Asesiad wyneb yn wyneb
Mae’r dudalen hon yn dweud sut mae llenwi’r adran asesiad wyneb yn wyneb ar eich ffurflen.
Am gymorth i baratoi ar gyfer eich asesiad wyneb yn wyneb, ewch i Paratoi ar gyfer eich asesiad meddygol ESA.
Mae’r cwestiwn ar dudalennau 19 a 20 y ffurflen – dyma sut maen nhw'n edrych
Trefnu’r asesiad
Gelwir yr asesiad wyneb yn wyneb yn asesiad gallu i weithio.
Bydd yr asesiad gyda rhywun fel meddyg, nyrs neu ffisiotherapydd.
Gofynnir i chi roi rhifau ffôn yn ystod y dydd a ffôn symudol fel y gellir cysylltu â chi i drefnu asesiad wyneb yn wyneb. Mae hwn ar waelod tudalen 16 y ffurflen.
Os nad ydych chi’n defnyddio’r ffôn
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gallu defnyddio’r ffôn neu nad ydych chi’n hoffi ei ddefnyddio. Gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau:
- ffonio eich gofalwr neu rywun arall i drefnu’r asesiad
- ysgrifennu atoch chi yn hytrach na’ch ffonio - dylech gynnwys y geiriau “yn ysgrifenedig” yn y gofod sy’n gofyn i chi am eich rhif ffôn
Os ydych chi angen cyfieithydd
Os nad ydych chi’n gallu siarad neu ddeall Cymraeg neu Saesneg, gallwch gael cyfieithydd gyda chi yn yr asesiad.
Ticiwch y bocs ar y ffurflen os oes gennych chi eich cyfieithydd eich hun, er enghraifft perthynas – mae’n rhaid iddynt fod yn 16 oed o leiaf.
Dyddiadau na allwch chi fynd i asesiad
Gofalwch eich bod yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os oes dyddiadau na allwch yn sicr fynd i asesiad, er enghraifft oherwydd apwyntiad meddyg neu ysbyty.
Dylech eu rhestru yn y bocs ar dudalen 20.
Os ydych chi’n mynd â chyfieithydd, gofalwch gadarnhau eu bod ar gael ar y dyddiadau hefyd.
Unrhyw gymorth arall sydd ei angen arnoch
Os ydych chi angen arwyddwr iaith Arwyddion Prydain neu Makaton, meddalwedd lleferydd-i-destun neu lawlyfr byddar/dall, nodwch hyn ar y ffurflen.
Dylech ddweud hefyd os gallech chi fod angen cymorth arall ar gyfer yr asesiad, er enghraifft:
- i gyrraedd yr asesiad os oes yn rhaid i chi deithio i ardal nad ydych chi’n gyfarwydd â hi
- hefyd i fynd i fyny ac i lawr y grisiau, os nad yw eich asesiad ar y llawr daear neu nad oes lifft
- dod allan o gadair mewn ystafell aros
- symud o ystafell i ystafell