C2: rhestru eich cyflyrau, eich meddyginiaethau a’ch triniaethau
Cwestiwn 2a
Rhestrwch yr holl gyflyrau iechyd ac anableddau corfforol a meddyliol sydd gennych chi a’r dyddiad y gwnaethon nhw gychwyn.
Does dim angen i chi fynd i fanylder ynghylch sut mae’ch cyflyrau yn effeithio arnoch chi – gallwch ychwanegu’r manylion hyn yng nghwestiynau 3 i 15.
Does dim angen i chi fod yn rhy benodol ynglŷn â’r dyddiad os nad ydych chi’n siŵr – bydd y flwyddyn y cychwynnodd eich cyflwr yn ddigon.
Enghraifft
Cyflwr iechyd neu anabledd | Y flwyddyn y cychwynnodd |
Agoraffobia | 2012 |
Arthritis | 2009 |
Cwestiwn 2b
Rhestrwch yr holl dabledi, meddyginiaethau, triniaethau a therapïau rydych chi’n eu defnyddio ac unrhyw rai rydych chi ar fin dechrau eu defnyddio.
Mae hyn yn cynnwys unrhyw beth rydych chi’n talu amdano eich hun (er enghraifft, meddyginiaethau lleddfu poen) ac unrhyw beth sydd wedi’i ragnodi i chi.
Os oes gennych chi restr o’ch presgripsiynau, gallwch chi ei hanfon hi aton ni gyda’ch ffurflen hawlio – ysgrifennwch eich enw a’ch rhif Yswiriant Gwladol arni.
Pwysig
Does dim rhaid i chi gofnodi pa mor aml rydych chi’n cymryd y feddyginiaeth, maint y dos na’r rheswm rydych chi’n cymryd y feddyginiaeth honno.
Os nad ydych chi’n siŵr a yw tabled, meddyginiaeth, triniaeth neu therapi yn berthnasol, y peth gorau i’w wneud yw ei gynnwys beth bynnag.
Sgil-effeithiau meddyginiaeth
Os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth i’ch helpu chi gyda sgil-effeithiau meddyginiaeth arall, dylech ei chynnwys.
Hefyd, os oes yna feddyginiaeth y dylech chi fod yn ei chymryd ond nad ydych chi’n gallu gwneud hynny oherwydd y sgil-effeithiau, dylech ei chynnwys yma hefyd.
Enghraifft
Mae Mary’n cymryd tabled lleddfu poen ar gyfer arthritis, ac mae’r dabled hon yn gwneud iddi deimlo’n sâl. Rhagnododd ei meddyg dabled iddi i’w hatal hi rhag teimlo’n sâl.