Help i lenwi’ch ffurflen hawlio PIP

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Defnyddiwch ein canllaw ar y Taliad Annibynnol Personol (PIP) i’ch helpu chi i lenwi’ch ffurflen hawlio PIP. Mae cyngor ar gyfer pob cwestiwn, gan gynnwys: 

  • beth mae’r cwestiynau yn ei olygu

  • beth i ysgrifennu amdano yn eich atebion

  • enghreifftiau o atebion y gall pobl eu rhoi

  • help i esbonio sut mae’ch salwch neu’ch anabledd yn effeithio arnoch chi

Mae PIP yn seiliedig ar sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi. Nid yw’n seiliedig ar eich salwch neu’ch anabledd penodol, na’ch meddyginiaeth.

Mae’n bwysig iawn meddwl am bob cwestiwn. Bydd ein tudalennau help yn eich helpu chi i benderfynu a oes angen i chi ateb pob cwestiwn.

Help gyda chwestiwn 1: rhestru’ch gweithwyr iechyd proffesiynol

Help gyda chwestiwn 2: rhestru eich cyflyrau, eich meddyginiaeth a’ch triniaethau

Help gyda chwestiwn 3: paratoi a choginio bwyd

Help gyda chwestiwn 4: bwyta ac yfed

Help gyda chwestiwn 5: rheoli triniaethau

Help gyda chwestiwn 6: ymolchi a mynd i’r bath/i’r gawod

Help gyda chwestiwn 7: rheoli anghenion toiled

Help gyda chwestiwn 8: gwisgo a dadwisgo

Help gyda chwestiwn 9: cyfathrebu

Help gyda chwestiwn 10: darllen

Help gyda chwestiwn 11: cymysgu gydag eraill

Help gyda chwestiwn 12: gwneud penderfyniadau ariannol

Help gyda chwestiwn 13: mynd allan

Help gyda chwestiwn 14: symud o gwmpas

Help gyda chwestiwn 15: gwybodaeth ychwanegol

Mae’n iawn i chi ysgrifennu’ch gwybodaeth ychwanegol ar ddalen ar wahân – defnyddiwch ein templed 802 Bytes

Cofiwch lynu’r ddalen hon wrth eich ffurflen hawlio a chynnwys eich enw, eich rhif Yswiriant Gwladol a rhif y cwestiwn.

Mae’n gallu bod yn syniad da cadw copi o’ch ffurflen. Gallwch fynd â’r copi gyda chi i’ch asesiad a’i ddefnyddio i wneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio rhywbeth rydych chi eisiau ei ddweud.

Cael help am ddim gan asiantaeth gymorth

Os ydych chi’n cael problemau a’ch bod chi angen help i lenwi’r ffurflen, gallwch gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol yng Nghymru a Lloegr neu yn yr Alban. Gallan nhw eich helpu i lenwi’r ffurflen a rhoi cyngor i chi ar:

  • beth mae’r cwestiynau yn ei olygu a beth maen nhw’n gofyn amdano

  • pa fath o bethau y gallwch chi ei ddweud ar y ffurflen a beth allwch chi ei hepgor

  • beth i’w wneud os ydych chi’n ei chael hi’n anodd llenwi’r ffurflen oherwydd eich anabledd neu’ch cyflwr iechyd 

Gallwch gael help gan eich asiantaeth anabledd neu gymorth iechyd meddwl leol hefyd. Dewch o hyd i:

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 16 Chwefror 2022