C1: rhestru eich gweithwyr iechyd proffesiynol
Mae angen i chi roi manylion unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol rydych chi wedi’i weld ynglŷn â’ch cyflwr i’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Dylech gynnwys:
- meddygon, meddygon teulu, meddygon ymgynghorol a nyrsys
- cynghorwyr, seicotherapyddion a therapyddion galwedigaethol
- pobl fel gweithwyr gofal, gweithwyr cymorth a ffisiotherapyddion
- eu manylion cyswllt – rhag ofn y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau angen gwybod mwy am eich cyflwr
- y dyddiad y gwelsoch chi nhw ddiwethaf
Os nad ydych chi’n gwybod yr union ddyddiad y gwelsoch chi nhw ddiwethaf, mae’n iawn rhoi’r flwyddyn yn unig.
Os yw aelod o’r teulu neu ffrind yn gofalu amdanoch chi, ychwanegwch eu manylion yng nghwestiwn 15.
Werth gwybod
Os nad ydych chi wedi gweld gweithiwr iechyd proffesiynol yn y 3 mis diwethaf, mae’n werth i chi geisio gwneud apwyntiad.
Fel hyn, gallwch chi ddweud wrthyn nhw eich bod chi’n hawlio PIP ac esbonio’r anawsterau rydych chi’n eu cael o ddydd i ddydd fel bod ganddyn nhw’r holl wybodaeth ddiweddaraf os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â nhw.
Help gyda chwestiwn 2: rhestru eich cyflyrau, eich meddyginiaeth a’ch triniaethau