Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

C1 – symud o amgylch a defnyddio’r grisiau

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 8 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

page 8 of questionnaire

Sut mae ateb y cwestiwn

Os ydych chi angen defnyddio rhywbeth i’ch helpu i gerdded fel arfer (fel baglau neu ffon gerdded), seiliwch eich ateb ar sut rydych chi’n cerdded pan fyddwch chi’n eu defnyddio. Os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn, seiliwch eich ateb ar sut rydych chi’n symud o gwmpas wrth ei defnyddio.

Peidiwch â theimlo cywilydd am eich atebion – mae’n bwysig bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael gwybod beth allwch chi ei wneud heb gymorth unrhyw un arall.

“Pa mor bell allwch chi symud yn ddiogel a throsodd a throsodd ar dir gwastad heb fod angen stopio?”

  • 50 metr
  • 100 metr
  • 200 metr neu fwy
  • Mae’n amrywio

Meddyliwch beth fyddai’n digwydd pe baech chi’n ceisio symud o gwmpas swyddfa, neu ar hyd eil archfarchnad – a fyddech chi angen pwyso ar droli siopa, er enghraifft.

Mae’n iawn os nad ydych chi’n gwybod beth i’w dicio ar unwaith. Ceisiwch symud a gweld pa mor bell rydych chi’n mynd.

Mae 50 metr tua hyd 5 bws deulawr.

Os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn drydan, ceisiwch ddychmygu symud o gwmpas yn defnyddio cadair olwyn gyffredin. Meddyliwch pa mor bell allech chi fynd heb rywun yn eich gwthio.

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Mae’n bwysig eich bod yn dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.

Dylech egluro yn y bocs:

  • faint mae’n ei gymryd i chi symud 50 metr, 100 metr a 200 metr (neu fwy) fel arfer – os nad ydych chi’n gallu symud y pellteroedd hynny, dylech egluro hynny
  • a yw symud yn achosi poen i chi ac am ba hyd yn fras
  • a yw’n eich gwneud yn fyr eich anadl
  • a yw’n eich gwneud yn benysgafn ac yn ansad ar eich traed
  • a ydych chi wedi disgyn yn y gorffennol – cofiwch ddweud pa mor aml mae hyn yn digwydd, ac a ydych chi angen rhywun arall i’ch helpu i godi
  • a fyddech chi’n gallu symud yr un pellter eto gydol y dydd
  • os ydych chi’n cael diwrnodau da ddiwrnodau drwg, a beth yw’r gwahaniaeth
  • sut rydych chi’n ymdopi pan fyddwch chi’n gadael y tŷ os ydych chi ond yn gallu symud o gwmpas yn eich cartref

Os ydych chi’n defnyddio rhywbeth i’ch helpu i symud o gwmpas (er enghraifft, baglau neu ffon gerdded), mae’n bwysig eich bod yn egluro sut a pham eich bod yn eu defnyddio.

"Allwch chi fynd i fyny neu i lawr dau ris, heb help gan rywun arall, os oes canllaw i chi afael ynddo?"

  • Gallaf
  • Na
  • Mae’n amrywio

Peidiwch â theimlo cywilydd yn dweud “na” – er enghraifft dylech dicio “na” os na fyddech chi’n gallu mynd i fyny ac i lawr 2 ris, neu pe bai’n eich blino’n lân neu’n peri bod mewn poen am weddill y dydd. Mae'n bwysig bod yr Adran Gwaith a Phensiynau'n gwybod hyn.

Mae’n bwysig eich bod yn dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy eglur o eich sefyllfa yn y bocs.

Meddyliwch beth fyddai’n digwydd pe baech chi’n ceisio mynd i fyny neu i lawr y grisiau mewn lle cyhoeddus – rhywle fel ysbyty lleol neu ganolfan siopa. Ceisiwch ddychmygu bod llawer o bobl eraill o gwmpas.

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Pe bai defnyddio grisiau yn achosi poen i chi, dylech egluro yn y bocs:

  • pa mor ddrwg fyddai’r boen, er enghraifft mor ddrwg fel na fedrech chi symud
  • natur y boen, er enghraifft gwayw, poen ystumog neu bigyn
  • am faint fyddech chi mewn poen, er enghraifft tua 4 awr
  • a fyddai’n eich atal rhwng gwneud unrhyw beth arall ac am ba hyd, er enghraifft byddai’n rhaid i chi orwedd i lawr am weddill y dydd

Os yw mynd i fyny ac i lawr y grisiau yn eich blino neu’n eich gwneud yn fyr eich gwynt, dylech ddweud:

  • pa mor flinedig fyddech chi, er enghraifft a fyddai angen i chi eistedd neu orwedd
  • am faint fyddech chi’n flinedig
  • a fyddai bod yn flinedig yn eich atal rhag gwneud pethau, ac am ba hyd
  • sut byddai’n effeithio ar weddill eich diwrnod, er enghraifft, fyddech chi’n rhy flinedig i siarad gyda rhywun

Enghraifft

Meddai Simon: “Mae gen i arthritis yn fy mhen-glin dde a fy nghlun, ac yn fy nwy arddwrn hefyd. Ar ddiwrnod da rydw i’n gallu cerdded 100m yn araf - ond byddwn i’n gorfod gorffwys unwaith neu ddwy gan y byddwn i mewn poen. Dydw i ddim yn gallu defnyddio ffon na baglau na chadair olwyn oherwydd bod yr arthritis yn fy arddyrnau yn golygu nad ydw i’n gallu cael gafael iawn ar bethau a does gen i ddim llawer o egni. Ar ddiwrnod gwael, rydw i’n cael trafferth symud o gwmpas fy fflat ond fel arfer byddwn i’n aros yn y gwely fel nad ydw i’n gorfod symud.”

Camau Nesaf

Cwestiwn 2: Sefyll ac eistedd

Yn ôl i Cymorth i lenwi'r ffurflen ESA

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.