Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Eich cyflwr iechyd, salwch neu anableddau

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae cyfle i chi ddweud mwy am eich salwch neu anabledd wrth anfon eich ffurflen ESA50 yn ôl.

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 6 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

page 6 of esa50

Beth i ysgrifennu

Dylech:

  • greu rhestr o’ch problemau iechyd, salwch ac anableddau - hyd yn oed os nad oedden nhw gennych chi pan wnaethoch chi’ch cais ESA yn wreiddiol
  • dweud pryd ddechreuon nhw (ceisiwch roi syniad o’r mis a’r flwyddyn)
  • dweud pryd gawsoch chi ddiagnosis (os ydych chi wedi cael un)
  • cynnwys problemau iechyd, salwch ac anableddau hyd yn oes nad oes gennych chi ddiagnosis neu brawf gan feddyg

Mae hefyd yn syniad da nodi ar y ffurflen:

  • unrhyw beth nad ydych chi’n gallu ei wneud ond roeddech yn gallu ei wneud o'r blaen, er enghraifft, roeddech chi'n arfer mynd i loncian ond dydych chi ddim yn gallu gwneud hynny mwyach
  • sut mae meddyginiaeth yn effeithio arnoch chi, er enghraifft, a ydych chi wedi cael unrhyw sgil-effeithiau
  • a ydych chi wedi rhoi'r gorau i weithio oherwydd eich iechyd, a pham (er enghraifft, allwch chi ddim rhagweld pryd fyddwch chi'n teimlo'n sâl, felly doedd dim modd i’ch cyflogwr gynllunio’ch shifftiau)
  • gwybodaeth am eich dyddiau da a dyddiau drwg, er enghraifft, os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi 4 diwrnod allan o 7 – rydych chi’n cael 3 diwrnod da yr wythnos ond allwch chi ddim gwneud llawer y diwrnodau eraill heblaw gorffwys 

Sut mae’ch cyflwr yn amrywio dros amser

Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n dweud wrth DWP sut mae’ch salwch neu anabledd yn amrywio dros amser.

Os yw’ch salwch neu anabledd yn dilyn patrwm gan amlaf (er enghraifft, mae gennych chi anhwylder deubegynol, a’ch bod yn cael cyfnodau o deimlo’n uchel ac yn isel sy’n newid yn wythnosol), cofiwch nodi hynny.

Os yw’ch patrymau’n fwy anwadal, mae’n gallu bod yn anodd i’w hesbonio. Gallech ysgrifennu rhywbeth tebyg i hyn yn y bocs ‘gwybodaeth ychwanegol’ o dan bob cwestiwn:

“Byddaf yn esbonio sut mae fy nghyflwr yn effeithio arnaf o ddydd i ddydd o dan bob cwestiwn yng ngweddill y ffurflen.”

Os yw’ch cyflwr yn gysylltiedig â chyffuriau neu alcohol

Os oes unrhyw salwch neu anabledd sydd gennych chi’n gysylltiedig â phroblemau alcohol neu gyffuriau, mae’n bwysig i chi nodi hynny.

Dylech nodi pa gymorth neu driniaeth rydych chi’n eu cael. Os ydych chi’n aros am atgyfeiriad, neu os nad ydych chi wedi cael cynnig unrhyw gymorth, dylech ddweud hynny.

Y cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio

Dylech nodi os ydych chi’n defnyddio pethau fel:

  • ffon gerdded neu ffrâm cerdded
  • canllawiau yn y bath – nodwch pryd gawsoch chi nhw wedi’u gosod
  • cadair olwyn
  • cymhorthion clyw
  • sedd toiled wedi’i chodi
  • cymhorthion gweledol
  • unrhyw offer i’ch helpu i wisgo

Camau nesaf

Eich meddyginiaeth a thriniaeth

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.