C16 - ymdopi â sefyllfaoedd cymdeithasol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 17 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

Sut mae ateb y cwestiwn

Mae’r cwestiwn yma’n gofyn sut rydych chi’n ymdopi â chyfarfod a siarad â phobl.

Mae’n gofyn ydych chi’n cael trafferth ymwneud â phobl, neu os yw cyfarfod a siarad â phobl yn achosi pryder mawr i chi.

Efallai mai dyma un o’r rhesymau pam rydych chi’n cael trafferth:

  • mae gennych chi gyflwr fel awtistiaeth sy’n golygu ei bod hi’n anodd ymwneud â phobl

  • mae gennych chi anabledd dysgu

  • mae gennych chi broblemau gyda dicter neu ymddygiad ymosodol

  • mae gennych chi gyflwr iechyd meddwl

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ceisio deall:

  • ydych chi’n cael trafferth gyda phobl rydych chi’n eu hadnabod

  • ydych chi’n cael trafferth gyda phobl dydych chi ddim yn eu hadnabod

  • pa mor aml ydych chi’n cael problemau - dryw’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser

“Allwch chi gwrdd â phobl rydych yn eu hadnabod heb deimlo'n rhy bryderus neu ofnus?”

  • Na

  • Gallaf

  • Mae’n amrywio

Gallai hyn fod yn rhywun rydych chi wedi ei gyfarfod o’r blaen fel eich meddyg, eich cymdogion neu ffrindiau - nid dim ond pobl rydych chi’n agos atyn nhw.

Peidiwch â theimlo cywilydd os oes rhaid i chi dicio “na”, er enghraifft:

  • os yw gweld pobl rydych chi’n eu hadnabod yn eich gwneud chi’n bryderus neu’n ofnus, er enghraifft, oherwydd ei fod yn gwneud i chi deimlo dan straen neu’n nerfus

  • os ydych chi’n osgoi cwrdd â phobl

“Allwch chi gwrdd â phobl ddieithr heb deimlo'n rhy bryderus neu ofnus?

  • Na

  • Gallaf

  • Mae’n amrywio

Gallai hyn fod yn rhywun fel gweithiwr wrth y til mewn siop, person yn y ciw bws neu gymydog nad ydych chi wedi cwrdd â nhw o’r blaen. Meddyliwch sut fyddech chi’n teimlo pe bai angen i chi ddelio â’r cyhoedd mewn swydd, er enghraifft mewn siop neu westy.

Efallai bydd angen i chi dicio “na”:

  • os yw siarad â phobl ddieithr yn eich gwneud chi’n ofnus neu’n bryderus, er enghraifft oherwydd ei fod yn gwneud i chi deimlo dan straen neu’n nerfus

  • os ydych chi’n ceisio osgoi cwrdd a siarad â phobl newydd

  • os ydych chi’n ceisio peidio mynd allan oherwydd eich bod chi ddim eisiau gweld pobl

Efallai bydd angen i chi dicio ‘mae’n amrywio’ os yw dod ar draws pobl doeddech chi ddim yn disgwyl eu gweld yn eich gwneud chi’n bryderus neu’n ofnus, ond rydych chi’n iawn pan fyddwch chi’n trefnu i gwrdd â nhw.

Os yw hyn yn wir, yna eglurwch beth sy’n digwydd a sut mae’n gwneud i chi deimlo yn y bocs.

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) trwy esbonio’ch sefyllfa yn y bocs.

Defnyddiwch y bocs gwag i esbonio sut rydych chi’n teimlo am dreulio amser gyda phobl eraill. Er enghraifft:

  • sut rydych chi’n teimlo pan fydd rhaid i chi gwrdd â phobl a siarad â nhw

  • os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ymwneud â phobl - sut maen nhw’n ymateb i chi, a sut mae hynny’n gwneud i chi deimlo

  • pa mor aml rydych chi’n osgoi gweld neu gyfarfod â phobl

  • ydych chi’n ei gweld hi’n haws cwrdd â phobl eraill os oes rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo gyda chi

  • ydych chi’n cael dyddiau da a dyddiau gwael

  • os byddech chi’n gallu ymdopi â chyfarfod neu siarad â mwy nag un person ar y tro

  • os yw’n effeithio arnoch chi’n gorfforol, er enghraifft yn gwneud i chi deimlo’n boeth, yn flin neu’n chwil

Enghraifft

Meddai Keisha: “Dwi ddim yn gallu edrych i lygaid a siarad â’m ffrindiau - maen nhw’n bobl roeddwn i’n arfer eu gweld drwy’r amser. Mae gadael y tŷ yn amhosib i fi oherwydd does gen i ddim hyder o gwbl a fyddwn i ddim yn gallu ymdopi â hynny, hyd yn oed pe bawn i’n cael ychydig wythnosau i baratoi ar gyfer hynny. Fyddwn i ddim yn gallu ymdopi pe bai fy meddyg teulu’n gadael, a meddyg newydd yn dod yn ei le - byddai fy mhỳls yn rasio’n gyflym a byddwn i’n cael pwl o banig.”

Camau nesaf

Cwestiwn 17: Ymddwyn yn briodol

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.