Gwybodaeth arall
Os nad oes gennych chi le ar ôl i ateb unrhyw gwestiwn, gallwch ddefnyddio’r bocs ar waelod tudalen 17 i ychwanegu gwybodaeth ychwanegol.
Gallwch ddefnyddio dalenni eraill o bapur os nad oes digon o le yn y bocs. Amgaewch nhw gyda’ch ffurflen ESA50 a chofiwch gynnwys eich enw a’ch rhif Yswiriant Gwladol.
Mae’r cwestiwn ar dudalen 21 y ffurflen - dyma sut mae'n edrych
Gofalwch eich bod yn ysgrifennu rhif y cwestiwn wrth ymyl y wybodaeth ychwanegol rydych chi’n ei chynnwys.
Os oes rhywun wedi’ch helpu i lenwi’r ffurflen
Os oes rhywun wedi’ch helpu i lenwi’r ffurflen ESA50, mae’n bwysig dweud hyn. Defnyddiwch y bocs i egluro.
- pwy wnaeth – er enghraifft perthynas, gofalwr neu gynghorwr
- pam eich bod wedi gofyn iddynt am gymorth
- sut y gwnaethant eich helpu
Sut mae llenwi’r ffurflen wedi gwneud i chi deimlo
Os yw llenwi’r ffurflen wedi achosi poen i chi, mae’n bwysig dweud hynny wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Defnyddiwch y bocs i egluro’r fath o boen ac am faint y parodd.
Dylech egluro hefyd os oedd llenwi’r ffurflen yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu dan straen.
Os ydych chi’n defnyddio tystiolaeth feddygol
Os ydych chi’n anfon tystiolaeth feddygol, gofalwch eich bod yn rhestru dogfennau rydych chi’n eu cynnwys. Gallwch gael rhagor o gymorth gyda hyn yn rhan “tystiolaeth feddygol” y ffurflen.