Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

C11 – dysgu sut i wneud tasgau

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 14 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

page 14 of questionnaire

Sut mae ateb y cwestiwn

Mae’r cwestiwn hwn yn holi sut mae’ch cyflwr iechyd meddwl neu nam gwybyddol yn effeithio ar eich gallu i wneud tasgau, er enghraifft os oes gennych chi:

  • anawsterau dysgu
  • anafiadau i’r ymennydd
  • iselder
  • namau gwybyddol ar ôl strôc
  • anhawster deall iaith, er enghraifft, dysffasia derbyn

Meddyliwch a ydych chi’n tueddu i gael trafferth ffocysu neu ganolbwyntio, neu os ydych chi’n bryderus pan fydd angen i chi ddysgu sut mae gwneud rhywbeth newydd.

"Allwch chi ddysgu sut i wneud tasg syml fel gosod cloc larwm?"

  • Na
  • Gallaf
  • Mae’n amrywio

Peidiwch â theimlo embaras os oes rhaid i chi dicio "na", er enghraifft:

  • os na fyddech chi’n gallu gweithio cloc larwm ar eich pen eich hun, hyd yn oed pe bai rhywun yn dangos i chi sut mae gwneud y diwrnod cynt
  • os na fyddech chi’n gallu ymdopi pe bai’n rhaid i chi godi ar amser gwahanol un diwrnod (a bod angen i chi newid amser eich larwm)
  • pe bai’r switshis yn eich drysu chi

Nid cwestiwn am osod cloc larwm yn unig yw hwn – mae’n sôn am unrhyw dasg syml. Meddyliwch am, er enghraifft:

  • dysgu sut mae troi teledu ymlaen ac yna newid y sianel gan ddefnyddio’ch teclyn
  • troi’r gwres neu’r dŵr poeth ymlaen

"Allwch chi ddysgu sut i wneud tasg fwy cymhleth fel defnyddio peiriant golchi?"

  • Na
  • Gallaf
  • Mae’n amrywio

Nid cwestiwn am ddefnyddio peiriant golchi yn unig yw hwn – mae’n sôn am unrhyw dasg gymhleth. Meddyliwch am, er enghraifft:

  • dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur newydd i wneud pethau fel anfon a derbyn negeseuon e-bost
  • gwneud paned o de i rywun – felly llenwi tegell, rhoi bagiau te mewn tebot, ei dywallt i mewn i gwpan ac yna ychwanegu llaeth a siwgr

Unwaith eto, pheidiwch â theimlo embaras os oes rhaid i chi dicio "na" – er enghraifft:

  • byddai angen i chi ofyn am help bob tro
  • gallwch ddysgu sut mae gwneud y dasg y tro cyntaf, ond byddwch wedi anghofio erbyn y tro nesaf
  • dydych chi ddim yn gallu dilyn cyfarwyddiadau’n dda, ac mae angen eu rhannu’n gamau bach iawn
  • byddai’n cymryd amser hir i ddysgu sut mae gwneud y dasg – ceisiwch gymharu faint fyddai’n ei gymryd i rywun heb eich cyflwr chi

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Mae’n bwysig i chi ddweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs - dylech roi rhagor o fanylion ynglŷn ag a allwch chi ddysgu sut mae gwneud tasgau syml a rhai mwy cymhleth.

Dylech esbonio yn y bocs:

  • os oes unrhyw beth fethoch chi â dysgu sut i’w wneud (neu y cawsoch chi’n anodd ei wneud) oherwydd ei fod yn rhy anodd - er enghraifft, defnyddio peiriant golchi llestri
  • os oes angen i chi ymarfer ac ailadrodd tasgau’n rheolaidd i’w dysgu – a pha mor hir fyddai’n cymryd i chi
  • os yw’r feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd wedi effeithio ar eich gallu i ddysgu tasgau newydd – ceisiwch gymharu sut roedd pethau cyn i chi ddechrau cymryd y feddyginiaeth
  • os ydych chi’n gallu canolbwyntio ar dasgau
  • os ydych chi’n cael problemau gyda’ch cof tymor byr
  • os ydych chi’n cael dyddiau da a dyddiau drwg - a sut ydych chi ar wahanol ddiwrnodau
  • a fyddech chi’n gallu dysgu mwy nag un dasg newydd mewn diwrnod

Enghraifft

Meddai Domenico: "Mae fy chwaer eisiau i fi gadw fy ffôn gyda fi drwy’r amser ond alla’i ddim cofio sut mae dod o hyd i’r rhifau ffôn. Mae hi wedi dangos i fi sawl tro ond alla’i ddim cofio. Fe wnes i geisio ei ffonio hi rywdro ond doeddwn i ddim yn gwybod sut oedd gwneud – es i i banig llwyr a chynhyrfu’n lân. Doeddwn i ddim eisiau gweld y ffôn ar ôl hynny.

Prynodd fy chwaer ffôn arall i fi a rhoi ei rhif ffôn ynddo felly dim ond un botwm sydd angen i mi ei wasgu er mwyn gallu siarad â hi."

Camau nesaf

Cwestiwn 12: Ymwybyddiaeth o risgiau neu beryglon

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.