C10 – aros yn ymwybodol pan yn effro
Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 13 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Dylech chi ateb y cwestiwn hwn os oes gennych chi salwch neu anabledd sy’n achosi i chi fod yn anymwybodol, neu un sy’n effeithio ar eich ymwybyddiaeth pan fyddwch chi’n effro, er enghraifft:
- epilepsi
- diabetes
- narcolepsi (cyflwr sy’n gwneud i chi syrthio i gysgu ar adegau amhriodol)
- meigryn difrifol
Nid yw syrthio i gysgu o ganlyniad i gyflwr meddygol neu o ganlyniad i driniaeth am gyflwr meddygol yn cyfrif felly colli ymwybyddiaeth.
"Pan fyddwch yn effro, pa mor aml rydych yn cael ffitiau neu’n llewygu?"
- Dyddiol
- Bob wythnos
- Bob mis
- Llai na bob mis
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau eisiau gwybod pa mor aml rydych chi’n cael ffitiau neu drawiadau neu’n llewygu neu unrhyw beth arall sy’n amharu’n ddifrifol ar eich ymwybyddiaeth a’ch gallu i ganolbwyntio pan yn effro.
Dydyn nhw ddim eisiau gwybod beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cysgu – boed yn y nos neu yn ystod y dydd.
Efallai na fyddwch chi’n colli ymwybyddiaeth yn llwyr yn ystod ffit neu drawiad ond mae’n bwysig i chi eu cynnwys a dweud sut maen nhw’n effeithio arnoch chi.
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Mae’n bwysig i chi ddweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.
Dylech egluro:
- os ydych chi’n cael unrhyw rybudd eich bod chi ar fin cael ffit neu drawiad
- os ydych chi wedi gorfod mynd i’r ysbyty – dywedwch sawl gwaith mae hyn wedi digwydd
- faint mae’n cymryd i chi ddod dros ffit neu drawiad
- os ydych chi ofni mynd allan rhag ofn i chi gael ffit neu drawiad
- os ydych chi wedi anafu eich hun neu wedi cael damwain yn ystod ffit neu drawiad, er enghraifft, os ydych chi wedi taro’ch pen
- os ydych chi’n dioddef sgil-effeithiau o’r meddyginiaeth – dywedwch beth ydyn nhw a beth rydych chi’n ei wneud amdanyn nhw
- os ydych chi wedi colli’ch trwydded yrru (neu os nad ydych chi erioed wedi cael un) oherwydd eich salwch neu anabledd
Ar ôl colli ymwybyddiaeth, nodwch:
- os ydych chi angen amser i ddod atoch chi’ch hun, fel mynd i’r gwely
- os nad ydych chi’n gwybod sut byddwch chi’n teimlo – efallai y byddwch chi’n ymddwyn yn ymosodol neu’n annisgwyl
- os nad ydych chi’n ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas
- os ydych chi angen rhywun i ofalu amdanoch
Enghraifft
Meddai Louise: "Rwy’n rheoli fy niabetes yn eithaf da ond rydw i’n cael hypos unwaith bob rhyw 2 neu 3 wythnos. Pan mae fy siwgr gwaed i’n mynd yn isel, rydw i’n gallu ei deimlo’n dod fel rheol ac yn gofalu bod gen i fyrbrydau a diodydd i geisio atal hypo, ond yn amlach na pheidio mae pethau’n digwydd yn rhy gyflym.
Mae fy ngolwg yn mynd yn niwlog a dydw i ddim wir yn gwybod beth dw i’n ei wneud – mae fy mhartner yn dweud fy mod i’n siarad nonsens ac yn siarad yn dew. Ychydig wythnosau yn ôl, fe ddigwyddodd e wrth i mi gerdded adref o’r siop ac fe lewygais i ar y stryd. Dydw i ddim yn gwybod am faint mae e’n para, ond rydw i’n teimlo’n ddagreuol ac yn benysgafn am dipyn wedyn."