Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

C4 – codi a symud pethau

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 10 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

page 10a of questionnaire

Sut mae ateb y cwestiwn

Meddyliwch am eich llaw gryfaf os oes un yn gryfach na’r llall.

“Allwch chi godi a symud carton hanner litr (un peint) yn llawn hylif?”

  • Na
  • Gallaf
  • Mae’n amrywio

Ceisiwch godi peint o laeth neu wydraid peint o ddŵr. Peidiwch â phoeni os ydych chi’n gorfod ticio “na”, er enghraifft:

  • os nad ydych chi’n gallu ei godi – efallai y bydd yn rhaid i chi ei dynnu tuag atoch yn lle hynny
  • os yw’n achosi poen i chi – er enghraifft yn eich dwylo, bysedd, ysgwyddau neu wddf
  • os nad ydych chi’n gallu symud yn rhwydd – y byddech chi’n ei ollwng yn y pen draw

“Allwch chi godi a symud carton litr (dau beint) yn llawn hylif?”

  • Na
  • Gallaf
  • Mae’n amrywio

Unwaith eto, peidiwch â theimlo cywilydd am orfod ticio "na". Rhowch gynnig ar godi carton 2 beint o laeth os nad ydych chi'n siŵr.

"Allwch chi godi a symud rhywbeth mawr ond ysgafn, fel blwch cardbord gwag?"

  • Na
  • Gallaf
  • Mae’n amrywio


Mae’n iawn os nad ydych chi’n gallu gwneud hyn – ond mae’n bwysig ticio “na”.

Nid am focsys cardbord yn unig y mae’r cwestiwn hwn. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau am wybod pa mor hawdd yw hi i chi symud unrhyw beth sy’n fawr ac ysgafn, felly ceisiwch feddwl am:

  • symud bocs o hancesi yn agosach atoch chi
  • symud gobennydd o un ochr i’r llall

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Dylech egluro yn y bocs:

  • sut ydych chi’n codi a symud pethau fel arfer
  • ydy codi pethau a symud pethau yn achosi poen neu anghysur i chi - er enghraifft yn eich dwylo, bysedd, ysgwyddau neu wddf
  • am faint mae’r boen yn para, a pha mor ddrwg yw’r boen (os yw codi a symud pethau yn achosi poen i chi)
  • ydy codi a symud pethau yn eich gwneud yn fyr eich gwynt, yn benysgafn neu’n flinedig

Dylech hefyd feddwl am (ac egluro):

  • beth sy’n digwydd os ydych chi’n codi a symud pethau mwy nag unwaith
  • beth sy’n digwydd ar ddyddiadau da a dyddiau drwg
  • a ydych chi’n gollwng pethau – gallech chi roi enghraifft, a dweud beth ddigwyddodd ar ôl i chi ollwng rhywbeth (e.e. roedd yn rhaid i chi fynd i’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys)
  • os ydych chi’n cael trafferth symud pethau’n rhwydd, a sut mae hyn yn effeithio ar y ffordd rydych chi’n codi pethau.

Enghraifft

Meddai Denise: “Cefais strôc 2 flynedd yn ôl a chollais ddefnydd o’m braich chwith, mae gen i arthritis yn fy ngarddwrn arall hefyd. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i mi godi pethau, yn enwedig pethau bach fel darnau arian. Yr wythnos diwethaf fe wnes i drio tywallt diod i fi fy hun o garton roedd fy ngŵr wedi’i agor. Llwyddais i’w godi ond saethodd poen i fyny fy ngarddwrn a gollyngais y carton ar y llawr. Tasgodd y sudd i bob man ac roedd yn rhaid i mi aros i’m gŵr ddod adref i’w glirio.”

Camau nesaf

Cwestiwn 5: Medrusrwydd (defnyddio'ch dwylo)

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.