Eich meddyginiaeth ac unrhyw driniaeth arall

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) eisiau gwybod am eich meddyginiaeth chi ac unrhyw driniaeth rydych chi’n ei chael - bydd hyn yn eu helpu i gael darlun gwell o’ch sefyllfa chi.

Mae’r cwestiwn yma ar dudalen 7 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

Eich meddyginiaeth

Dylech restru’r tabledi ac unrhyw feddyginiaeth arall rydych chi’n ei chymryd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys:

  • unrhyw beth sydd wedi’i roi i chi ar bresgripsiwn

  • unrhyw beth rydych chi’n ei brynu eich hun, megis cyffuriau lleddfu poen fel paracetamol

Dylech gynnwys y canlynol hefyd:

  • y dos (faint rydych chi’n ei gymryd, er enghraifft 350mg) a pha mor aml rydych chi’n ei gymryd (er enghraifft, tair gwaith y dydd)

  • unrhyw sgil effeithiau rydych chi’n eu cael (er enghraifft, os yw pilsen arbennig yn gwneud i chi deimlo’n sâl) - a beth rydych chi’n ei wneud amdanyn nhw

  • unrhyw dabledi neu feddyginiaeth arall nad ydych chi’n ei chymryd eto, ond y byddwch chi’n ei chymryd yn y dyfodol

  • unrhyw beth rydych wedi rhoi’r gorau i’w gymryd oherwydd nad oedd e’n gweithio neu ei fod yn eich gwneud chi’n waeth (gwnewch yn siŵr eich bod chi’n esbonio hyn ar y ffurflen)

Gallwch gael rhestr o’ch holl bresgripsiynau cyfredol gan eich meddyg neu’ch fferyllydd os oes angen.

Triniaeth rydych chi’n ei chael

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys:

  • y driniaeth rydych chi’n ei chael, er enghraifft dialysis - yn cynnwys triniaeth ysbyty a chlinig

  • lle rydych chi’n mynd i’w chael, er enghraifft enw’r ysbyty

  • pa mor aml rydych chi’n mynd, er enghraifft bob wythnos

  • os ydych chi’n cael triniaeth fel claf mewnol, pa mor aml fyddwch chi’n aros yno

Dylech chi gynnwys y canlynol hefyd:

  • unrhyw archwiliadau rheolaidd rydych chi’n eu cael, a pham rydych chi’n eu cael nhw - er enghraifft i adolygu eich meddyginiaeth a newid y dos o bosib

  • unrhyw lawdriniaeth rydych chi wedi’i chael ar gyfer y cyflyrau sy’n achosi anhawster i chi

  • unrhyw bigiadau rydych chi eu hangen

  • unrhyw therapi rydych chi’n ei gael, er enghraifft therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT) neu aciwbigo

  • sut rydych chi wedi ymateb i’r driniaeth, dyddiad unrhyw driniaeth neu ymchwiliad yn y dyfodol - er enghraifft, os na wnaethoch chi ymateb yn dda i lawdriniaeth ar asgwrn eich cefn, felly rydych chi’n disgwyl cael sgan yn y pythefnos nesaf

Hyd yn oed os nad ydych chi’n siŵr a yw’r driniaeth rydych chi wedi’i chael yn berthnasol, dylech chi ei chynnwys ar y ffurflen. Mae’n well rhoi gwybodaeth ychwanegol na methu rhywbeth pwysig.

Aros dros nos ac adsefydlu preswyl

Mae’r rhain yn gwestiynau syml - ticiwch y bocsys:

  • os ydych chi’n cael triniaeth neu’n aros am unrhyw driniaeth lle byddwch chi’n aros yn rhywle dros nos neu am fwy o amser

  • os ydych chi mewn cynllun adsefydlu preswyl neu i fod i ddechrau un

Camau nesaf

Cwestiwn 1 - symud o amgylch a defnyddio'r grisiau

Yn ôl i Cymorth i lenwi'ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.