C7 - cyfathrebu (clywed a darllen)
Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 11 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Mae’r cwestiwn hwn ynglŷn ag a ydych chi’n cael anawsterau deall beth mae pobl yn ei ddweud wrthych chi, ac a ydych chi’n cael problemau darllen.
Os ydych chi’n defnyddio cymorth, fel teclyn clyw, dylech ateb y cwestiynau fel pe baech yn ei ddefnyddio.
Gallwch egluro’r cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio a sut maen nhw’n eich helpu yn y bocs ar y ffurflen.
"Allwch chi ddeall negeseuon syml gan bobl eraill drwy wrando neu ddarllen gwefusau heb help gan rywun arall?"
- Na
- Gallaf
- Mae’n amrywio
Peidiwch â theimlo cywilydd os ydych chi’n gorfod ticio “nac ydw”, er enghraifft:
- os ydych chi’n fyddar neu’n colli eich clyw ac nad ydych chi’n gallu darllen gwefusau
- os ydych chi’n gallu darllen gwefusau pobl rydych chi’n eu hadnabod, ond ddim pobl ddieithr
- os ydych chi angen cyfieithydd iaith arwyddion
- os ydych chi’n camddeall pethau o bryd i’w gilydd
"Allwch chi ddeall negeseuon syml gan bobl eraill drwy ddarllen print bras neu drwy ddefnyddio Braille?"
- Na
- Gallaf
- Mae’n amrywio
Eto, peidiwch â theimlo cywilydd, os ydych chi’n gorfod ticio “nac ydw”, er enghraifft os oes gennych chi nam ar y golwg ac nad ydych chi’n defnyddio braille.
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Mae’n bwysig eich bod yn dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro eich sefyllfa yn y bocs.
Os ydych chi'n defnyddio unrhyw gymhorthion i'ch helpu i ddeall pobl eraill, neu'ch helpu i ddarllen, rhowch y manylion yn y bocs.
Enghreifftiau o gymhorthion y gallech chi eu defnyddio:
- fformatau Braille, print mawr neu sain
- goleuadau arbennig i’ch helpu i ddarllen
- teclyn clyw neu laryncs electronig
- ffôn testun neu gyfarpar chwyddo sain i’ch helpu i glywed
Yn ogystal ag ysgrifennu am gymhorthion sy’n eich cynorthwyo, mae’n bwysig egluro pethau fel:
- a yw’n cymryd llawer o amser i ddarllen rhywbeth, neu i ddeall rhywun
- os ydych chi’n defnyddio cyfieithydd iaith arwyddion, a beth fyddai’n digwydd pe na bai un gennych
- os yw rhywun yn darllen pethau i chi, neu’n egluro beth mae eraill wedi’i ddweud
- sut mae methu gallu darllen rhywbeth neu glywed rhywun wedi achosi problemau i chi
- sut rydych chi’n teimlo pam nad ydych chi’n gallu deall yr hyn sy’n cael ei ddweud neu ei ysgrifennu
Enghraifft
Meddai Liam: "Rydw i wedi fy niagnosio yn fyddar felly rydw i’n ceisio darllen gwefusau. Rydw i’n ceisio darllen gwefusau rhywfaint os ydw i’n adnabod y person yn dda, ond dydw i ddim yn gallu deall pobl ddieithr yn iawn. Dydw i ddim yn deall beth mae’r person wrth y til yn ei ddweud wrth siopa. Roedd gen i gywilydd mawr yr wythnos diwethaf gan fy mod i am gael rhywbeth yn fy maint ond doeddwn i ddim yn deall beth oedd y cynorthwyydd yn ei ddweud, felly gadewais y siop heb y peth oedd ei angen arna i.”