Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA50W

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Y ffurflen ESA50W yw’ch cyfle i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) sut mae'ch salwch neu'ch anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio. Mae’n rhaid i chi ddangos pam mai'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yw’r budd-dal iawn i chi.

Byddwch chi eisoes wedi cwblhau'r ffurflen ESA gyntaf (ESA1) - dros y ffôn fel arfer.

Mae’n ffurflen hir, a gall fod yn waith caled i'w llenwi – cofiwch gymryd hoe pan fydd angen.

Rhaid i chi anfon y ffurflen yn ôl o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y byddwch yn ei derbyn i’r DWP.

Cael help gyda phob rhan o’r ffurflen

Nod y tudalennau cymorth hyn yw eich arwain drwy bob cwestiwn ar y ffurflen. Byddant yn eich helpu i benderfynu os oes angen i chi ateb pob cwestiwn.

Rydym ni’n esbonio beth mae'r cwestiynau'n ei olygu mewn gwirionedd, ac yn rhoi awgrymiadau ar beth ddylech chi feddwl amdano. Dylai hyn eich helpu chi i ateb y cwestiynau a chael y budd-dal.

Help i lenwi’ch manylion

Os ydych chi'n dychwelyd y ffurflen yn hwyr

Tystiolaeth feddygol

Eich cyflyrau

Eich meddyginiaeth a'ch triniaeth

Help gyda'r cwestiynau galluoedd corfforol

Cwestiwn 1: Symud o gwmpas

Cwestiwn 2: Sefyll ac eistedd

Cwestiwn 3: Ymestyn

Cwestiwn 4: Codi a symud pethau

Cwestiwn 5: Medrusrwydd â dwylo (defnyddio eich dwylo)

Cwestiwn 6: Cyfathrebu - siarad, ysgrifennu a theipio

Cwestiwn 7: Cyfathrebu - clywed a darllen

Cwestiwn 8: Mynd o amgylch yn ddiogel

Cwestiwn 9: Rheoli'ch coluddion a'ch pledren a defnyddio dyfais gasglu

Cwestiwn 10: Aros yn ymwybodol pan yn effro

Help gyda'r cwestiynau iechyd meddwl

Cwestiwn 11: Dysgu sut i wneud tasgau

Cwestiwn 12: Ymwybyddiaeth o berygl

Cwestiwn 13: Dechrau a darfod tasgau

Cwestiwn 14: Ymdopi â newid

Cwestiwn 15: Mynd allan

Cwestiwn 16: Ymdopi â sefyllfaoedd cymdeithasol

Cwestiwn 17: Ymddwyn yn briodol

Cwestiwn 18: Bwyta ac yfed

Help gydag adran olaf y ffurflen

Asesiad wyneb yn wyneb

Gwybodaeth arall

Cael help ychwanegol gyda’r ffurflen ESA50

Os oes angen help ychwanegol arnoch i lenwi'r ffurflen ESA50, gallwch fynd i'ch Cyngor ar Bopeth lleol yng Nghymru a Lloegr neu yn yr Alban – bydd rhywun yn eich helpu i lenwi'r wybodaeth ac esbonio popeth i chi yn bersonol.

Gallwch gael help gan eich asiantaeth cymorth anabledd leol neu elusen iechyd meddwl leol.

Os oes gennych chi ganser

Does dim angen i chi lenwi'r ffurflen hon os oes gennych chi ganser a'ch bod chi:

  • yn aros am gemotherapi neu radiotherapi

  • yn cael cemotherapi neu radiotherapi

  • yn gwella ar ôl cael cemotherapi neu radiotherapi

Ticiwch y bocsys sy'n berthnasol i chi ar dudalennau 3 a 4 yna trowch at dudalen 18 a llofnodwch y bocs - yna gofynnwch i weithiwr iechyd proffesiynol (er enghraifft, eich meddyg teulu neu feddyg ysbyty) lenwi tudalen 20.

Am gymorth ymarferol a chefnogaeth emosiynol, gallwch ffonio Llinell Gymorth Macmillan am ddim ar 0808 808 0000, dydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 8pm.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 07 Ebrill 2020