C13 – dechrau a darfod tasgau
Mae’r cwestiwn hwn ar waelod tudalen 15 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Mae’r cwestiwn hwn yn holi a ydych chi’n gallu cynllunio, trefnu a chwblhau o leiaf 2 dasg bob dydd, un ar ôl y llall.
Nid yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn am eich problemau corfforol yn y cwestiwn hwn. Maen nhw eisiau gwybod a oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl sy’n effeithio ar eich gallu i ddechrau a darfod tasgau bob dydd.
"Allwch chi gynllunio, dechrau a gorffen tasgau bob dydd?"
- Byth
- Weithiau
- Mae’n amrywio
Mae tasgau bob dydd yn cynnwys pethau fel:
- cael cawod
- gwisgo
- casglu presgripsiwn
- paratoi pryd syml
- smwddio dillad
- talu bil
- gwneud apwyntiadau
Meddyliwch a allech chi gwblhau 2 o’r tasgau hyn, un ar ôl y llall, er enghraifft cyn i chi adael y tŷ i fynd i apwyntiad.
Er enghraifft, dychmygwch eich bod chi’n gwneud paned o de a bod y ffôn yn canu. Fyddech chi’n gallu rhoi’r gorau i wneud y baned, ateb y ffôn ac yna gorffen gwneud y te wedi’r alwad?
Meddyliwch a fyddech chi’n gallu gwneud y rhain a thasgau bob dydd eraill dro ar ôl tro yn ystod yr un diwrnod.
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Mae’n bwysig i chi ddweud mwy wrth DWP drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.
Mae’n bwysig egluro:
- ydy’ch cyflwr chi yn ei gwneud hi’n anodd i chi ganolbwyntio
- oes angen i chi gael eich atgoffa neu’ch annog
- ydych chi’n drysu
- ydy hi’n hawdd tynnu’ch sylw
- ydych chi’n anghofio beth rydych chi’n ei wneud
- ydy’ch meddyginiaeth yn effeithio ar sut rydych chi’n cwblhau tasgau
- ydy’ch cyflwr chi’n golygu diffyg brwdfrydedd
- ydy’ch cyflwr chi’n achosi diffyg egni neu’ch bod yn blino
- ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael
Enghraifft
Meddai Subhi: "Mae gen i anhwylder deubegynol, ac mae gwneud pethau syml fel talu fy mil ffôn yn anodd i mi yn aml. Rydw i’n gwario fy arian i gyd ar y pethau anghywir, felly yn aml does gen i ddim arian ar ôl ar gyfer y pethau hanfodol – ac rydw i’n mynd i drafferthion.
"Weithiau rydw i’n meddwl am dalu fy mil, ac rydw i hyd yn oed yn cael manylion fy ngherdyn credyd yn barod, ond dydw i byth yn ei wneud e am mod i wedi gwario fy arian i gyd ar rywbeth arall. Roeddwn i’n hwyr iawn yn talu’r bil mis diwethaf a ches ddirwy, oherwydd erbyn i mi gasglu digon o arian, roedd y dyddiad talu wedi pasio."