Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

C14 - ymdopi â newid

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae’r cwestiwn yma ar dudalen 16 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

page 16a of questionnaire

Sut mae ateb y cwestiwn

Mae’r cwestiwn yma’n gofyn beth sy’n digwydd a sut rydych chi’n teimlo os yw’ch patrwm arferol neu’ch cynlluniau’n newid.

“Allwch chi ymdopi gyda newidiadau bach i'ch trefn os ydych yn gwybod amdanynt cyn iddynt ddigwydd?"

  • Na
  • Gallaf
  • Mae’n amrywio

Meddyliwch am orfod bwyta cinio ar adeg wahanol i’r arfer - neu daith bws a gafodd ei newid o flaen llaw i ddilyn llwybr gwahanol ar eich siwrnai adref.

Peidiwch â theimlo cywilydd os oes rhaid i chi dicio “na”, er enghraifft:

  • os na allwch chi ymdopi â newid o gwbl - hyd yn oed os cewch eich rhybuddio amdano
  • os yw newid yn gwneud i chi fynd i’ch cragen a gwrthod help
  • os yw newid yn effeithio ar eich ymddygiad chi
  • os oes newid yn eich rhwystro chi rhag bod yn chi’ch hun, er enghraifft, mae angen i rywun eich tawelu chi ac mae’n effeithio arnoch chi drwy’r dydd

“Allwch chi ymdopi â newidiadau bach i'ch trefn os nad ydych yn eu disgwyl?"

  • Na
  • Gallaf
  • Mae’n amrywio

Meddyliwch os yw’ch bws neu’ch trên chi chwarter awr yn hwyr, neu ffrind neu ofalwr yn dod i’ch tŷ chi’n gynharach neu’n hwyrach na’r hyn gafodd ei drefnu.

Peidiwch â theimlo’n wael os oes rhaid i chi dicio “na”, er enghraifft os yw’n cymryd llawer o waith trefnu a pharatoi meddyliol i fod yn barod ar gyfer rhywbeth - a’ch bod chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi os yw’n cael ei ganslo.

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) trwy esbonio’ch sefyllfa yn y bocs.

Dylech chi esbonio pethau fel:

  • ydych chi’n cael trafferth ymdopi â newidiadau i’ch diwrnod sydd wedi’u trefnu o flaen llaw
  • ydych chi’n methu ymdopi â newidiadau sydyn
  • ydy’ch meddyginiaeth chi’n effeithio ar sut rydych chi’n ymdopi â newid
  • sut rydych chi’n ymdopi â newid - defnyddiwch enghreifftiau, os gallwch chi
  • pe bai eich patrwm arferol yn newid, sut fyddai hynny’n effeithio ar eich diwrnod chi, er enghraifft, fyddech chi’n gallu gwneud y pethau roeddech chi wedi’i bwriadu eu gwneud
  • pa mor aml fyddai newid fel hyn yn effeithio arnoch chi
  • unrhyw beth rydych chi’n ei osgoi oherwydd problemau posibl, er enghraifft, os ydych chi’n osgoi cwrdd â ffrindiau am bryd o fwyd oherwydd y byddech chi’n teimlo’n flin os na fyddech chi’n gallu eistedd ger y ffenest

Enghraifft

Meddai Jennifer: “Rwy’n ei chael hi’n anodd iawn ymdopi â newid. Er enghraifft, roeddwn wedi trefnu i fynd i dŷ fy ffrind, Siân i’w gweld hi, ond cafodd y bws ei ganslo - roeddwn i’n bryderus am weddill y dydd ac yn methu bwyta, felly roedd rhaid i Siân fy ffrind ddod draw i’m tawelu a choginio bwyd i fi.
Hefyd wythnos diwethaf, roeddwn i wedi gorffen fy hoff rawnfwyd ac es i i’r siop leol - doedd ganddyn nhw ddim ar ôl chwaith, a doeddwn i ddim yn gallu gwneud dim byd am weddill y dydd oherwydd fy mod i’n poeni cymaint.”

Camau nesaf

Cwestiwn 15: Mynd allan

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.