Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

C6 - cyfathrebu (siarad, ysgrifennu a theipio)

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 11 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

page 11a of questionnaire

Sut mae ateb y cwestiwn

Mae’r cwestiwn hwn yn gofyn a ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael pobl i’ch deall chi.
Mae’n ymwneud ag anawsterau corfforol, er enghraifft cael atal dweud, bod yn hollol fyddar neu fod â pharlys yr ymennydd.

Nid yw’n ymwneud ag effeithiau problem iechyd meddwl fel gorbryder.

"Allwch chi gyfathrebu neges syml â phobl fel presenoldeb rhywbeth peryglus?"

  • Na
  • Gallaf
  • Mae’n amrywio

Gyda’r cwestiwn hwn, peidiwch â meddwl dweud wrth rywun am rywbeth peryglus yn unig.

Er enghraifft, allech chi archebu’r hyn hoffech chi mewn caffi? Gallai hyn fod naill ai drwy ddweud yr hyn yr hoffech chi neu ei nodi ar bapur.

Peidiwch â bod â chywilydd os ydych chi’n gorfod ticio “nac ydw”, er enghraifft os nad ydych chi’n gallu cyfleu neges syml oherwydd:

  • y byddech chi angen help gan rywun arall, fel cyfieithydd iaith arwyddion
  • y byddech chi’n cael anhawster siarad, bod cyfyngiadau ar eich lleferydd, neu dydych chi ddim yn gallu siarad
  • nad ydych chi’n gallu siarad yn ddigon uchel neu am ddigon hir i gael sylw rhywun
  • bod siarad, ysgrifennu neu deipio yn achosi poen i chi neu’n eich gwneud yn fyr eich gwynt

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Mae’n bwysig eich bod yn dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.

Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch chi am eich anawsterau yn cyfathrebu â phobl. Er enghraifft, eglurwch

  • os nad yw pobl yn eich deall - rhowch enghreifftiau os gallwch chi
  • sut mae’n gwneud i chi deimlo pan nad yw rhywun yn eich deall
  • os ydych chi’n osgoi cyfathrebu am ei fod yn anodd, yn cymryd rhy hir, neu’n eich gwneud yn rhwystredig
  • a oes rhywun yn eich helpu i gyfathrebu, a sut maen nhw’n eich helpu chi
  • pa mor aml rydych chi’n cael anawsterau
  • a ydych chi’n cael dyddiau da a dyddiau drwg, a beth yw’r gwahaniaethau

Enghraifft

Meddai Sheena: "Mae gen i atal dweud gwael sy’n gwaethygu pan fydda i dan bwysau. Mae’n gylch dieflig gan fy mod i’n teimlo dan bwysau pan nad ydw i’n gallu cael fy ngeiriau allan.

Fel arfer, rydw i’n llwyddo i siarad â phobl rydw i’n eu hadnabod yn dda ond hyd yn oed wedyn byddaf yn gorfod nodi pethau ar bapur o bryd i’w gilydd fel eu bod nhw’n deall. Os ydw i’n gorfod siarad â phobl ddieithr, gall fy atal fod mor ddrwg fel nad yw pobl yn fy neall. Roeddwn i mor rhwystredig unwaith fel i mi gael pwl o banig.”

Camau nesaf

Cwestiwn 7: Cyfathrebu - gwrando a darllen

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.