C3: paratoi a choginio pryd bwyd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Beth mae’r cwestiwn hwn yn ei olygu

Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi:

  • baratoi pryd o fwyd syml i un

  • ei dwymo ar hob neu mewn popty microdon tan ei fod yn ddiogel i’w fwyta 

Rhaid i’r hob neu’r popty microdon fod ar uchder eich canol, felly does gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ddim diddordeb mewn unrhyw anawsterau rydych chi’n eu cael wrth blygu i lawr.

Mae’n annhebygol bod eich syniad chi o bryd o fwyd syml yr un fath â syniad y llywodraeth. Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol i seilio’ch atebion ar yr enghraifft hon: pilio, torri a berwi 2 daten fawr, agor tun o india-corn a ffrio darn bach o gig neu bysgodyn.

Dydy’r cwestiwn hwn ddim yn ymwneud ag a ydych chi angen bwyta deiet arbennig. Mae’n ymwneud â’ch gallu i gyflawni tasgau sy’n angenrheidiol i baratoi a choginio pryd o fwyd syml, fel troi tapiau neu ddefnyddio popty yn ddiogel.

Cwestiwn 3a

"Ydych chi’n defnyddio cymorth neu ddyfais i baratoi neu goginio pryd o fwyd syml?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Dylech chi dicio ‘ydw’ siẃr o fod:

  • os ydych chi angen eistedd wrth baratoi neu goginio – mae stôl neu rywbeth tebyg yn cyfrif fel cymorth

  • os oes gennych chi aelod prosthetig

  • os ydych chi’n cymryd seibiant wrth baratoi neu goginio

  • os ydych chi’n defnyddio cymorth naill ai drwy’r amser neu weithiau

Cwestiwn 3b

"Ydych chi angen help gan berson arall i baratoi neu goginio pryd o fwyd syml?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Dylech chi dicio ‘ydw’ siŵr o fod:

  • os ydych chi’n debygol o dangoginio neu orgoginio’ch bwyd

  • os oes rhywun yn eich helpu, eich atgoffa, eich annog, eich goruchwylio neu’n eich cynorthwyo chi

  • os oes rhywun yn aros gyda chi neu’n cadw llygad arnoch chi i wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel

  • os ydych chi’n wynebu risg o gael anaf, fel llosgi neu sgaldio’ch hun

  • os ydych chi angen help i ddarllen neu ddeall rhifau – er enghraifft, wrth ddilyn ryseitiau syml neu ddefnyddio amseryddion

  • os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael

Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu

Pwysig

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy esbonio’ch sefyllfa yn y bocs.

Dyma’ch cyfle i gyflwyno darlun go iawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i baratoi a choginio pryd o fwyd. Byddan nhw’n defnyddio hyn i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.

Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn i esbonio pa help rydych chi ei angen ond nad ydych chi’n ei gael.

Cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio

Rhestrwch yr holl gymhorthion rydych chi’n eu defnyddio, gan gynnwys pethau fel stolion neu aelodau prosthetig.

Peidiwch byth â hepgor cymorth o’ch rhestr am eich bod chi’n meddwl ei fod yn amlwg, a chofiwch:

  • esbonio sut maen nhw’n eich helpu chi

  • esbonio beth fyddai’n digwydd os na fyddech chi’n eu defnyddio nhw

  • nodi’n glir os yw gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cynghori chi i’w defnyddio nhw

  • cynnwys unrhyw rai a fyddai’n eich helpu chi pe bai gennych chi nhw

  • cynnwys unrhyw rai y mae’ch cyflwr yn eich atal chi rhag eu defnyddio nhw

Werth gwybod

Esboniwch os ydych chi’n defnyddio cymorth i leihau teimladau meddyliol neu gorfforol (fel poen, anghysur neu flinder) wrth baratoi neu goginio pryd o fwyd. Nodwch yn glir os mai lleihau’r teimlad hwnnw yn unig y mae’r cymorth hwn, a’ch bod chi’n dal i deimlo rhywbeth.

Rhywun yn eich atgoffa, eich annog, eich goruchwylio neu’n eich cynorthwyo chi

Dywedwch yn glir os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael.

Os ydych chi’n cael help, dywedwch pwy sy’n eich helpu chi (er enghraifft, perthynas neu ffrind) ac esboniwch:

  • pam maen nhw’n helpu

  • sut maen nhw’n helpu

  • pa mor aml maen nhw’n helpu 

Dywedwch yn glir os ydych chi angen iddyn nhw:

  • eich atgoffa chi i baratoi neu goginio pryd o fwyd

  • esbonio sut i baratoi neu goginio pryd o fwyd

  • eich helpu chi yn gorfforol

  • helpu gyda rhan o dasg neu’r dasg i gyd

  • eich helpu chi drwy’r amser neu weithiau’n unig (os yw hi’n rhy anodd i chi ddarogan hyn – dywedwch hynny)

  • bod wrth law – er enghraifft, help dim ond os ydych chi ei angen neu i wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel 

Cofiwch esbonio beth sy’n digwydd (neu a fyddai’n digwydd) os na fyddwch chi’n cael help. Er enghraifft:

  • rydych chi’n fwy tebygol o gael damwain neu anaf

  • rydych chi’n fwy tebygol o ddioddef symptomau corfforol neu feddyliol fel poen, anghysur neu flinder

  • bydd hi’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser i chi baratoi neu goginio pryd o fwyd o gymharu â rhywun heb eich cyflwr

Diogelwch: damweiniau neu risg o gael anaf

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi wedi anafu’ch hun neu rywun arall, neu os ydych chi’n debygol o wneud hynny, wrth baratoi neu goginio pryd o fwyd. Er enghraifft, dywedwch wrthyn nhw os ydych chi’n debygol o losgi neu dorri’ch hun, disgyn neu dangoginio neu orgoginio’r bwyd. Gofalwch eich bod chi’n dweud wrthyn nhw os ydych chi’n credu y gallech chi gychwyn tân.

Dylech chi sôn am y canlynol hefyd:

  • pa mor aml mae risg yn codi, hyd yn oed os nad yw’n codi’n rheolaidd

  • pa mor wael y gallech chi gael eich niweidio

  • a oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i atal hynny rhag digwydd 

Er enghraifft, efallai eich bod chi’n cael ffitiau o bryd i’w gilydd ond eu bod nhw’n gallu cychwyn unrhyw bryd, yn gwbl ddirybudd. Does dim byd y gallwch chi ei wneud i baratoi eich hun ac, os byddech chi’n cael ffit wrth goginio, gallech chi anafu’ch hun yn wael.

Nodwch yn glir os yw’r risg yn codi oherwydd:

  • na chawsoch chi help na goruchwyliaeth

  • eich bod chi’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio

  • eich bod chi’n drysu

Yr amser y mae’n ei gymryd

Meddyliwch a yw’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser i chi baratoi neu goginio pryd o fwyd o gymharu â rhywun heb eich cyflwr.

Ceisiwch esbonio faint o amser mae’n ei gymryd. Mae’n iawn i chi amcangyfrif, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam – er enghraifft, am fod eich cyflwr yn anwadal.

Cofiwch:

  • gynnwys cyfnodau seibiant os ydych chi eu hangen

  • esbonio os yw’n cymryd mwy fyth o amser i chi ar ddiwrnod gwael

  • dweud os yw’n cymryd mwy o amser os oes rhaid i chi wneud rhywbeth dro ar ôl tro

Diwrnodau da a diwrnodau gwael

Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.

Nodwch yn glir:

  • os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael

  • pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael

  • os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio

  • sut mae eich anawsterau a’ch symptomau yn amrywio ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael – er enghraifft, rydych chi’n methu â gorffen paratoi pryd o fwyd neu rydych chi ond yn defnyddio llysiau wedi’u torri ymlaen llaw 

Mae’n iawn i chi amcangyfrif eich diwrnodau gwael, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif - esboniwch pam. Er enghraifft, gan fod eich cyflwr yn anwadal.

Symptomau fel poen neu flinder

Esboniwch os yw’r anawsterau rydych chi’n eu cael wrth baratoi neu goginio pryd o fwyd yn achosi unrhyw symptomau corfforol neu feddyliol i chi (fel poen, anghysur, blinder neu ddiffyg brwdfrydedd).

Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol esbonio’r symptomau a rhoi enghraifft, gan gynnwys:

  • pa mor aml rydych chi’n eu cael nhw

  • am faint maen nhw’n para

  • os ydyn nhw’n debygol o gynyddu’r risg o ddamwain

  • os ydyn nhw’n effeithio ar eich gallu i gyflawni unrhyw un o’r gweithgareddau eraill ar eich ffurflen hawlio PIP 

Enghraifft

Enghraifft

Mae Brian yn gallu paratoi ei frecwast heb help, ond am fod hyn yn ei flino (yn gorfforol ac yn feddyliol), dydy e ddim yn gallu paratoi ei ginio. Ar ddiwrnod gwael (tua dwywaith yr wythnos), yn aml bydd wedi blino gormod i wisgo neu fynd allan.

Help gyda chwestiwn 4: bwyta ac yfed

Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.