadau trefniant gwirfoddol unigol, mae yna risg y gallech chi gael eich gwneud yn fethdalwr - gwiriwch beth i’w wneud os oes gennych broblemau gyda threfniant gwirfoddol unigol
efallai y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio eich cynilion a'ch arian pensiwn i helpu i dalu'ch dyledion - gwiriwch sut gallai trefniant gwirfoddol unigol effeithio ar eich cyfrif banc, eich cynilion a’ch pensiwn
mae trefniant gwirfoddol unigol yn cwmpasu'r rhan fwyaf o ddyledion ond ni fydd yn cynnwys dyledion fel ôl-ddyledion cynhaliaeth plant na benthyciadau myfyrwyr - gwiriwch pa ddyledion y gall trefniant gwirfoddol unigol eu cwmpasu
gallai fod yn anoddach i chi fenthyca arian tra bod gennych chi drefniant gwirfoddol unigol - gwiriwch sut mae trefniant gwirfoddol unigol yn effeithio ar eich statws credyd
Cael trefniant gwirfoddol unigol (IVA)
Gall trefniant gwirfoddol unigol gael effaith fawr ar eich bywyd. Mae’n bwysig i chi gael cyngor cyn i chi gael trefniant gwirfoddol unigol. Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf - gallant eich helpu i gymharu eich opsiynau a phenderfynu a yw trefniant gwirfoddol unigol yn iawn i chi.
Os ydych chi'n credu, ar ôl cael cyngor, bod trefniant gwirfoddol unigol yn iawn i chi, bydd angen i chi ddod o hyd i ymarferydd ansolfedd arbenigol. Ni fyddwch chi’n gallu sefydlu trefniant gwirfoddol unigol ar eich pen eich hun. Gallwch chi gysylltu â gwahanol ymarferwyr i gymharu costau a dod o hyd i'r fargen orau i chi.
Mae’n werth dod o hyd i arbenigwr yn agos at ble rydych chi'n byw oherwydd mae'n well cwrdd â nhw wyneb yn wyneb fel arfer.
Os ydych chi'n siŵr bod trefniant gwirfoddol unigol yn iawn i chi a’ch bod chi wedi cael cyngor i’ch helpu i benderfynu, gallwch chi ddod o hyd i ymarferydd ansolfedd arbenigol yn eich ardal chi ar GOV.UK
Bydd angen i chi baratoi ar gyfer eich cyfarfod cyntaf. Gwiriwch beth sydd ei angen arnoch chi cyn i chi gwrdd â’ch ymarferydd ansolfedd.
Os nad oes gennych chi lawer o arian neu ddim arian i dalu eich dyledion
Os nad oes gennych chi unrhyw arian yn weddill ar ôl talu eich dyledion blaenoriaeth a chostau byw, neu os mai dim ond swm bach sydd gennych chi, gwiriwch os gallwch chi gynyddu eich incwm. Dylech chi hefyd wirio os gallwch chi leihau eich costau byw.
Os nad oes gennych chi ddigon o arian o hyd i dalu eich dyledion efallai y byddwch chi’n gallu:
cael Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
gwneud cais i fod yn fethdalwr
Gwirio os gallwch chi gael Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO)
Os cewch chi orchymyn rhyddhau o ddyled, ni fyddwch chi’n talu dim tuag at y dyledion yn y gorchymyn am 12 mis. Ar ddiwedd y 12 mis, ni fyddwch chi'n gyfrifol am y dyledion hynny mwyach. Tra bod y gorchymyn rhyddhau o ddyled yn weithredol, ni all eich credydwyr ofyn i chi dalu unrhyw ddyledion sydd wedi'u cynnwys ynddo na dechrau unrhyw gamau yn eich erbyn.
Efallai y byddwch chi’n gallu cael gorchymyn rhyddhau o ddyled os:
oes arnoch chi £50,000 neu lai
oes gennych chi £75 neu lai yn weddill bob mis ar ôl talu eich costau byw
nad ydych chi’n berchen ar eich cartref
oes gennych chi £2,000 neu lai o gynilion ac asedau eraill
nad ydych chi wedi cael gorchymyn rhyddhau o ddyled arall yn ystod y 6 blynedd ddiwethaf
rydych chi wedi byw neu weithio yng Nghymru neu Loegr yn y 3 blynedd ddiwethaf
Os oes gennych chi gerbyd sy'n werth llai na £4,000, does dim rhaid i chi ei gynnwys yn eich asedau. Os yw eich cerbyd yn werth mwy na £4,000, does dim rhaid i chi ei gynnwys yn eich asedau os yw wedi'i addasu oherwydd bod gennych chi anabledd. Dim ond 1 cerbyd y gallwch chi ei eithrio o'ch asedau ac ni allwch ei eithrio os ydych chi'n ei ddefnyddio ar gyfer gwaith yn unig.
Efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anoddach cael gorchymyn rhyddhau o ddyled os ydych chi, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi gwneud taliadau i un credydwr ond wedi anwybyddu eraill, wedi rhoi pethau gwerthfawr sy'n eiddo i chi i ffwrdd, neu wedi gwerthu pethau sy'n eiddo i chi yn rhatach na’u gwerth.
Os daw i’r amlwg eich bod chi wedi gwneud eich sefyllfa’n waeth, neu wedi ymddwyn yn anonest, efallai y byddwch yn cael gorchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled (DRRO). Bydd gorchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled yn ymestyn eich gorchymyn rhyddhau o ddyled, felly mae'r cyfyngiadau'n para'n hirach na 12 mis. Darllenwch fwy am orchmynion cyfyngu rhyddhau o ddyled.
Gwirio os yw gorchymyn rhyddhau o ddyled yn iawn i chi
Os ydych chi’n ystyried cael gorchymyn rhyddhau o ddyled, mae’n bwysig gwybod:
gallai eich cais gael ei wrthod os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf neu'n rhoi gwybodaeth ychwanegol pan ofynnir i chi amdani - beth i’w wneud os yw eich gorchymyn rhyddhau o ddyled yn cael ei wrthod
ni fydd yn talu pob dyled - bydd dal yn rhaid i chi dalu ôl-ddyledion cynhaliaeth plant, dirwyon llys, benthyciadau myfyrwyr, benthyciadau’r gronfa gymdeithasol, iawndal am anaf personol ac unrhyw ddyledion a achosir gan dwyll
os oes gennych ôl-ddyledion rhent mewn gorchymyn rhyddhau o ddyled, ni all eich landlord eich gorfodi chi i dalu beth sydd arnoch chi, ond gallant dal geisio eich troi allan
gallai fod yn anoddach benthyca arian yn y dyfodol - gwiriwch sut bydd gorchymyn rhyddhau o ddyled yn effeithio ar eich statws credyd
bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y credydwr am eich gorchymyn rhyddhau o ddyled os ydych chi eisiau benthyca mwy na £500 yn ystod y 12 mis
ni fyddwch yn gallu sefydlu eich cwmni eich hun na bod yn gyfarwyddwr cwmni arall, hyd yn oed o dan enw gwahanol, heb ganiatâd y llys
Os cewch chi orchymyn rhyddhau o ddyled ond bod eich sefyllfa'n gwella yn ystod y 12 mis - er enghraifft os bydd eich incwm yn cynyddu neu os cewch chi daliad am fudd-daliadau sydd wedi’u hôl-ddyddio, gellir stopio’r gorchymyn rhyddhau o ddyled. Os ydych chi wedi talu ffi i wneud cais, ni fyddwch chi'n ei chael yn ôl. Gwiriwch beth i’w wneud os yw eich amgylchiadau’n newid.
Cael gorchymyn rhyddhau o ddyled
Bydd angen i chi wneud cais drwy gynghorydd dyled awdurdodedig, sy’n cael ei alw’n 'gyfryngwr cymeradwy'. Ni fyddwch chi’n gallu gwneud cais am orchymyn rhyddhau o ddyled ar eich pen eich hun. Dylent eich helpu chi i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud cais am orchymyn rhyddhau o ddyled. Mae'n rhaid iddynt hefyd wneud y canlynol:
gwirio eich bod yn bodloni'r rheolau i gael gorchymyn rhyddhau o ddyled
egluro sut gallai gorchymyn rhyddhau o ddyled effeithio arnoch chi
egluro eich cyfrifoldebau pan fydd gennych chi orchymyn rhyddhau o ddyled
gwneud cais ar eich rhan
Gwiriwch sut i ddod o hyd i gynghorydd dyled awdurdodedig a chael gorchymyn rhyddau o ddyled.
Gwirio os gallwch chi wneud cais i fod yn fethdalwr
Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud cais i fod yn fethdalwr os na allwch chi dalu eich dyledion a bod y swm sydd arnoch chi’n fwy na gwerth y pethau rydych chi’n berchen arnynt.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 22 Chwefror 2019