C15: gwybodaeth ychwanegol
Mae cwestiwn 15 yn dudalen wag. Gallwch ei defnyddio os byddwch chi’n rhedeg allan o le ar y ffurflen hawlio.
Gallwch ei defnyddio hefyd i roi unrhyw wybodaeth ychwanegol rydych chi’n teimlo sy’n angenrheidiol. Does dim y fath beth â’r math cywir neu anghywir o wybodaeth i’w chynnwys, ond mae’n syniad da defnyddio’r gofod hwn i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau:
- os oedd rhaid i rywun lenwi’r ffurflen ar eich rhan ac esbonio pam
- os i chi lenwi’r ffurflen yn araf neu gyda phoen
- os gwnaeth llenwi’r ffurflen achosi pryder neu straen i chi
- os ydych chi’n cynnwys tystiolaeth feddygol i gefnogi’ch hawliad – er enghraifft, cynllun gofal
- os oes unrhyw ffrindiau neu deulu yn gofalu amdanoch chi – gallwch chi gynnwys eu manylion cyswllt os ydych chi’n dymuno, ond cofiwch ofyn iddyn nhw yn gyntaf
Sylwadau gan bobl eraill
Os oes gan eich gofalwr, gweithiwr iechyd proffesiynol, ffrindiau neu deulu unrhyw wybodaeth y credwch y bydd yn helpu’ch cais PIP, gallan nhw ei hychwanegu yma.
Gofalwch fod eu sylwadau’n ymwneud â sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi gyflawni’r gweithgareddau a nodir yng nghwestiynau 3 i 15. Y rheswm am hyn yw bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn seilio ei phenderfyniad ar a ydych chi’n cael PIP ar y gweithgareddau hyn.
Mae’n iawn i chi ysgrifennu ar ddalen ar wahân os ydych chi angen mwy o le – defnyddiwch ein templed [ 0.78 kb]. Cofiwch roi’r ddalen hon ynghlwm wrth eich ffurflen hawlio a chynnwys eich enw, eich rhif Yswiriant gwladol a rhif y cwestiwn.