Asesiad wyneb yn wyneb

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r dudalen hon yn dweud sut mae llenwi’r adran asesiad wyneb yn wyneb ar eich ffurflen.

Am gymorth i baratoi ar gyfer eich asesiad wyneb yn wyneb, ewch i Paratoi ar gyfer eich asesiad meddygol ESA.

Mae’r cwestiwn ar dudalennau 19 a 20 y ffurflen – dyma sut maen nhw'n edrych

Trefnu’r asesiad

Gelwir yr asesiad wyneb yn wyneb yn asesiad gallu i weithio.

Bydd yr asesiad gyda rhywun fel meddyg, nyrs neu ffisiotherapydd.

Gofynnir i chi roi rhifau ffôn yn ystod y dydd a ffôn symudol fel y gellir cysylltu â chi i drefnu asesiad wyneb yn wyneb. Mae hwn ar waelod tudalen 16 y ffurflen.

Os nad ydych chi’n defnyddio’r ffôn

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gallu defnyddio’r ffôn neu nad ydych chi’n hoffi ei ddefnyddio. Gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau:

  • ffonio eich gofalwr neu rywun arall i drefnu’r asesiad

  • ysgrifennu atoch chi yn hytrach na’ch ffonio - dylech gynnwys y geiriau “yn ysgrifenedig” yn y gofod sy’n gofyn i chi am eich rhif ffôn

Os ydych chi angen cyfieithydd

Os nad ydych chi’n gallu siarad neu ddeall Cymraeg neu Saesneg, gallwch gael cyfieithydd gyda chi yn yr asesiad.

Ticiwch y bocs ar y ffurflen os oes gennych chi eich cyfieithydd eich hun, er enghraifft perthynas – mae’n rhaid iddynt fod yn 16 oed o leiaf.

Dyddiadau na allwch chi fynd i asesiad

Gofalwch eich bod yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os oes dyddiadau na allwch yn sicr fynd i asesiad, er enghraifft oherwydd apwyntiad meddyg neu ysbyty.

Dylech eu rhestru yn y bocs ar dudalen 20.

Os ydych chi’n mynd â chyfieithydd, gofalwch gadarnhau eu bod ar gael ar y dyddiadau hefyd.

Unrhyw gymorth arall sydd ei angen arnoch

Os ydych chi angen arwyddwr iaith Arwyddion Prydain neu Makaton, meddalwedd lleferydd-i-destun neu lawlyfr byddar/dall, nodwch hyn ar y ffurflen.

Dylech ddweud hefyd os gallech chi fod angen cymorth arall ar gyfer yr asesiad, er enghraifft:

  • i gyrraedd yr asesiad os oes yn rhaid i chi deithio i ardal nad ydych chi’n gyfarwydd â hi

  • hefyd i fynd i fyny ac i lawr y grisiau, os nad yw eich asesiad ar y llawr daear neu nad oes lifft

  • dod allan o gadair mewn ystafell aros

  • symud o ystafell i ystafell

Camau nesaf

Gwybodaeth arall

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.