Os ydych chi’n dychwelyd y ffurflen yn hwyr
Mae’r cwestiwn ar dudalen 3 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Mae’n rhaid i chi anfon eich ffurflen yn ôl o fewn 28 diwrnod o’i derbyn. Gallwch weld y dyddiad dychwelyd ar y llythyr a ddaeth gyda’r ffurflen.
Os nad ydych chi’n gwneud hyn, fel arfer bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu eich bod yn ffit i weithio ac yn atal eich cais.
Os ydych chi’n anfon y ffurflen yn ôl yn hwyr, mae’n rhaid i chi ei llenwi i mewn yr un fath a’i hanfon yn ôl cyn gynted â phosibl. Os oes gennych chi reswm da dros fod yn hwyr, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau benderfynu ei derbyn.
Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau pam eich bod yn hwyr
Llenwch y bocs gan egluro pam eich bod yn anfon y ffurflen yn ôl yn hwyr. Cofiwch gynnwys cymaint o fanylion ag y gallwch chi i egluro pam mae’r ffurflen yn hwyr, er enghraifft:
- os ydych chi wedi bod yn yr ysbyty
- os ydych chi wedi cael argyfwng gartref
- os ydych chi wedi cael profedigaeth