C13 – dechrau a darfod tasgau

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r cwestiwn hwn ar waelod tudalen 15 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

Sut mae ateb y cwestiwn

Mae’r cwestiwn hwn yn holi a ydych chi’n gallu cynllunio, trefnu a chwblhau o leiaf 2 dasg bob dydd, un ar ôl y llall.

Nid yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn am eich problemau corfforol yn y cwestiwn hwn. Maen nhw eisiau gwybod a oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl sy’n effeithio ar eich gallu i ddechrau a darfod tasgau bob dydd.

"Allwch chi gynllunio, dechrau a gorffen tasgau bob dydd?"

  • Byth

  • Weithiau

  • Mae’n amrywio

Mae tasgau bob dydd yn cynnwys pethau fel:

  • cael cawod

  • gwisgo

  • casglu presgripsiwn

  • paratoi pryd syml

  • smwddio dillad

  • talu bil

  • gwneud apwyntiadau

Meddyliwch a allech chi gwblhau 2 o’r tasgau hyn, un ar ôl y llall, er enghraifft cyn i chi adael y tŷ i fynd i apwyntiad.

Er enghraifft, dychmygwch eich bod chi’n gwneud paned o de a bod y ffôn yn canu. Fyddech chi’n gallu rhoi’r gorau i wneud y baned, ateb y ffôn ac yna gorffen gwneud y te wedi’r alwad?

Meddyliwch a fyddech chi’n gallu gwneud y rhain a thasgau bob dydd eraill dro ar ôl tro yn ystod yr un diwrnod.

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Mae’n bwysig i chi ddweud mwy wrth DWP drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.

Mae’n bwysig egluro:

  • ydy’ch cyflwr chi yn ei gwneud hi’n anodd i chi ganolbwyntio

  • oes angen i chi gael eich atgoffa neu’ch annog

  • ydych chi’n drysu

  • ydy hi’n hawdd tynnu’ch sylw

  • ydych chi’n anghofio beth rydych chi’n ei wneud

  • ydy’ch meddyginiaeth yn effeithio ar sut rydych chi’n cwblhau tasgau

  • ydy’ch cyflwr chi’n golygu diffyg brwdfrydedd

  • ydy’ch cyflwr chi’n achosi diffyg egni neu’ch bod yn blino

  • ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael

Enghraifft

Meddai Subhi: "Mae gen i anhwylder deubegynol, ac mae gwneud pethau syml fel talu fy mil ffôn yn anodd i mi yn aml. Rydw i’n gwario fy arian i gyd ar y pethau anghywir, felly yn aml does gen i ddim arian ar ôl ar gyfer y pethau hanfodol – ac rydw i’n mynd i drafferthion.

"Weithiau rydw i’n meddwl am dalu fy mil, ac rydw i hyd yn oed yn cael manylion fy ngherdyn credyd yn barod, ond dydw i byth yn ei wneud e am mod i wedi gwario fy arian i gyd ar rywbeth arall. Roeddwn i’n hwyr iawn yn talu’r bil mis diwethaf a ches ddirwy, oherwydd erbyn i mi gasglu digon o arian, roedd y dyddiad talu wedi pasio."

Camau nesaf

Cwestiwn 14: Ymdopi â newid

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.