C6: ymolchi a mynd i’r bath neu’r gawod

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Beth mae’r cwestiwn hwn yn ei olygu

Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud ag a yw’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi ymolchi neu fynd i’r bath neu gawod safonol nad yw wedi’i addasu mewn unrhyw ffordd.

Mae’n ymwneud hefyd ag a ydych chi’n defnyddio unrhyw gymhorthion neu declynnau i’ch helpu chi i ymolchi neu fynd i’r bath.

Cwestiwn 6a

"A ydych chi’n defnyddio cymorth neu declyn i’ch helpu chi i ymolchi neu fynd i’r bath, gan gynnwys defnyddio bath neu gawod?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Dylech dicio “ydw” siŵr o fod os ydych chi’n defnyddio:

  • rheilen

  • teclyn codi i’ch helpu chi i fynd i mewn ac allan o’r bath

  • sedd gawod

  • sbwng â choes hir

  • unrhyw beth arall sy’n eich helpu chi i ymolchi neu fynd i’r bath

Dylech dicio "ydw" hefyd os ydych chi angen defnyddio rhywbeth i’ch helpu chi ond nad ydych chi’n ei gael ar hyn o bryd.

Cwestiwn 6b

"Ydych chi angen help gan unrhyw berson arall i ymolchi neu fynd i’r bath/gawod?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Dylech dicio “ydw” siŵr o fod os ydych chi angen rhywun i’ch helpu chi:

  • i fynd i mewn ac allan o’r bath neu’r gawod

  • i olchi ardal benodol, er enghraifft, uwch na’ch canol

  • os ydych chi’n golchi gormod, er enghraifft, os oes gennych chi gyflwr fel OCD

  • os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi wedi glanhau eich hun yn iawn 

Dylech dicio "ydw" hefyd os ydych chi angen help gan berson arall ond nad ydych chi’n ei gael ar hyn o bryd.

Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu

Pwysig

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy esbonio eich sefyllfa yn y bocs.

Dyma’ch cyfle i roi darlun go iawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i ymolchi neu fynd i’r bath/gawod. Byddan nhw’n defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.

Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn hefyd i esbonio pa help rydych chi ei angen ond nad ydych chi’n ei gael.

Werth gwybod

Os yw gwneud y gweithgarwch hwn yn peri problemau i chi gyda gweithgareddau eraill ar y ffurflen PIP, cofiwch ysgrifennu am eich anawsterau yn y cwestiwn perthnasol.

Cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio

Rhestrwch y cymhorthion a’r teclynnau rydych chi’n eu defnyddio i’ch helpu chi i ymolchi neu fynd i’r bath/gawod, gan gynnwys pethau fel rheiliau a sbwng â choes hir.

Peidiwch byth â hepgor unrhyw gymhorthion o’ch rhestr am eich bod chi’n meddwl eu bod nhw’n amlwg, a chofiwch:

  • esbonio sut maen nhw’n eich helpu chi

  • esbonio beth fyddai’n digwydd os na fyddech chi’n eu defnyddio nhw

  • nodi’n glir os yw gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cynghori chi i’w defnyddio nhw

  • cynnwys unrhyw gymhorthion y mae’ch cyflwr yn eich atal chi rhag eu defnyddio nhw

Rhywun yn eich atgoffa, eich annog, eich goruchwylio neu’n eich helpu chi

Nodwch yn glir os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael.

Os ydych chi’n cael help, dywedwch pwy sy’n eich helpu chi (er enghraifft, gofalwr neu ffrind) ac esboniwch:

  • pam maen nhw’n eich helpu chi

  • sut maen nhw’n helpu, er enghraifft, efallai eu bod nhw’n eich helpu chi i olchi rhannau penodol o’ch corff

  • pa mor aml maen nhw’n helpu

Dywedwch yn glir os ydych chi angen iddyn nhw:

  • eich atgoffa chi i ymolchi neu fynd i’r bath

  • eich helpu chi yn gorfforol i olchi rhannau penodol o’ch corff (cofiwch ddweud pa rannau, er enghraifft, uwch na’ch canol)

  • eich helpu drwy’r amser neu weithiau, neu dywedwch os yw’n rhy anodd i chi ragfynegi

  • bod wrth law – er enghraifft, i wneud yn siŵr nad ydych chi’n llithro yn y bath/gawod

Cofiwch esbonio beth sy’n digwydd (neu beth a fyddai’n digwydd) os nad ydych chi’n cael help. Er enghraifft:

  • rydych chi’n fwy tebygol o gael damwain neu anaf

  • rydych chi’n fwy tebygol o ddioddef symptomau corfforol neu feddyliol fel poen, anghysur neu flinder

  • bydd hi’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser i chi ymolchi neu fynd i’r bath o gymharu â rhywun heb eich cyflwr

Diogelwch: damweiniau neu risg o gael anaf

Esboniwch os ydych chi erioed wedi:

  • llithro neu ddisgyn wrth fynd i mewn neu allan o’r bath neu’r gawod

  • methu â sylwi ar berygl, er enghraifft, dydych chi ddim yn gwirio tymheredd y dŵr cyn mynd i mewn i’r bath neu’r gawod

  • cael sgil-effeithiau o’ch meddyginiaeth a wnaeth i chi deimlo’n benysgafn neu’n swrth ac sy’n ei gwneud hi’n beryglus i chi ymolchi neu fynd i’r bath 

Nodwch yn glir os cododd y problemau hyn oherwydd:

  • na chawsoch chi help neu eich goruchwylio

  • eich bod chi’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio

  • eich bod chi’n drysu

Dylech ddweud hefyd os ydych chi’n meddwl y gallai hyn ddigwydd yn y dyfodol. Dylech sôn:

  • pa mor aml mae risg yn codi, hyd yn oed os nad yw’n codi’n rheolaidd

  • pa mor wael y gallech chi gael eich niweidio

  • a oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i atal y risg rhag codi

Er enghraifft, efallai eich bod chi’n cael ffitiau sy’n digwydd yn anaml ond sy’n gallu cychwyn unrhyw bryd yn gwbl ddirybudd. Does dim y gallwch chi ei wneud i baratoi’ch hun a, phe baech chi’n cael ffit tra’ch bod chi yn y bath, gallech wneud niwed mawr i chi’ch hun.

Yr amser mae’n ei gymryd

Meddyliwch a yw’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser i chi ymolchi neu fynd i’r bath/gawod o gymharu â rhywun heb eich cyflwr.

Ceisiwch esbonio faint o amser mae’n ei gymryd. Mae’n iawn i chi amcangyfrif, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam – er enghraifft, am fod eich cyflwr yn anwadal.

Cofiwch:

  • gynnwys yr amser y mae’n ei gymryd i fynd i mewn ac allan o’r bath neu’r gawod

  • esbonio os yw’n cymryd mwy fyth o amser i chi ar ddiwrnod gwael

Diwrnodau da a diwrnodau gwael

Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.

Nodwch yn glir:

  • os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael

  • pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael

  • os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio

  • sut mae eich anawsterau a’ch symptomau yn amrywio ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael

Symptomau fel poen, diffyg anadl neu flinder

Esboniwch a yw’r anawsterau rydych chi’n eu cael wrth ymolchi a mynd i’r bath yn achosi unrhyw symptomau corfforol neu feddyliol i chi (fel poen, anghysur, diffyg anadl, blinder neu ddiffyg brwdfrydedd).

Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol esbonio’r symptomau a rhoi enghraifft, gan gynnwys:

  • pa mor aml rydych chi’n eu cael nhw

  • am faint maen nhw’n para

  • os ydyn nhw’n debygol o gynyddu’r risg o ddamwain

  • os ydyn nhw’n effeithio ar eich gallu i gyflawni unrhyw un o’r gweithgareddau eraill ar eich ffurflen hawlio PIP

Enghraifft o ateb i gwestiwn 6

Enghraifft

“Rwy’n ei chael hi’n anodd iawn mynd i’r bath ar fy mhen fy hun. Rwy’n teimlo’n isel iawn am y rhan fwyaf o’r wythnos – tua 5 o’r 7 diwrnod fel arfer – a dydw i ddim yn codi o’r gwely rai o’r diwrnodau hynny.

“Mae fy ngŵr yn gweithio, felly rydw i fel arfer ar fy mhen fy hun yn ystod y dydd a dyw hi ddim yn ddiogel i mi gael bath. Mae’n rhaid i mi aros iddo ddod adref.

“Unwaith, roeddwn i mor isel, fe lenwais i’r bath heb feddwl am wirio tymheredd y dŵr cyn i mi fynd i mewn. Roedd y dŵr yn ferwedig ac fe losgais fy mhigwrn a’m troed.

“Hefyd, mae fy meddyginiaeth yn gwneud i mi deimlo’n benysgafn, felly byddai’n beryglus i mi fynd i mewn ac allan o’r bath ar fy mhen fy hun. Y tro diwethaf i mi gael bath ar fy mhen fy hun, llithrais a tharo fy mhen.”

Help gyda chwestiwn 7: rheoli anghenion toiled

Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.