C17 - ymddwyn yn briodol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae'r cwestiwn hwn ar waelod tudalen 17 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

Sut mae ateb y cwestiwn

Mae’r cwestiwn yma’n gofyn ydy hi’n anodd i chi reoli eich ymddygiad o flaen pobl eraill neu os ydych chi’n ymddwyn mewn ffordd anghyffredin o’u blaenau nhw.

Byddai hyn yn gallu bod oherwydd bod gennych chi gyflwr iechyd meddwl neu anaf i’r ymennydd. Byddai’n gallu bod yn berthnasol hefyd os oes gennych chi gyflwr fel epilepsi neu ddiabetes - yn dibynnu os ydych chi’n cael hypos neu ffitiau, a sut maen nhw’n effeithio arnoch chi.

Dylech lenwi’r cwestiwn hwn os yw’ch ymddygiad chi wedi gwneud i bobl eraill deimlo’n anghyfforddus, yn ofnus, yn ofidus neu eu bod yn cael eu bygwth.

“Pa mor aml rydych yn ymddwyn mewn modd sy'n gofidio pobl

eraill?”

  • Bob dydd

  • Yn aml

  • Yn achlysurol

Meddyliwch pa mor aml ydych chi wedi methu rheoli’ch ymddygiad neu’ch ymateb pan fo pobl eraill o gwmpas. Byddai hyn yn gallu bod yn bobl rydych chi’n eu hadnabod neu bobl dydych chi ddim yn eu hadnabod.

Ceisiwch fod yn onest am beth sy’n digwydd, hyd yn oed os yw hynny’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus.

Dylech ddweud os ydych chi wedi peri gofid i bobl, er enghraifft trwy:

  • weiddi neu sgrechian

  • eu bwrw neu fygwth eu brifo

  • eu hanwybyddu nhw’n llwyr

  • taflu rhywbeth gyda’r bwriad o’i dorri, fel mwg neu blât

  • dweud pethau amhriodol, er enghraifft, os oes gennych chi gyflwr sy’n gwneud i chi regi

  • crio’n ddi-baid neu drwy’r amser - cofiwch esbonio pam mae hyn yn digwydd

  • tynnu’ch dillad oddi amdanoch

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) trwy esbonio’ch sefyllfa yn y bocs.

Dylech chi esbonio, er enghraifft:

  • os ydych chi wedi troi’n dreisgar tuag at rywun erioed - a dywedwch os cawsoch chi eich arestio oherwydd hynny

  • os ydych chi wedi’ch gwahardd o siop, tafarn neu le arall

  • os yw’ch meddyginiaeth yn gwneud i chi ymddwyn mewn ffordd amhriodol neu anarferol

  • os oes gennych chi broblem gyda chyffuriau neu alcohol sy’n eich gwneud chi’n ymosodol neu i ymddwyn yn amhriodol

  • rydych chi’n gwybod eich bod chi’n peri gofid i bobl, ond dydych chi ddim yn gallu rheoli eich gweithredoedd

  • rydych chi wedi bod mor ofidus fel nad ydych chi’n gallu tawelu eich hun

  • dydych chi ddim yn mynd allan oherwydd eich bod chi’n ofni y byddwch chi’n gwneud neu’n dweud rhywbeth a allai effeithio ar bobl eraill

Enghraifft

“Dwi’n cael pyliau dwi ddim yn gallu eu rheoli pan dwi’n clywed lleisiau yn fy mhen - a dwi’n peri pryder i bobl o’m cwmpas i. Er enghraifft, cefais fy ngwahardd o’r siop leol ar ôl i mi daflu cynnwys fy waled dros y llawr am nad oeddwn i’n gallu dod o hyd i ddarn £1 i dalu am beint o laeth. Dywedodd y gweithiwr yn y siop fy mod i’n ymddwyn yn ymosodol ac nad oeddwn i’n cael mynd yno eto.”

Camau nesaf

Cwestiwn 18: Bwyta ac yfed

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.